Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - CFFI Cymru


Wedi ei ariannu trwy raglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a Gwasanaeth Cynghori o fewn Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 

CFfI Cymru

Yr Alban

27 - 31 Hydref 2017


1)  Cefndir

Diben y daith hon oedd rhoi’r cyfle i aelodau CFfI Cymru i weld sut y mae ffermydd eraill ym Mhrydain yn gweithredu. Gyda threfniadau Brexit ar y gorwel mae sicrhau system amaethu lwyddiannus yn hanfodol er mwyn cystadlu o fewn y diwydiant. Un o brif nodau’r daith oedd ymweld â gwlad sydd â nodweddion tebyg iawn i Gymru fel y gallai’r aelodau gael eu hysbrydoli i ddatblygu eu busnesau gartref.

Ar hyd y blynyddoedd, boed yn y Gynhadledd Materion Gwledig neu gyfarfodydd cyffredinol y mudiad, mae nifer o enwau adnabyddus o’r Alban wedi dod i’r amlwg gyda’i llwyddiannau ym myd amaeth a bydd hyn yn gyfle gwych i weld sut un union y mae eu busnesau wedi datblygu ynghyd â gofynion y farchnad.

Wrth ystyried yr holl ffactorau hyn, roedd yr Alban yn ddewis amlwg gan ei fod yn lleoliad addas iawn ar gyfer anghenion y daith.

2) Amserlen

Diwrnod 1

 

Ar y bore ddydd Gwener teithiodd yr holl aelodau i faes awyr Birmingham er mwyn hedfan draw i Inverness. Ar ôl cyrraedd, aethom yn syth i ymweld â’r fferm gyntaf sef fferm John a Sarah Scott, Fearn Farm,  yn Tain. Mae’r teulu wedi bod ffermio Fearn Farm, fferm isel yng nghanol Ucheldiroedd yr Alban, ers pedair cenhedlaeth. Ar ôl cyrraedd y fferm, cafwyd cyfle i flasu ychydig o gynnyrch gwych y fferm gyda thaith fferm i’w ddilyn. Derbyniodd yr aelodau fewnwelediad manwl iawn i fenter John, sy'n cynnwys 4,200 o ddefaid pedigri a masnachol, 50 o fuchod bîff Byrgorn, 60 o wartheg masnachol croes ynghyd â systemau âr, oll yn cael eu gweithredu ar tua 4,000 erw. Cafodd yr aelodau eu hysbrydoli gan lwyddiant a datblygiad y fferm ar hyd y blynyddoedd a byddant yn sicr o weithredu peth o gyngor John i’w mentrau eu hunain yn ôl yng Nghymru.

 

Diwrnod 2

Y diwrnod canlynol cafwyd saib yn y daith o Inverness i Gaeredin gydag ymweliad â Distyllfa Blair Athol, Pitlockery. Cafwyd taith o amgylch y ddistyllfa lle gwelwyd y camau allweddol sy’n cael eu gweithredu er mwyn creu blas unigryw Wisgi Brag Sengl Blair Athol. Yn hwyrach y prynhawn hwnnw, cafodd y grŵp gyfle i ymweld ag un o farchnadoedd ‘United Auctions’ mwyaf blaenllaw yr Alban sef Marchnad Da Byw Stirling. Cafodd yr aelodau gyfle i weld y gwartheg pedigri a masnachol o safon a oedd yno ar y diwrnod hwnnw, gan gynnwys y brid cynhenid, gwartheg Luing.

 

Diwrnod 3

Dydd Sul aethom i fferm Prifysgol Caeredin, sef Fferm Langhill. Cafodd y fferm ei gynnwys yn rowndiau terfynol cystadleuaeth Fferm Laeth y Flwyddyn AgriScot yn 2016. Cafodd y grŵp gyfle i weld y system gynhyrchu ardderchog a fabwysiadwyd ar y fferm yn ogystal â’r cyfleusterau addysgu ar y fferm. Roedd yr aelodau wedi elwa’n fawr o ymweld â’r fferm hon a chredant y bydd modd iddynt fabwysiadu'r technegau a weithredir yn Langhill ar eu ffermydd gartref. Yn ystod ail hanner y diwrnod, bûm yn ymweld â Fferm Glenrath a chafodd yr aelodau daith fferm hynod o ddiddorol gan John Campbell. Erbyn heddiw, adnabyddir y fferm fel un o gynhyrchwyr wyau mwyaf blaenllaw'r DU, gan gynhyrchu ychydig dros filiwn o wyau'r dydd. Yn ogystal â’r fenter dofednod, roeddent hefyd yn cadw 10,000 o famogiaid bridio a 500 o fuchod sugno Limousin a Charolais. Roedd y daith fferm yn agoriad llygaid i'r aelodau wrth iddynt weld menter raddfa fawr hynod lwyddiannus a oedd unwaith yn fferm deuluol fach.

 

Diwrnod 4

Ar ddiwrnod olaf y daith bûm yn ymweld â Sion Williams yn Ystâd Bowhill. Symudodd Sion, sy’n gyn-aelod o CFfI Maldwyn, i'r Alban i reoli'r stâd yn ôl yn 2004. Ar hyn o bryd, mae Sion yn rheoli 8,800 erw o dir amaethyddol gyda 150 o wartheg pur Aberdeen Angus, 200 o fuchod sugno a lloi stôr ochr yn ochr â diadell fynydd o 2,700 o ddefaid Penddu’r Alban a 1,300 o ddefaid croes eraill. Mae'r fferm hefyd wedi arallgyfeirio gan godi uned wyau gyda 32,000 o ddofednod fel nad ydynt yn gwbl ddibynnol ar gymorthdaliadau amaethyddol ac er mwyn bod yn fwy hunangynhaliol. Mae'r fferm hefyd yn tyfu dros 200 erw o gnydau âr er mwyn lleihau costau bwydo, yn defnyddio ynni gwynt adnewyddadwy ac wedi datblygu cyfleuster treulio anaerobig ar y fferm. Ysbrydolwyd yr aelodau yn sylweddol gyda’i dechneg o reoli'r fferm fynyddig mewn modd hynod o lwyddiannus.

 

 

3) Camau Nesaf

Dyma’r daith gyntaf o’r fath i gael ei threfnu gan CFfI Cymru, ac yn sicr fe fu’n hynod o llwyddiannus. Heb os, cafodd yr aelodau eu hysbrydoli ac mae’r awydd i weithredu newidiadau yn eu busnesau adref wedi cryfhau. Roedd yr aelodau wedi mwynhau clywed hanesion y ffermydd yn enwedig sut yr oeddent unwaith yn fusnes bach hefyd ond bellach wedi datblygu i fod yn rai o ffermydd mwyaf adnabyddus yr Alban.

Yn dilyn llwyddiant y daith hon, bydd Pwyllgor Materion Gwledig a Rhyngwladol CFfI Cymru yn sicr ystyried cynnal taith debyg y flwyddyn nesaf.