Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Fforwm Amaethyddol Sir Gâr

Mae'r adroddiad canlynol wedi ei ysgrifennu gan y ffermwyr a'r coedwigwyr a gymerodd ran yn yr ymweliadau. Eu barn hwy eu hunain yn unig sydd wedi'i gynnwys.

Fforwm Amaethyddol Sir Gâr

Blackpool a Uttoxeter

25ain-29ain Hydref


1      Cefndir

Trefnwyd y daith astudio hon er mwyn ehangu golwg y grŵp ar amaethyddiaeth a gwahanol ddulliau o arallgyfeirio yn yr hinsawdd amaethyddol bresennol. Daw aelodau’r grŵp o gefndiroedd gwahanol – o’r sector llaeth a pheirianneg i ffermio bîff a defaid. Ein nod oedd teilwra’r ymweliadau fel eu bod o ddiddordeb i’r holl gyfranogwyr.

 

2      Amserlen

2.1        Diwrnod 1

Colley Farms Dairy, Ludlow

Yn ystod yr ymweliad, dysgodd y grŵp am fanteision ac anfanteision ffermio cytundeb - lle mae un parti yn berchen y fferm a pharti arall yn berchen y gwartheg. Er bod anfanteision o ran egwyddor y busnes, mae’n darparu cyfleoedd i bobl ganfod ffordd i mewn i’r diwydiant gyda’r buddsoddiad cyfalaf lleiaf posibl. Yn ystod yr ymweliad cawsom hefyd gipolwg ar ddulliau a deunyddiau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer cynllunio isadeiledd fferm.

 

2.2        Diwrnod 2

Proctors Farm

Ar yr ail ddiwrnod, aethom i Proctors Farm Limited ger Preston lle dysgom bwysigrwydd geneteg a bridio’n ofalus. Roedd gan y fferm hon gefnogaeth ariannol anghonfensiynol lle nad oedd arian yn broblem. Yn gyffredinol, mae cost yn ffactor llesteiriol pan ydych yn cynllunio adeiladau amaethyddol, ond mae’n ddiddorol gweld yr opsiynau ar gael pan fydd arian yn caniatáu.

Mae’r fferm wedi buddsoddi mewn dull porthi gwahanol, sy’n cynnwys cynhyrchu porthiant uchel ei werth drwy ddefnyddio hydroponeg.

 

Laund Farm

Yn ystod y prynhawn, bûm yn ymweld â Laund Farm, prif gyflenwr The Sheep Milk Company. Yn ystod yr ymweliad, dysgodd y grŵp am odro defaid a sut y mae’n fusnes sy’n datblygu. Un agwedd o’r busnes fferm oedd allforio embryonau a hyrddod i wledydd godro defaid eraill sy’n datblygu. Mae yna farchnad fyd-eang gynyddol ar gyfer llaeth defaid, gyda nifer o’r grŵp yn dangos diddordeb yn y sector gan y gallai fod yn opsiwn arallgyfeirio posib. Roedd y fferm yn cynnal diadell o Blue Face Leicesters pedigri a chonfensiynol hefyd.

 

2.3        Diwrnod 3

Guy Machinery, Clitheroe

Ar y trydydd diwrnod, bûm yn ymweld â Guy Machinery sy’n gwerthu Valtra, Ifor Williams a Krone. Dechreuodd y busnes yn y sector laeth cyn symud i gontractio ac yna i’w sefyllfa bresennol. Erbyn hyn, mae Guy Machinery yn gwmni blaenllaw yn y rhanbarth. Mae’r busnes wedi ffynnu ac ar hyn o bryd maent yn teilwra eu gwerthiannau yn ôl tueddiadau yn y farchnad, fel y gwelir yng ngwerthiannau ATV i’r cyhoedd yn ogystal â ffermwyr, ac ôl-gerbydau Ifor Williams ar draws amrywiaeth o sectorau - o adeiladu i arddwriaeth. Yn draddodiadol, mae’r busnes yn anelu gwerthiant ôl-gerbydau at y farchnad amaethyddol ond ar hyn o bryd maent yn archwilio marchnadoedd newydd megis tir a phlanhigion. Dangosodd yr ymweliad y gellir creu busnes llwyddiannus trwy weithio’n galed, bod yn benderfynol a bod yn barod i gymryd cyfleoedd.

 

2.4        Diwrnod 4

Ffactori JCB

Ar y diwrnod olaf, bûm yn ymweld â phencadlys JCB yn Uttoxeter, arweinwyr byd mewn gwaith adeiladu ac offer amaethyddol. Yn dilyn cyflwyniad hanesyddol diddorol am y busnes, aethom ar daith dywysedig o amgylch eu cyfleusterau modern lle cynhyrchir loadall JCB. Trwy gydol y daith pwysleiswyd pwysigrwydd y cwsmer fel elfen allweddol o dwf parhaus y busnes. Dysgodd y grŵp ei bod hi’n bwysig parhau i fuddsoddi yn y dyfodol ac archwilio marchnadoedd newydd ar gyfer eich cynnyrch er mwyn creu busnes llwyddiannus. Mae’n bwysig cofio nid oes marchnad heb gwsmeriaid. 

 

3      Camau Nesaf

Bydd unigolion y grŵp yn dychwelyd i’w busnesau ac yn gweithredu agweddau a syniadau amrywiol o’r trip i’w harferion ar y fferm.

Ar ôl dychwelyd bydd y grŵp yn trafod agweddau allweddol o’r gwahanol fusnesau y bûm yn ymweld â hwy, gan ystyried hyfywedd rai o’r syniadau.

Roedd arallgyfeirio yn agwedd allweddol yn rhan fwyaf o’r ymweliadau; byddwn nawr yn archwilio gwahanol opsiynau arallgyfeirio ac o bosib yn trefnu ymweliadau lleol a fyddai’n ehangu ein gwybodaeth ymhellach.