Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Sir Benfro

Wedi’i ariannu drwy raglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a Gwasanaeth Cynghori o fewn Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020

Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Sir Benfro

Gogledd Cymru

1af - 3ydd Tachwedd 2018


1) Cefndir

Sefydlwyd y Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Sir Benfro fel is-bwyllgor yn y ffederasiwn sirol i ffermwyr ifanc gymryd rhan mewn teithiau astudio, ymweliadau a chroesawu siaradwyr gwadd sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a materion gwledig. Mae'n helpu cynnal ochr addysg ffermio’r CFfI pan fo cymaint o amrywiaeth o weithgareddau a chystadlaethau bellach ar gael drwy’r CFfI.

Mae’r grŵp materion gwledig yn cynnal taith astudio flynyddol yn ogystal ag ymweliadau dydd a gyda’r nos, ac yn croesawu siaradwyr gwadd drwy gydol gweddill y flwyddyn.

Nodau’r daith:

Nodau’r daith yw edrych ar wahanol agweddau o fusnesau fferm, er enghraifft o dir glas, sydd o ddiddordeb mawr i nifer o ffermwyr Sir Benfro, i gyfleoedd arallgyfeirio, ac agweddau geneteg gyda Genus yn Rhuthun. Hefyd i ddatblygu dealltwriaeth ynglŷn â’r gadwyn gyflenwi a phroseswyr, gan gynnwys beth fydd y prif ffactorau fydd yn eu harwain at y dyfodol. Dylai’r daith hon gynnig trosolwg cytbwys, gan alluogi aelodau i fynd â rhywbeth diddorol yn ôl gyda nhw ar gyfer eu busnes. Byddwn hefyd yn edrych ar fuches laeth ar raddfa fawr sy’n gweithredu o fewn cytundeb ffermio cyfran, yn ogystal â system lloia yn y gwanwyn a ddefnyddir gan nifer o ffermwyr ar y daith.

 2) Trefn y daith

Diwrnod Cyntaf:

Ymweld â Genus yn Rhuthun i weld sut oedd y fridfa’n cael ei rhedeg, ynghyd â geneteg bresennol. Cawsom hefyd gyfle i weld teirw penodol, y broses o gasglu semen a’r dechnoleg newydd ar gyfer semen yn ôl rhyw.

Yn ystod y prynhawn, cawsom ymweld ag Ystâd Rhug, lle cawsom drosolwg o’r busnes a’i ddatblygiad. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar farchnata eu cig ac elfen arallgyfeirio’r busnes, cyn cael taith o amgylch yr ystâd. 

Ail ddiwrnod:

Ymweld â Genus yn Rhuthun i weld sut oedd y fridfa’n cael ei rhedeg, ynghyd â geneteg bresennol. Cawsom hefyd gyfle i weld teirw penodol, y broses o gasglu semen a’r dechnoleg newydd ar gyfer semen yn ôl rhyw.

Yn ystod y prynhawn, cawsom ymweld ag Ystâd Rhug, lle cawsom drosolwg o’r busnes a’i ddatblygiad. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar farchnata eu cig ac elfen arallgyfeirio’r busnes, cyn cael taith o amgylch yr ystâd.

Trydydd diwrnod:

Ar ein ffordd adref, cawsom ymweld ag Ystâd Rhiwlas, lle cawsom gyfle i siarad â’r ffermwr, Sam, a oedd wedi dechrau cytundeb ffermio cyfran gyda pherchennog yr ystâd. Cawsom drosolwg o sut y dechreuodd ffermio cyfran, y problemau a gafodd ar hyd y daith, ynghyd â’r cyfnodau mwyaf ysbrydoledig. Cawsom daith o amgylch y fferm ac roedd yn gwbl agored o ran y ffordd y mae’r busnes yn cael ei redeg a’r elfennau ariannol. 

3) Camau Nesaf

Mae’r hyn a ddysgwyd wedi cael ei ddatblygu a’i ddefnyddio mewn ffyrdd gwahanol gan bob aelod a fu’n bresennol ar y daith. Roedd dau o’r aelodau erioed wedi defnyddio AI o’r blaen, felly ar ôl dysgu llawer am Genus ac enillion posibl o ran nodweddion geneteg, maen nhw bellach yn ystyried defnyddio AI. Roedd nifer o’r aelodau’n anghyfarwydd â’r gwahanol ddulliau y mae modd pennu rhyw semen a’r gwahanol lefelau o hyfywedd gan ddibynnu sut oedd y sberm yn cael ei sortio. Roedd pob aelod yn nodi y byddai’r wybodaeth a ddysgwyd o fudd iddyn nhw, gyda rhai’n nodi efallai y bydden nhw’n rhoi cynnig ar ddefnyddio semen yn ôl rhyw eto gan wybod bod posibilrwydd y byddai gwellt mwy hyfyw na’r rhai a ddefnyddiwyd o’r blaen ar gael, gan wella eu model busnes ac arwain at lai o wastraff. 

