Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Merched mewn Amaeth Llambed

Grŵp Merched mewn Amaeth Llambed

Llundain

3ydd - 4ydd Hydref 2017


Cefndir

Mae ein grŵp wedi bod yn edrych ar hyfywedd ffermio da byw ar ôl Brexit a gyda chyfarfod â Kevin Roberts, Cadeirydd HCC, ar y gweill, cymeron ni y cyfle hwn i fynychu’r digwyddiad Meat Women in Business yn Llundain er mwyn datblygu ein dealltwriaeth o’r diwydiant ymhellach a rhwydweithio gyda menywod o’r un anian o bob cwr o’r DU.

 

Amserlen

Diwrnod 1:

Teithion ni i Lundain ar drên, oedd yn brofiad cyntaf un o’r aelodau, a llenwodd pawb holiaduron a luniwyd gan arweinydd y grŵp yn canolbwyntio ar ein nodau ar gyfer y digwyddiad. Fe wnaethon ni rannu ein hofnau a’n gobeithion, ein disgwyliadau a’n bwriadau gyda’n gilydd, gan adnabod amrywiaeth o hyder ymysg y grŵp. Ar ôl cyrraedd Llundain, fe gafon ni flasu amrywiaeth o gynhyrchion cig ar gyfer ein pryd min nos a cafon ni ein siomi o ddarganfod bod y bwyty, a dybir i fod yn fwyty ‘o safon’, yn gweini bîff o Awstralia. Er bod y stêc o Awstralia yn ofnadwy, roedd y byrgyr cig oen yn flasus ac yn rhatach – rhywbeth i’w ddysgu.

 

Diwrnod 2:

Ar ôl taith fer o’r gwesty i’r digwyddiad Meat Women in Business aethom ati i rwydweithio’n syth. Fe benderfynom rannu’n grwpiau er mwyn sicrhau’r sylw gorau posib.   Dysgom am ddisgwyliadau a gofynion cwsmeriaid yn ogystal â chlywed pryderon Cranswick, cwmni prosesu bwyd, ynghylch cadw staff o ansawdd ar hyn o bryd ac ar ôl Brexit. Gwelwyd sut yr oedd menywod yn cael eu gwerthfawrogi mewn cyd-destun corfforaethol ac fe wnaethon fwynhau clywed y prif siaradwr, Margaret Mountford, yn trafod rheoli datblygiad personol.  Dychwelodd pawb adref y prynhawn hwnnw. Fodd bynnag, roedd rhaid i un aelod adael yn gynnar a theimlai ei bod wedi colli rhan sylweddol o’r digwyddiad oherwydd ni chafodd gyfle i rwydweithio yn ystod yr hanner awr ddiwethaf.

 

Camau Nesaf

O ganlyniad i’r trip hwn, mae gan yr holl aelodau fwy o hyder wrth siarad am y ffordd ymlaen ar gyfer ein diwydiant. Rydym hefyd wedi dysgu sut y gallwn ddiwallu anghenion ein defnyddwyr a’n cwsmeriaid yn well, a’r gwahaniaeth rhyngddynt. Mae cyflwyniadau PowerPoint y siaradwyr wedi cael eu rhannu ymysg y mynychwyr a byddant yn cael sylw mewn trafodaethau yng nghyfarfodydd y grŵp Merched mewn Amaeth Llambed yn y dyfodol.

Bydd y wybodaeth a ddysgwyd yn ein galluogi i gael cyfarfod mwy cynhyrchiol gyda chadeirydd HCC ar yr 19eg o Hydref ac yn y dyfodol. Byddwn yn defnyddio ein gwell dealltwriaeth o gyfloedd i gefnogi menywod eraill i fynychu digwyddiadau o’r fath ac i annog mwy o fenywod Cymraeg i ymuno â’r diwydiant.