Tyfu rhyg

Ystyrid y gallai rhyg fod yn gnwd defnyddiol oherwydd anawsterau a ragwelir yn y tymor hir â rhygwenith:

  • Mae rhygwenith yn rhan addas iawn o’r cylchdro cnydau, ond mae’n agored iawn i niwed gan y gawod felyn, sy’n lleihau’r cnwd yn sylweddol ac mae’n gostus o ran amser ac arian i’w reoli.
  • Nid yw mathau ohono wedi cael eu profi i weld a allant wrthsefyll clefydau.
  • Mae bridwyr yn cael trafferth cynyddu’r nifer o fathau newydd o rygwenith felly efallai y bydd yn diflannu yn y tymor hir.
  • Mae rhyg yn llai agored i niwed gan haint gwynt na gwenith, haidd a rhygwenith. (Pwysig oherwydd byddai’n 3ydd cnwd grawn).
  • Mae hau had yn gynnar yn fuddiol iddo.  
  • Ymddangosai’n ddewis da yn lle rhygwenith.
  • Mwy o gyfle i reoli chwyn nag yn achos haidd
  • OND:  Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael ynghylch tyfu a phorthi gwartheg â grawn rhyg, sy’n cael ei gynaeafu yn bennaf fel cnwd cyfan.

Agronomeg Rhyg Gaeaf

 

Mae dyfnder hau’r had yn bwysig

  • Peidiwch â hau’r had yn rhy ddwfn, oherwydd mae hadau rhyg yn fychan, ac nid oes ganddynt ddigon o egni i alluogi i’r dail ymddangos o fannau dwfn; mae KWS yn argymell hau ar ddyfnder o 2cm

Bydd rheoli gwlithod yn hanfodol yn ystod y camau cynnar

  • Ystyriwch ddefnyddio Deter i drin yr hadau
  • Yn enwedig yn achos cnydau â chyfraddau is o hadau (e.e. Rhyg Hybrid)
  • Dylech chi osgoi amgylchiadau yn y gwely had sy’n arwain at weithgarwch gan wlithod

Gall rhyg ddal BYDV (Firws y Gawod Felyn ar Haidd)

  • Ystyriwch drin yr had â Deter a dilynwch gynghorion arferion gorau yn ymwneud â defnyddio plaladdwyr sy’n cynnwys pyrethroid fel yn achos unrhyw gnydau grawn  
  • Ceisiwch hadu o ganol i ddiwedd Medi, a dylai cyfraddau hau fod yn seiliedig ar adeg yr hau ynghyd ag amgylchiadau’r gwely had, y pridd a’r lleithder, yn amrywio o 200 i 300+ fesul m2
  • Ym Mhendre Uchaf, cafodd math o’r enw SU Cossani Hybrid gan Saaten Union (bridiwr planhigion o Ddenmarc) ei hau ar ddiwedd Medi 2016 ar gae 6ha ar gyfradd o 200 hadyn/m2 a chafodd ei chwistrellu â chwynladdwr a ddefnyddir i glirio chwyn cyn i ddail y cnwd ymddangos

Rhyg 9 Rhagfyr 2016

Mewnbynnau agrocemegol

Rhyg 19 Mai 2016

Tywysennau rhyg ifanc wedi’u difrodi gan farrug, 19 Mai

Yn gryno:

  • Yn anffodus, fe wnaeth barrug hwyr ddifrodi cyfran o dywysennau’r rhyg wrth iddynt ymddangos
  • Cafodd y cnwd ei gynaeafu’n hwyr oherwydd tywydd gwlyb
  • Fe wnaeth hyn arwain at gnwd o 6.9T/ha (2.8T/ac)
  • Fe wnaeth y cnwd rhyg golled o £132.83/ha o’i gymharu ag elw o £270.79/ha yn achos y rhygwenith yn 2017
  • Roedd cnwd y rhygwenith yn fwy (7.75T/ha) ac roedd y costau yn is
  • Fe wnaeth nifer o ffactorau beri anfanteision i’r rhyg:
  • Dyma’r unig gae ar y fferm oedd ag unrhyw gynffonwellt du
  • Mae rhyg yn agored iawn i lwydni a rhwd brown
  • Mae arno angen rhaglen rheoleiddio twf planhigion cadarn iawn i’w gadw ar ei draed
  • Bydd yn aeddfedu yn gynnar yn y tymor, felly mae’n agored i berygl barrug hwyr

Darparwyd cyngor agronomeg ynghylch cnydau grawn a dyfir ym Mhendre Uchaf gan Scarlett Sentenbien, Agrovista.