Pam fyddai Tom yn fentor effeithiol

  • Gyda blynyddoedd lawer o brofiad a thrwy frwdfrydedd personol am y pwnc, mae Tom wedi casglu gwybodaeth eang am blanhigion, ffrwythau a choed cnau cynhenid, coed i gael pren a chnydau coed gwahanol sy’n gweithio’n dda yn hinsawdd Cymru.
  • Ers 2012 mae wedi bod yn cynyddu ei ymgynghoriaeth amaethgoedwigaeth ei hun ar dyfu coed a phynciau yn gysylltiedig â choed.
  • Treuliodd yr ugain mlynedd diwethaf yn ymweld â gwahanol safleoedd a systemau amaethgoedwigaeth trwy ogledd Ewrop a’r Deyrnas Unedig sydd wedi rhoi dealltwriaeth eang iddo o ddulliau cysgodi, ffytoleddfu, lliniaru llifogydd, cnydau masnachol ac adfer cynefinoedd.  
  • Mae wedi plannu coed ar ei safle 10 erw ei hun yn Sir Benfro, gan arbrofi gyda rhywogaethau o goed, cnydau gwahanol a mathau penodol a ddatblygwyd ar gyfer cynnyrch dibynadwy er mwyn gweld beth sy’n ffynnu yn hinsawdd Cymru. 
  • Mae sut y gall coed a phlanhigion eraill gael eu cynnwys mewn busnesau fferm a thirwedd Cymru yn bwnc y mae’n edrych ymlaen at ei rannu gyda ffermwyr eraill sydd â diddordeb fel mentor Cyswllt Ffermio, pan fyddwch chi’n cael clywed am ei lu o lwyddiannau ac am yr heriau y mae wedi eu hwynebu hefyd.  
  • Yn ei swydd ymgynghori amaethgoedwigaeth a wnaeth dros y deng mlynedd diwethaf, mae’n mwynhau trafod syniadau pobl eraill a helpu i’w datblygu yn systemau sy’n gweithio, cynaliadwy sy’n cyd-fynd â’r gweithgareddau sy’n bodoli.
  • Yn wrandäwr da, mae’n darlunio syniadau’n glir ac yn cyfleu ei syniadau mewn modd cryno a phroffesiynol. Gallwch ddisgwyl cael adborth didwyll a chefnogaeth i’ch helpu i ddatblygu syniadau a chynlluniau newydd i blannu coed ar unrhyw raddfa.
     

Busnes fferm presennol

  • Mae Tom yn rhedeg tyddyn 10 erw yn Sir Benfro.  Yn ychwanegol at gadw dofednod a defaid Torwen, mae wedi plannu perllan gnau a pherllan ffrwythau (y ddwy yn cael eu pori gan ddefaid) a sawl ardal o wair coed / ysguboriau coed, yn ogystal â chynhyrchu coed/coedlannau ar raddfa fach.
  • Yn 2012, sefydlodd Tom ei ymgynghoriaeth amaethgoedwigaeth ei hun. Mae’n gwneud gwaith ymgynghori preifat i berchenogion tir trwy Orllewin Cymru, gan weithio ar ddylunio perllannau, systemau pori coed a phrosiectau creu coetir. 
  • Yn ddiweddar cychwynnodd werthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd o feithrinfa ar y safle, menter y mae’n bwriadu ei datblygu ymhellach. 

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • Er nad yw wedi cael hyfforddiant ffurfiol mewn coedwigaeth, mae gan Tom wybodaeth eang am y pwnc trwy fwy na 25 mlynedd o weithio yn y sector. 

  • Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae wedi plannu cannoedd lawer o goed ar ei safle ei hun fel ffordd o arbrofi gyda rhywogaethau gwahanol, cnydau gwahanol a mathau penodol a ddatblygwyd ar gyfer cynnyrch dibynadwy er mwyn gweld beth sy’n ffynnu yn hinsawdd Cymru. 

  • Treuliodd Tom 25 mlynedd yn casglu hadau a meithrin o fathau a welodd trwy ei waith, gan gasglu casgliad mawr o goed unigryw a phlanhigion eraill sy’n cael eu tyfu ar ei dyddyn.
     

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes

“Nid oes raid i blannu rhagor o goed ar eich fferm olygu aberthu tir
cynhyrchiol i goetir. Gyda dyluniad plannu da sy’n taro’r cydbwysedd cywir,
gall hyd yn oed ychydig o goed gyfoethogi’r defnydd tir yn fawr.”
“Mae anifeiliaid wrth eu bodd hefo coed. Mae cynnwys coed mewn porfa yn
cynnig cysgod, maent yn agored i’w bori, hyd yn oed lle i gael crafu! Gallwch
ddisgwyl gweld gwelliannau yng nghyflwr y corff a’u hwyliau.”
“Mae coed yn gwella’r cylchu maetholion, llunio pridd ac ymdreiddiad dŵr, gan
arwain at lai o fewnbynnau i’r ffermwr.”
“O ran bywyd gwyllt gall un goeden ar ganol cae gyda chanopi llawn fod yn
werth cymaint â nifer o goed cyfatebol wedi eu tyfu yn agos at ei gilydd.”