William John McFarland

Penfro, Sir Benfro

Yn wreiddiol o gefndir trefol, cychwynnodd taith Will McFarland fel newydd-ddyfodiad i ffermio pan symudodd ei deulu i ardal wledig yn Swydd Amwythig. Astudiodd Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Harper Adams, a chymryd ei swydd gyntaf yn y sector llaeth yn 18 oed ac ers hynny mae wedi ffurfio llwybr penderfynol trwy’r diwydiant, wedi ei danio gan angerdd a dyfalbarhad. Cadarnhaodd blwyddyn yn Seland Newydd yn 2009 ei ffafriaeth o systemau odro ar laswellt, yn lloea yn y gwanwyn - model y mae’n awr yn ei harddel ar ei fferm ei hun.

Trwy gyflogaeth, ffermio ar gontract ac ail-fuddsoddi strategol, mae Will wedi cynyddu ei arbenigedd a’i ecwiti. Yn 2019 gwireddodd uchelgais oedd ganddo ers amser maith trwy sicrhau Tenantiaeth Busnes Fferm 20 mlynedd yn Sir Benfro, lle mae’n awr yn rheoli menter laeth 380 o fuchod sy’n lloea yn y gwanwyn. Mae ei swydd yn cynnwys rheoli’r fuches o ddydd i ddydd ynghyd â chryfhau effeithlonrwydd a pherfformiad y busnes. Mae Will wedi ymrwymo i lunio busnes sy’n effeithlon, cynaliadwy a phroffidiol, gan gynnig cydbwysedd bywyd-gwaith cadarnhaol i bawb.

Yn angerddol am economeg, marchnadoedd y byd, a thaith ei ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun, mae diddordebau eraill William yn cynnwys rygbi, teithio a cheffylau gwedd. 

“Bydd yr arbenigwyr, mentoriaid a’r rhwydweithiau newydd y byddaf yn cwrdd â hwy trwy’r Academi Amaeth yn fy helpu i ddeall yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ein diwydiant fel fy mod yn gallu cynllunio yn strategol ar gyfer llwyddiant fy musnes yn y dyfodol a chyfrannu at sector amaethyddol sy’n ffynnu.”