Tanygraig Diweddariad ar y prosiect – Terfynol

Prif ganlyniadau:

  • Trwy ddefnyddio biosymbylydd gwymon, gwelwyd cynnydd o 733 kgDM/ha o ran cynnyrch ar y llain a gafodd ei drilio’n uniongyrchol a 498 kgDM/ha ar gyfer y llain a heuwyd gyda’r peiriant Opico, sydd gyfwerth â chynnydd o £92.33/ha mewn allbynnau ar gyfartaledd.
  • Ychydig o wahaniaeth a welwyd rhwng y triniaethau drilio uniongyrchol a hau gydag oged Opico o ran presenoldeb meillion a chynnyrch.
  • Efallai y byddai’r ail-hadu wedi bod yn fwy llwyddiannus dwy oedi’r broses tan ar ôl cynhyrchu silwair yn hytrach na’r gwanwyn.

Cefndir:

Gyda buddion cynhyrchiant ac amgylcheddol gwndwn amrywiol ar gynnydd, mae'r achos dros gymysgu meillion, yn enwedig meillion coch gyda hadau glaswellt, yn dod yn fwyfwy deniadol. Mae’r lefelau protein uchel mewn meillion coch yn un o’i rinweddau pwysicaf ar gyfer cynhyrchu silwair o ansawdd uchel. Yn ogystal, mae meillion coch hefyd yn cael eu hystyried yn fuddiol ar gyfer eu gallu i sefydlogi nitrogen, gan leihau'r angen am wasgaru nitrogen ar y tir. Mae'r defnydd o fiogynnyrch yn seiliedig ar wymon hefyd wedi bod yn ennill momentwm mewn systemau cynhyrchu cnydau oherwydd eu cydrannau bioactif unigryw a'u heffeithiau. Dros y degawdau, mae echdynion gwymon wedi cael eu harchwilio'n fanwl i'w defnyddio wrth gynhyrchu cnydau er mwyn gwella cnwd biomas ac ansawdd cynnyrch. Dangoswyd bod yr echdynion hyn yn effeithio'n gadarnhaol ar eginiad hadau a thwf planhigion ym mhob cam hyd at y cynaeafu, a hyd yn oed ar ôl cynaeafu.

Diben y gwaith:

  1. Edrych ar effaith ymgorffori biogynnyrch sy’n seiliedig ar wymon ar wndwn meillion coch er mwyn deall yr effaith ar sefydlu’r cnwd, ei dwf a’i ansawdd
  2. Cynhyrchu silwair o ansawdd uwch i’w fwydo i wartheg sy’n tyfu dros y gaeaf drwy wella effeithlonrwydd adnoddau a gwneud y defnydd gorau o borthiant a dyfir ar y fferm, cyfrannu at safonau uchel o ran iechyd a lles y fuches, a chyfrifo’r buddion economaidd i’r busnes o ganlyniad i besgi gwartheg ar borthiant a dyfir gartref.
  3. Lleihau’r angen i brynu gwrtaith artiffisial sy’n gwella effeithlonrwydd adnoddau.
     

Yr hyn a wnaed:

Defnyddiwyd tri chae (0.81ha, 0.87ha ac 1.02ha) a oedd wedi cael eu rheoli’n debyg yn y gorffennol, gyda phob cae’n cynnwys 4 llain arbrofol. Gellir gweld y pedair llain yn Ffigur 1 isod.
 

                      Llain 1

                    Drilio uniongyrchol

           Biosymbylydd gwymon 

                    Llain 2 

                    Opico

Biosymbylydd gwymon

Llain 3

                   Drilio uniongyrchol

 

                    Llain 4

                     Opico


Ffigur 1- Gosodiad y lleiniau ym mhob cae.

Fel y gwelir yn ffigur 1, rhannwyd y lleiniau i’r triniaethau canlynol: drilio uniongyrchol gyda biosymbylydd gwymon, drilio uniongyrchol yn unig, hau gan ddefnyddio’r peiriant Opico gyda’r biosymbylydd gwymon, a hau a defnyddio’r peiriant Opico yn unig.

Tabl 1. Amserlen y prosiect.

 

Ebrill

Mai

Meh

Gorff

Hau’r hadau

    

Toriad cyntaf silwair

    

Gwasgariad gwymon 1af

    

2il wasgariad gwymon

    

Ail doriad silwair

    

Cafodd pob un o’r lleiniau meillion coch eu tros-hau ar 22 Ebrill gyda chymysgedd meillion coch gan Field Options ar gyfradd o 3kg/erw gan ddefnyddio’r dril uniongyrchol neu opico. Oherwydd oedi gyda’r biosymbylydd gwymon yn cyrraedd y fferm, ni chafodd ei wasgaru ar y toriad silwair cyntaf a gymerwyd ym mis Mehefin fel y gwelir yn amserlen y prosiect (tabl1). Rhoddwyd dau wasgariad o’r gwymon ar grynodiad o 4% dair wythnos ar wahân ar gyfradd o 7.5 litr/ha/gwasgariad gan ddefnyddio peiriant chwistrellu’r fferm sydd wedi’i osod ar dractor. Cafodd y silwair o’r ddau doriad hefyd ei ddadansoddi. Cymerwyd mesuriadau cynnyrch glaswellt ar draws pob un o’r lleiniau, a chymerwyd samplau hefyd i asesu deunydd sych, egni metaboladwy a phrotein crai'r glaswellt a dorrwyd.

