Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Bîff y Mynyddoedd Cambriaidd
Grŵp Bîff y Mynyddoedd Cambriaidd
Yr Alban
26 - 28 Mehefin 2019
1) Cefndir
Yn dilyn trafodaethau gyda Grŵp Bîff yr Ucheldir dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd yn faint i ni fel Grŵp Bîff y Mynyddoedd Cambriaidd, gael ein gwahodd i fynd i ddiwrnod agored Cynllun Bîff yr Ucheldir, ar fferm y teulu Martins yn Gorgustan, Muir of Ore, ar yr Ynys Ddu.
2) Yr Amserlen
Diwrnod Cyntaf
Cychwynnwyd yr ymweliad yn Forres, yr Alban gyda Jock a Fiona Gibson sydd yn berchen ar gigyddfa fechan leol, MacBeths Butchers. Roeddem yn ffodus iawn o gael golwg ar fusnes cigydda’r teulu, sy’n defnyddio cig a helgig lleol. Daw 60% o’u hincwm o gyflenwi tafarndai a bwytai lleol tra bod y 30% arall yn dod o’u gwasanaeth gwerthu mewn blychau ar-lein sydd ar ei brysuraf dros dymor y Nadolig, ac yn cael ei werthu trwy’r Deyrnas Unedig. Gwerthir y 10% olaf dros gownter y siop.
Ail Ddiwrnod
Fe wnaethom deithio’r daith fer i fferm deuluol y teulu Martins ar yr Ynys Ddu lle’r oedd diwrnod agored Cynllun Bîff yr Ucheldir yn cael ei gynnal. Mae’n fusnes 688 hectar, 283 hectar yn eiddo i’r teulu a’r gweddill yn cael ei ffermio ar y cyd neu ar rent. Tyfodd y fferm 485 hectar o farlys bragu a 101 hectar o datws had, y cyfan yn cael eu gwerthu ar gontract.
Neilltuir y 101 hectar arall ar gyfer pori a gwneud silwair i besgi 500 i 600 o wartheg, a brynir fel gwartheg stôr ym marchnadoedd Dingwall a Northern Markets. Cânt eu gwerthu wedi eu pesgi, trwy ABP Perth, fel un o’r 150 o gynhyrchwyr sy’n rhan o Gynllun Bîff yr Ucheldir, gan werthu trwy Sainsbury’s dros y cownter cig ffres.
Ar ôl ein cinio bîff yr Ucheldir, buom yn gwrando ar Fergus Ewing ASA fel y siaradwr gwadd yng nghyfarfod blynyddol Cynllun Bîff yr Ucheldir. Roedd yn agoriad llygad clywed gweinidog yr Alban yn rhoi rhagolwg bositif iawn ac yn chwilio am gyfleoedd yn rhagweithiol i ddatblygu diwydiant bîff yr Alban a diwydiannau ehangach.
Daeth y cyfarfod i ben gyda seiat holi rhwng y cynhyrchwyr, cynrychiolwyr ABP a chynrychiolydd Sainsbury’s, Jocelyn Orr. Roedd y trafodaethau rhwng y cynhyrchwyr ac ABP yn agored iawn, ac yn cadarnhau bod angen gwneud mwy o ran cynaliadwyedd cynhyrchu bîff.
Daeth ein diwrnod i ben gyda gwahoddiad caredig gan gadeirydd Cynllun Bîff yr Ucheldir, David Whiteford, i farbeciw a thaith o amgylch ei fferm Castlecraig, yn agos i Nigg, oedd yn edrych dros Cromarty ac Aber Moray.
Trydydd Diwrnod
Diwrnod o deithio, ac ystyried y camau nesaf i’n grŵp, Bîff y Mynyddoedd Cambriaidd.
3) Camau Nesaf
Ers dychwelyd rydym yn edrych ar roi bîff mewn blychau i’w werthu ar-lein. Mae pum aelod iau o’r grŵp yn awr yn mynychu dosbarthiadau cigydda i gael mwy o wybodaeth am y gadwyn bîff ehangach a gwella eu sgiliau i gyd-fynd â’n hymdrechion yn y dyfodol dros Bîff y Mynyddoedd Cambriaidd. Hefyd, rydym wedi cael arweiniad arbenigol gan bobl sy’n cael eu cyflogi yn ardal y Mynyddoedd Cambriaidd.
Yn ychwanegol, rydym wedi cael cyfle i hyrwyddo trwy roi Bîff y Mynyddoedd Cambriaidd ar fwydlen digwyddiad corfforaethol gan Jaguar Land Rover yn hwyrach eleni, sy’n cael ei gynnal ar Safle Carafannau a Gwersylla Dol Llys yn ardal y mynyddoedd Cambriaidd.