Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Trafod Merlin
Wedi ei ariannu trwy raglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a Gwasanaeth Cynghori o fewn Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020
Grŵp Trafod Merlin
Gogledd Iwerddon
17fed - 19fed Hydref 2016
1) Cefndir
Nod yr ymweliad i Ogledd Iwerddon oedd gweld sut oedd systemau ffermio yn gweithio yno gan roi’r cyfle i’r grŵp nodi beth y gwelont a gweithredu’r ymarferion positif ar eu ffermydd. Mae ffermwyr Gwyddelig yn adnabyddus am gynhyrchu llaeth yn effeithiol drwy ddefnyddio systemau sy’n seiliedig ar borfa. Gan fod aelodau Grŵp Merlin yn ffermwyr sy’n seiliedig ar borfa, byddai ymweliad i Ogledd Iwerddon i weld sut y maent yn medru cynhyrchu llaeth mewn modd mor effeithlon yn ddefnyddiol ar gyfer gwella cynnyrch llaeth y grŵp o borfa.
Byddai trafodaethau o’r fath yn cynnwys cynhyrchiant glaswellt, mesur a defnyddio glaswellt mewn modd effeithlon, arferion pori, isadeiledd ffermydd sy’n galluogi glaswellt i gael ei bori mor effeithlon â phosib, ffyrdd o ymestyn hyd y tymor pori, defnydd gwrtaith, targedau ac amcanion bridio, ffrwythlondeb, llaeth wedi’i gynhyrchu o borthiant, defnydd dwysfwyd, iechyd y fuches, lleihau costau a llawer mwy. Nod yr ymweliad oedd gwella’r uchod a sawl agwedd arall ar eu ffermydd gan eu bod yn gobeithio dysgu o’r hyn a welwyd ar y ffermydd Gwyddelig.
Gellir dadlau bod gan ffermwyr Gwyddelig rai o ffermydd gorau’r DU, sy’n cynhyrchu llaeth yn effeithlon o borfa. Mae Grŵp Merlin yn grŵp o ffermwyr llwyddiannus sydd wedi sefydlu eisoes ac er mwyn gwella ymhellach, mae angen iddynt ymweld â’r ffermydd gorau sy’n defnyddio’r arfer orau o ran systemau ffermio tebyg a gwahanol. Byddai taith astudio i Iwerddon yn edrych ar ffermydd llaeth sy’n seiliedig ar borfa o ansawdd, yn cynnwys ymweliad â chyn ennillydd y gystadleuaeth ffermwr glaswelltir y flwyddyn a sefydliad blaenllaw mewn datblygiad ac ymchwil-amaeth, yn darparu hyn yn ogystal â rhoi’r cyfle i aelodau’r grŵp i wella ymhellach a bod yn llwyddiannus.
2) Amserlen
2.1 - Diwrnod 1 (Dydd Mawrth 18/10/16)
Bore – Teulu Somerville, Fort Farm
Dechreuodd y daith astudio gydag ymweliad i Fort Farm, a berchnogir a chynhelir gan y teulu Somerville sydd wedi ffermio yno am bum cenhedlaeth. Mae’r fferm yn ymestyn dros ardal o 131.50ha, gyda 103ha yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y buchod llaeth. Mae’r fuches yn cynnwys 225 o fuchod llaeth, gyda 90% ohonynt yn lloia yn yr hydref a 10% yn lloia yn y gwanwyn. Mae’r fuches yn mynd trwy gyfnod o newid ar hyn o bryd, gan symud i 100% ohonynt yn lloia yn y gwanwyn. Yn 2007, cymerodd y fferm ran mewn treial croesfridio a gynhaliwyd gan Ganolfan Ymchwil Hillsborough. Mae’r rhaglen croesfridio yn dechrau gyda Friesian, yna Jersey ac yna trydydd brid, sef Gwartheg Coch Swedeg ar hyn o bryd, ond mae wedi cynnwys Brown Swiss, Fleckvieh a Montbelliarde yn y gorffennol. Bu’r croesiad tair ffordd yn bwynt trafod, gyda nifer o’r grŵp yn gofyn am groesiadau unigol a’i manteision. Mae’r system yn seiliedig ar borfa, gyda silwair glaswellt rhwydd-borthi a dwysfwyd yn cael eu bwydo yn y parlwr a phorthwyr tu allan y parlwr yn y gaeaf, a glaswellt a dwysfwyd parlwr yn yr haf.