 

Canlyniadau:

Ffigur 2. Dadansoddiad o laswellt ffres gydag a heb y biosymbylydd gwymon.


Tabl 2. Dadansoddiad o laswellt ffres gydag a heb y biosymbylydd gwymon
 

 

Gwymon

Rheoli

Deunydd sych

24.15

25.6

Protein crai

149.5

130

Gwerth D

65

61.35

Egni metaboladwy

10.2

9.6

Ffibr glanedol niwtral

426.5

425.5

Lludw

58

58.5

Olew

22

20

Siwgr

125

112

Gellir gweld y dadansoddiad o laswellt ffres uchod yng ngraff 2 a thabl 2 gyda’r canlyniadau’n nodi cynnydd bach iawn yn ansawdd y glaswellt ar y lleiniau gyda gwymon o’i gymharu â’r llain reoli. Roedd lefelau protein yn 149.5g/kg o’i gymharu â 130g/kg, gwerth D yn 65 o’i gymharu â 61.35 ac yn olaf, roedd y lefelau siwgr hefyd yn uwch ar 125g/kg o’i gymharu â 112g/kg.

Ffigur 3. Cynnyrch silwair ar y gwahanol leiniau (kg/DM ha)

 

Fel y gwelir yn ffigur 3 uchod, nid oedd llawer o wahaniaeth rhwng y triniaethau drilio uniongyrchol a hau gan ddefnyddio peiriant Opico, gyda’r dull drilio uniongyrchol yn cynhyrchu 49kgDM/ha yn fwy. Mae’n bosibl bod y cynnyrch llai yn y gwndwn a heuwyd gan ddefnyddio’r peiriant Opico o ganlyniad i aflonyddu mwy ar y gwndwn presennol, a arweiniodd yn ei dro at gynhyrchu llai.

Fodd bynnag, fe wnaeth y bwyd dail gwymon gynyddu’r cynnyrch fesul hectar yn sylweddol ar y ddwy lain, gyda chynnydd o 733 kgDM/ha ar y llain wedi’i drilio’n uniongyrchol a 498 kgDM/ha ar y llain a heuwyd gyda’r peiriant Opico. Gyda phris o oddeutu 15c fesul kg o ddeunydd sych ar gyfer silwair, byddai hyn wedi golygu y byddai’r allbwn fesul ha wedi cynyddu £92.33.

Wrth dros-hau, mae drilio uniongyrchol a hau yn eang yn gweithio’n dda fel ffordd o sefydlu’r hadau. Achosodd yr oged Opico fwy o ddifrod i’r gwndwn presennol, gan leihau’r cynnyrch silwair cyffredinol. Fodd bynnag, roedd hyn o fudd o ran sefydlu’r meillion coch gan nad oedd y gwndwn mor gystadleuol yn erbyn yr hadau newydd. O safbwynt sefydlu, cafodd y meillion coch rywfaint o anhawster i sefydlu yn y gwndwn silwair, yn enwedig yn y gwanwyn ar ôl gwasgaru gwrtaith. Yn ddelfrydol, dylai meillion coch sefydlu ar ôl torri silwair i’w alluogi i sefydlu yn yr adlodd.

Mae’n glir bod y gwymon wedi cynyddu potensial cynhyrchu ar draws y lleiniau ac wedi gweithredu fel biosymbylydd. Bydd arbrofion pellach yn cael eu cynnal yn 2025 i weld a fydd manteision bwydo’r dail yn parhau ar gyfer toriadau yn y dyfodol a thrwy gydol y tymor.
 

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:

  • Mae amseru’n bwysig – ar ôl cynaeafu’n ddelfrydol, heb fod ar ôl canol mis Medi.

  • Dylai pH y pridd fod yn 6 o leiaf a dylid cywiro cemeg y pridd cyn drilio.

  • Pan fydd yr hadau’n cael eu drilio, dylid sicrhau bod lleithder yn y pridd a bod glaw yn y rhagolygon.

  • Dewiswch y dril cywir ar gyfer y dasg gan fod dril trwm yn gallu hau hadau’n rhy ddwfn – ni ddylid drilio’r meillion yn ddyfnach nag 1cm.

  • Mae’n rhaid bod yn ofalus o ran sut y caiff meillion eu rheoli yn ystod yr wyth wythnos ar ôl hau. Peidiwch â phori am fwy na diwrnod i dorri’r 4cm uchaf. Porwch eto ymhen pythefnos mewn ffordd debyg i atal glaswellt rhag cysgodi’r planhigion meillion ifanc.