Ty’n yr Onnen: Diweddariad Terfynol ar Brosiect Ein Ffermydd

Prif fuddion Coed-borfeydd a fodelwyd ar gyfer Ty'n yr Onnen

Prif ganlyniadau:

  • Elw ar fuddsoddiad (ROI) a chreu cyfoeth: Rhagwelir y bydd y system hon yn dyblu gwerth y tir dros ugain mlynedd trwy greu ased ar gyfer y dyfodol (pren/carbon). Yn y tymor byr i ganolig (Blynyddoedd 10-20), disgwylir y bydd yr ardal 4.91 hectar (ha) yn cynhyrchu £3,338.80 yn fwy o ran budd net na phori traddodiadol, gan bentyrru sawl ffrwd incwm, gan gynnwys defaid, grantiau a phelenni pren/tanwydd pren
  • Arbedion Cost Sylweddol (Llafur a Dwysfwyd): Mae cysgod y coed yn creu microhinsawdd gan ganiatáu i’r da byw bori yn yr awyr agored am fwy amser. Rhagwelir y bydd y budd hwn yn unig yn arbed £5,000 bob blwyddyn o bosibl ar borthiant drud dros y gaeaf a llafur ar gyfer y siediau (yn seiliedig ar ragdybiaeth o lwyfan bori 10ha).
  • Llai o farwolaethau ŵyn: Mae’r cysgod a ddarperir gan y coed newydd a datblygiad gwrychoedd gwydn yn cael ei feintoli fel arbediad arian parod uniongyrchol. Mae’r cysgod hwn yn lleihau marwolaethau ŵyn yn sylweddol, gan arwain at arbediad blynyddol posibl o hyd at £4,000.
  • Gwytnwch Amgylcheddol a Chyfalaf: Mae’r prosiect yn trosi buddion amgylcheddol yn enillion economaidd. Drwy arallgyfeirio i Gyfalaf Naturiol (h.y. Coed-borfeydd), sy’n darparu Gwasanaethau Ecosystem (cysgod, storio carbon), mae’r fferm mewn sefyllfa strategol i elwa o gynlluniau taliadau gwyrdd at y dyfodol, ac mae’n diogelu’r busnes rhag newidiadau mewn polisi amaethyddol.
  • Perfformiad hirdymor ardderchog: Mae’r system coed-borfeydd yn darparu proffil gyda risg is ynghyd ag incwm uwch, gan gynhyrchu hyd at £680/ha yn fwy na’r dull busnes fel arfer ar ôl sefydlu.

Cefndir: 

Mae Ty'n yr Onnen yn fferm 250 erw yn Waunfawr, ger Caernarfon, sy’n cael ei rheoli gan Leonard Swain, Helen Griffith a’u mab, Gareth. Mae’r fferm, sy’n gartref i 250 0 famogiaid bridio Cymreig Penderyn a Cheviot, wedi arallgyfeirio i gynhyrchu ynni, menter dwristiaeth a chynaeafu madarch, ac maent hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o gynhyrchu hopys.

Nod y prosiect hwn yw datblygu cynllun manwl ar gyfer integreiddio systemau amaeth goedwigaeth ar fferm Ty'n yr Onnen, gan ganolbwyntio ar arferion amaethyddol sy’n ystyried yr hinsawdd. Bydd yn archwilio gwahanol ddulliau amaeth goedwigaeth, eu buddion a’r elfennau hanfodol ar gyfer eu rhoi ar waith yn llwyddiannus, gan ddangos sut gall integreiddio coed a phrysgwydd gyda da byw gynyddu cynaliadwyedd amgylcheddol a chynhyrchiant y fferm. Bydd y prosiect yn edrych ar amaeth goedwigaeth o fewn y cae ac o amgylch y cae, mecanweithiau cymorth ariannol, gwarchod coed o fewn systemau pori a pherfformiad economaidd. Bydd gwaith ymchwil yn y dyfodol yn darparu gwybodaeth ac arweiniad pellach i ffermwyr er mwyn iddynt allu ystyried mabwysiadu cysyniadau amaeth goedwigaeth ar eu ffermydd.

Diben y gwaith:

Mae’r prosiect wedi’i strwythuro o amgylch sawl elfen allweddol er mwyn sicrhau cynllun gweithredu cynhwysfawr ac ymarferol, gan gynnwys:

  1. Cyllid: Ymchwilio a sicrhau cyfleoedd cyllid yng Nghymru ar gyfer gwahanol fathau o goed (ffrwythau, cnau, coed brodorol, pren).
  2. Gwarchod coed: Ymchwilio a rhoi mesurau effeithiol ar waith i atal difrod i’r coed sydd newydd eu plannu gan ddefaid sy’n pori.
  3. Methodoleg amgen (“Trosiant Coed”): Archwilio dulliau hyblyg, hygyrch megis dwysedd coed is, patrymau y gellir eu haddasu a gweithredu’n raddol i annog mabwysiadu ehangach a chaniatáu ar gyfer magu profiad yn raddol.
  4. Perfformiad economaidd: Dadansoddi hyfywedd economaidd drwy fodelu incwm wedi’i arallgyfeirio, lleihau costau mewnbwn, gwella cynhyrchiant da byw, gwerth asedau hirdymor, a thaliadau gwasanaethau ecosystem yn erbyn costau sefydlu cychwynnol a chostau cynnal a chadw.