Rhoddodd Gregg fwy o fanylion am y fferm, gan ddweud bod y llwyfan bori yn brin felly mae’r 50 buwch gyntaf i sychu yn cael eu cludo i dir i ffwrdd o’r prif ddaliad, sydd hefyd yn cynnwys parlwr lle maent yn cael eu godro o fis Ebrill i fis Awst. Yna aeth Gregg a’r grŵp allan tuag at y buchod ac wrth gerdded trwy rhai o’r padogau wedi’u pori, dywedodd ei fod yn ei chael hi’n annodd pori i lawr i’r man delfrydol ac yn teimlo bod yna ormod o wastraff. Tra’n edrych ar rai o’r padogau wedi’u pori, cytunodd y grŵp a theimlant fod yna llawer o ddeunydd marw ar waelod rhai o’r porfeydd. Datblygodd y drafodaeth gan drafod beth y gellir ei wneud i wella defnydd y glaswelltir, gyda rhai awgrymiadau yn cynnwys pori’r padogau’n galetach yn y gwanwyn fel bod gwndwn glan, fresh ar ddechrau’r tymor. Mae’n bosib bod ychydig o gywasgiad pridd hefyd sy’n golygu nad yw dŵr ac wrin ayb. yn draenio trwy mor gyflym a ddylai a gall fod yn rheswm posib arall pam nad yw’r buchod yn defnyddio’r glaswellt mor dda a ddylent. Tyfodd y fferm 10t/ha yn 2016.
Yna bu’r grŵp yn gweld u fuches laeth a gofynnwyd cwestiynau am berfformiad y croesiad tair ffordd a barn Gregg. Nododd Gregg bod rhai o’r Gwartheg Coch Swedeg yn tueddi i fod ychydig yn nerfus ar adegau.
Hefyd, rhoddodd Gregg lyfryn i’r grŵp yn cynnwys rhai ffeithiau fferm, glaswellt yn tyfu a chrymu ac elw fferm gymharol, a ddarparodd nifer o bwyntiau trafod yn ystod y dydd.
Mae’r pwyntiau allweddol a enillwyd yn ystod y daith hon yn cynnwys gwybodaeth werthfawr am y system croesfridio tair ffordd, sy’n syniad gwahanol ar gyfer pobl sydd â chyfyngiadau o ran maint eu llwyfan bori, a thrafodaethau ar ffyrdd o wella defnydd glaswelltir a gwella llaeth wedi’i gynhyrchu o borthiant.
Prynhawn – Canolfan Ymchwil Hillsborough (Agri-Food and Biosciences Institute. AFBI)
Dechreuodd yr ymweliad i Ganolfan Ymchwil Hillborough gyda chroeso gan Steven Morrison, a ddilynwyd gan ymweliad i’r cyfleusterau magu lloeau a heffrod a sgwrs gan y tîm magu heffrod. Dechreuodd y tîm drwy amlinelli bwysigrwydd magu lloeau a heffrod da, gan ddweud yr amcangyfrir bod cyfradd marwolaeth o 12% mewn lloeau yn costio £60 miliwn y flwyddyn i’r diwydiant amaeth yn y DU (DEFRA). Gwelodd ddadansoddiad post-mortem mai’r prif resymau dros farwolaeth yn agos at y geni a salwch yw afiechyd enterig a niwmonia. Yna amlinellodd y tîm bwysigrwydd rhoi colostrwm o ansawdd da i’r llo yn oriau cyntaf ei fywyd, gan egluro ei fod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y llo yn goroesi cyn diddyfnu.
