Sut i sicrhau bod eich hwch yn beichiogi

Bydd deall targedau i’w rhoi ar waith mewn systemau moch yn sicrhau bod cynhyrchwyr yn cael y gorau o’u cenfeintiau. Mae nifer yr hychod beichiog, nifer y perchyll sy’n cael eu geni’n fyw a nifer y perchyll sy’n cael eu diddyfnu’n llwyddiannus yn ddangosyddion perfformiad allweddol a fydd yn cynyddu proffidioldeb a pherfformiad y fenter.

Bu’r digwyddiad yn trafod ffrwythlondeb a sut i leihau problemau ffrwythlondeb gan ganolbwyntio ar y cenfeintiau moch nodweddiadol yng Nghymru. Bu’r milfeddyg moch profiadol ac adnabyddus, Bob Stevenson, yn egluro’r rhwystrau cyffredin a wynebir gan gynhyrchwyr o ran ffrwythlondeb y genfaint.                                                          
• Pwysigrwydd sgorio cyflwr corff hesbinychod, hychod a baeddod a’r effaith ar ffrwythlondeb
• Dulliau ffrwythloni - baedd byw neu ffrwythloni artiffisial
• Iechyd perchyll a chadw moch yn fyw
• Dangosyddion perfformiad allweddol - pryd i ffrwythloni, beichiogrwydd a nifer y perchyll sy’n cael eu geni’n fyw


Prif negeseuon
Dywedodd Bob Stevenson ei bod yn bwysig iawn bod moch yn cael eu gadael mewn amgylchedd tawel ar ôl paru ac na ddylid eu symud na’u cymysgu gyda grwpiau newydd o foch yn fuan ar ôl paru.

Mae nifer o ffactorau’n gallu effeithio ar feichiogrwydd mewn hesbinychod a hychod, gan gynnwys y canlynol:
• Rhy denau neu’n rhy dew (cyflwr corff yr hesbinwch neu’r hwch)
• Oedran
• Baedd/dull ffrwythloni a ddefnyddiwyd
• Amseru
• Amgylchedd
• Grŵp

Anogodd Bob Stevenson geidwaid moch i fod yn ymwybodol o ffactorau amgylcheddol a chyflwr y mochyn gan y byddai hynny’n effeithio ar p’un ai fyddai’r hwch yn beichiogi a nifer yr wyau sy’n cael eu ffrwythloni’n effeithiol.

Ystyriwch amseriad y paru.
Mae ofyliad yn digwydd tua 36-40 awr ar ôl dechrau gofyn baedd.
Y cyfnod gorau ar gyfer ffrwythloni yw 6-12 awr cyn ofyliad.
• Felly, parwch 24 awr ar ôl i’r hwch ddechrau gofyn baedd a bridiwch eilwaith 8-16 awr yn ddiweddarach os bydd yr hwch yn dal i dderbyn y baedd neu’n parhau i ddangos ymateb positif (sefyll) wrth roi pwysau ar ei chefn (back pressure test).

Mae’n bosibl defnyddio baedd gwahanol ar gyfer pob pariad os mai dim ond ar gyfer moch i’r farchnad y mae’r bridio’n digwydd.
Peidiwch â gadael baeddod gyda hychod heb unrhyw oruchwyliaeth a goruchwyliwch baru byw bob amser.

 

Negeseuon i’w cofio

Sicrhewch fod unrhyw stoc sy’n cael ei brynu’n cael ei arwahanu am 3-6 wythnos ac yna’n cael eu hintegreiddio i’r genfaint yn araf. Caniatewch amser i foch setlo cyn eu paru. Cadwch y moch mewn grwpiau cymdeithasol ac osgowch gymysgu o gwmpas amser paru.

Y cyfnod gorau ar gyfer ffrwythlonni yw 6-12 awr cyn ofyliad.

Diolch i’n siaradwr gwadd - Bob Stevenson a Hugh a Katharine, Fferm Penlan.