Yr hyn a wnaed:

  1. Cynllunio a dylunio cynhwysfawr: Mae’r dull a fabwysiadwyd (Glasbrint Amaeth Goedwigaeth) yn  sicrhau lleoli coed mewn modd strategol, ac nid ar hap. Roedd y cam hwn yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r safle (topograffeg, pridd, dŵr) a chytundeb rheolwr y tir i gyd-fynd ag amcanion y fferm. Roedd y dyluniad yn canolbwyntio ar leiniau clustogi coed-borfeydd ac afonol ar gyfer cysgod a bioamrywiaeth, ynghyd â chynllun integreiddio da byw gan ddiogelu’r coed (e.e. ffensio).
  2. Meintoli economaidd ac amgylcheddol: Cyfrifwyd yr elw ar fuddsoddiad ar gyfer y fferm. Defnyddiwyd dadansoddiad pridd a oedd eisoes ar gael i lywio Cynllun Rheoli Maetholion.
  3. Gweithredu a pholisi: Defnyddiwyd y Pecyn Adnoddau Amaeth-goedwigaeth (sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio) ar gyfer arweiniad ymarferol ar agweddau megis ffensio. Roedd profiad y fferm hefyd o fudd o ran cefnogi gwaith ymchwil i Drothwyon Plannu Hyblyg i gynorthwyo gyda mabwysiadu ehangach a bodloni gofynion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Canlyniadau:

  • Mabwysiadu: Symudiad tuag at blannu ar ddwysedd isel (50-80 coesyn fesul hectar) yw’r prif ffactor sy’n arwain penderfyniad y ffermwr i fabwysiadu. Trwy gadw’r gorchudd yn is na’r trothwy o 20%, mae’r tir yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer taliadau amaethyddol, gan fynd i’r afael â’r prif rwystr i ffermwyr, sef colli incwm a cholli tir cynhyrchiol.
  • Busnes: Mae strategaeth weithredol gam wrth gam yn lleihau buddsoddiad cyfalaf cychwynnol ac yn rhannu’r llwyth gwaith, gan leihau’r risg. Mae’r model yn caniatáu ar gyfer patrymau plannu hyblyg (e.e. lleiniau cysgodi) i wneud y gorau o’u defnydd ar fferm, ac mae defnyddio cynlluniau megis cynllun Grantiau Bychain - Creu Coetir yn symleiddio’r agwedd weinyddol trwy osgoi Cynlluniau Creu Coetir cymhleth.
  • Polisi a’r amgylchedd: Mae’r model yn cyd-fynd â pholisi’r dyfodol, megis y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn ariannu ac yn gwobrwyo gwaith plannu dwysedd isel heb ofyn am ildio tir, gan warchod incwm y fferm (Ffigur 1 yn seiliedig ar daliadau a gadarnhawyd ar gyfer Blwyddyn 1). O safbwynt amgylcheddol, mae creu gorchudd dwysedd isel yn darparu cysgod hanfodol ar gyfer da byw, yn gwella cyflwr tir (e.e. gwell glaswellt ar dir corsiog), a gallai hefyd gynyddu’r gallu i storio carbon a bioamrywiaeth. Mae’r fframwaith Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n sicrhau bod y buddsoddiad mewn coed-borfeydd yn “Ased Hirdymor sy’n cynyddu mewn gwerth”, a’i fod yn ddiogel.
     

 

Ffigur 1. Dadansoddiad o Gyfanswm Incwm Haen Gyffredinol (cyfanswm o £1,173.49) y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer y system goed-borfeydd 4.91ha ar fferm Ty'n yr Onnen (yn ogystal â’r incwm a geir o ganlyniad i gynhyrchiant). Mae’r Taliad Gwerth Cymdeithasol yn gwobrwyo gwytnwch i’r hinsawdd ac opsiynau eraill o safbwynt Rheoli Tir yn Gynaliadwy, mae’r Taliad Fferm Gyfan yn cael ei gyfrifo ar gyfer yr elfen hon ac mae’r Taliad Cynnal a Chadw Coetiroedd ar gyfer rheoli gorchudd coed.


Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech dderbyn copi o’r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.