Mae’r tîm yn rhedeg prosiect ar hyn o bryd gyda’r nod o ymchwilio cyfraddau marwolaeth/morbidrwydd lloeau llaeth ac effaith imiwnedd a salwch ar berfformiad anifeiliaid. Mae ymchwil o’r fath yn cynnwys adnabod y prif ffactorau sy’n effeithio ansawdd colostrwm; asesu datblygiad ymateb i greu imiwnedd drwy fonitro lefelau gwrthgyrff a gwaed; gwerthuso effaith statws imiwnedd goddefol ar ymateb brechiadau; datblygiad y system imiwnedd; ymateb i straen diddyfnu a mesur lles lloeau dan wahanol systemau cynhyrchu.
Cafwyd trafodaeth ar ansawdd colostrwm, pwysau diddyfnu a niwmonia cyn i’r grŵp symud ymlaen at y siaradwr nesaf sef Gary Lyons, a fu’n trafod y treuliad anaerobig ar-fferm. Eglurodd Gary mai prif nod cael gwaith Treulio Anaerobig (TA) yn AFBI oedd ystyried potensial gweithfeydd TA ar-fferm yng Ngogledd Iwerddon a p’un a’i oeddent yn fuddsoddiad ymarferol. Mae’r gwaith TA yn trosi deunydd organig i fio-nwy yn absenoldeb ocsigen. Mae porthiant ar gyfer y gwaith TA yn cynnwys carthion, tail anifeiliaid, cnydau amaethyddol, sgil-gynnyrch anifeiliaid, gwastraff organig o’r diwydiant a ffracsiwn organig gwastraff y cartref. Gall y gwaith TA gynhyrchu bio-nwy fel egni adnewyddol a helpu gyda rheoli’r maeth mewn slyri, gan ei wneud yn brosiect buddsoddi diddorol ar gyfer ffermwyr llaeth.
Y siaradwr nesaf oedd Mike Davies, rheolwr y fuches laeth yn AFBI, a ddechreuodd drwy dywys y grŵp drwy’r sied wartheg lle’r oedd cyfleusterau i fwydo pob buwch yn unigol ar ddogn penodol ar gyfer treialon ac ymchwil amrywiol pe bai angen. Roedd gan bob cafn porthi unigol glorian i bwyso’r porthiant a dyfais canfod ID ar gyfer pob buwch unigol. Yna aeth y grŵp i’r parlwr godro cylchdro fel oedd y godro’n cymryd lle. Mae’r AFBI wedi buddsoddi mewn parlwr cylchdro yn ddiweddar ac eglurodd Mike y dewisiwyd cylchdro oherwydd ei bod hi’n llawer haws bwydo gwartheg yn unigol ar gyfer eu treialon a bod gwahanu gwahanol lotiau o wartheg wrth iddynt adael y cylchdro yn hytrach na phatrwm cefn pennog yn llawer mwy ymarferol. Yn ddibynnol ar y gwahanol dreialon yn cael eu cynnal, gall y fuches laeth gael ei rhannu i mewn i hyd at 16 grŵp gwahanol ar gyfer gwahanol brosiectau ymchwil. Yna rhoddodd Mike rhywfaint o wybodaeth i’r grŵp ar y fuches laeth a’r cyfleusterau cyn trosglwyddo’r awennau i Conrad Ferris, a roddodd mwy o fanylion ynghylch y prosiectau ymchwil blaenorol a chyfredol a redir gan AFBI.