 

Roedd y daith i IBERS yn ardderchog, lle cawsom gyfle i edrych ar waith ymchwil ar laswellt a meillion. Roedd nifer o’r aelodau’n nodi y byddai ganddyn nhw fwy o wybodaeth y tro nesaf y bydden nhw’n bwriadu ail-hau gan eu bod yn gwybod mwy am yr amrywiaethau gwahanol. Roedd aelodau’n teimlo bod edrych ar fridiau hybrid yn ddiddorol iawn, a chafwyd eglurhad y gallai bridiau hybrid fod yn 95% o un math a dim ond 5% o fath arall - ffaith nad yw’n cael ei grybwyll bob amser pan fyddant yn cael eu marchnata. Cynghorwyd y dylent gael eglurhad ynglŷn â manylion bridio rhywogaeth er mwyn bod yn gwbl sicr ynglŷn â’r hyn yr oeddent yn ei brynu a bod canran y gymysgedd o laswellt o fewn yr hybrid yn addas ar gyfer gofynion y fferm. Cafwyd trafodaeth hefyd ynglŷn â gwahanol ddulliau o arallgyfeirio yn IBERS, er enghraifft tyfu cennin Pedr ar gyfer meddyginiaeth, ac mae gwasanaeth ar gael i ffermwyr lle mae’n bosibl iddynt gysylltu pe byddai diddordeb ganddynt i edrych ar rywbeth yn ymwneud â’r ochr bio-buro. Yn IBERS, fe wnaethon nhw egluro’r rhaglenni dysgu o bell sydd ar gael sydd wedi fy ysbrydoli i yn ogystal â rhai aelodau eraill o’r grŵp.

 

Yn Hufenfa De Arfon, cawsom ddysgu am y grŵp cynhyrchwyr, trefn y busnes a chytundebau llaeth, a oedd yn arbennig o ddefnyddiol i’w cymharu gyda First Milk. Cawsom hefyd gyfle i ddysgu am fwydo a ffactorau genetig o ran cynhyrchiant llaeth a’r

hyn y mae prynwyr a chwsmeriaid yn chwilio amdano, nawr ac at y dyfodol. Rhoddodd y rheolwr yno hefyd ychydig o ragolygon ynglŷn â phris llaeth sydd bob amser yn ddefnyddiol i’r aelodau ei ystyried. 

Roedd Ystâd Rhug yn le da i ymweld â hi. Rhoddodd yr ymweliad hwn gyfle i ddysgu sut i fynd o gwmpas arallgyfeirio, brandio a phroffidioldeb gwahanol fusnesau. Dysgodd yr aelodau bwysigrwydd marchnata eu cynnyrch gyda phris premiwm a stori, a oedd yn enwedig o ddefnyddiol i un o’r mynychwyr sy’n edrych ar werthu llaeth yn uniongyrchol o’r fferm. 

Roedd ymweld ag Ystâd Rhiwlas yn ddiddorol iawn, gan fod Sam wedi egluro ei stori a phopeth y mae wedi’i wneud i gyrraedd y cam hwn yn ei yrfa ffermio. Bu’n siarad am y busnes a’r cytundeb ffermio cyfran, gan gynnwys y manteision a’r anfanteision. Soniodd hefyd am adroddiad Nuffield a oedd wedi ei ysbrydoli a’i gynorthwyo gyda phob penderfyniad a sut mae’n rhedeg y fferm. Mae nifer o’r aelodau wedi dechrau darllen ei adroddiad Nuffield sy’n amlinellu popeth ynglŷn â ffermio llaeth, o’r busnes ei hun i sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith - mater sy’n effeithio ar bob ffermwr llaeth a phobl ifanc yn y diwydiant.

Byddwn yn cyflwyno’r prif ganfyddiadau yn y cyfarfod nesaf, a fydd yn golygu y bydd pob aelod o’r pwyllgor yn elwa, hyd yn oed y rhai nad oedd yn gallu mynychu’r tro hwn.

Ar y cyfan, roedd hon yn daith addysgiadol, llawn ysbrydoliaeth, gyda’r mynychwyr yn dysgu llawer i fynd yn ôl i’w busnesau eu hunain. Fel darlithydd amaethyddol, rydw i eisoes wedi trafod yr ymweliad a’r wybodaeth a ddatblygwyd gyda fy myfyrwyr, a byddaf yn edrych ar fynd â nhw ar daith debyg yn y dyfodol. Cefais fy ysbrydoli’n benodol gan y ffermwr cyfran, a byddai gen i ddiddordeb trefnu ymweliad arall yno gyda fy myfyrwyr neu ei groesawu i siarad â nhw fel siaradwr gwadd.