Roedd prosiectau ymchwil blaenorol yn cynnwys croesfridio gwartheg llaeth tair ffordd, cymharu gwartheg Holstein Friesian gyda gwartheg croes Jersey a Norwegian Red, perfformiad glaswelltir a’i berthynas â phroffidioldeb ar 10 fferm laeth yng Ngogledd Iwerddon, effaith chwalu slyri yn ystod tymor pori ar berfformiad gwartheg llaeth a llawer mwy. Mae prosiectau cyfredol yn cynnwys rôl porthiant llawn protein a phrotein a dyfir gartref ar ffermydd llaeth yng Ngogledd Iwerddon, astudiaeth perfformiad pori ar gyfer heffrod gan gymharu cylchdro tri diwrnod, cylchro chwe diwrnod a phori di-dor, ac astudiaethau ar golostrwm.
Mae rhai o’r pwyntiau allweddol a ddysgwyd o’r ymweliad yn cynnwys cael ein hatgoffa o bwysigrwydd gofalu am loeau newydd anedig, yn enwedig o ran rheoli colostrwm, sut y gall waith TA fod o fudd i fferm laeth a gwybodaeth ar gymharu gwahanol groesfridiau llaeth.
2.2 - Diwrnod 2
Bore – Jack, Brian a Lynne McCracken, Cairngaver Farm
Dechreuodd yr ail ddiwrnod gydag ymweliad i weld John, Brian a Lynne McCracken ar Fferm Cairngaver, Newtownards. Lleolir Fferm Cairngaver yng nghanol Mynyddoedd Craiganlet ac mae’r tir yn codi o 400 i 700 troedfedd uwch lefel y môr ac yn edrych allan dros Newtownards a Strangford Lough. Mae’r teulu yn berchen ar 52ha ac yn rhentu 96ha. Cyfanswm y glaswelltir yw 148ha a chaiff 88ha ei ddefnyddio ar gyfer pori.
Dechreuodd yr ymweliad yn y llaethdy lle trafododd Brian ei fap fferm a oedd ar wal y llaethdy. Eglurodd Brian ei fod yn rhentu llawer o’i dir allan a bod ganddo saith o denantiaid gwahanol, sy’n profi i fod yn heriol ar adegau. Parhaodd y drafodaeth yn y llaethdy ar y math o dir, prisiau tir a’r tebygolrwydd o’r tir rhent yn cael ei werthu.
Yna cafodd y grŵp eu tywys i fyny’r llwybrau gwartheg tuag at y caeau lle’r oedd y gwartheg yn pori. Yn ystod y daith clodforodd y grŵp Brian ar ansawdd y glaswelltir a sylweddolont fod y gwartheg yn pori a’n defnyddio’r glaswellt yn dda. Roedd y fuches yn cynnwys 230 o wartheg llaeth croesfrid ac yn 2001 newidiodd Brian o loia yn yr hydref i loia’r holl wartheg yn y gwanwyn. Mae rhan fwyaf o’r fuches yn lloia ym mis Chwefror a mis Mawrth, gyda rhai olaf yn lloia ym mis Ebrill. Eglurodd Brian rywfaint am y bridio a beth y maent yn edrych amdano gan ddweud bod y fuches wedi cael eu troi at deirw Seland Newydd am yr 20 mlynedd diwethaf ac wedi bod yn rhan o dreial croesfridio Hillsborough hefyd.
Rhoddodd Brian daflen i’r grŵp yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol gan alluogi aelodau’r grŵp i feincnodi yn erbyn eu buchesi eu hunain. Roedd y wybodaeth yn cynnwys cyfnodau lloia fesul mis o 2005 i 2016, cyfraddau PD chwe wythnos gwartheg a heffrod, cyfraddau lloia chwe wythnos, gwybodaeth llafur, sawl litr a werthwyd dros y blynyddoedd diwethaf, cyfartaledd canrannau braster menyn a phrotein, cyfraddau difa, gwartheg/ha, tyfiant glaswellt a defnydd dwysfwyd. Darparodd hyn nifer o bwyntiau trafod allan ar y cae gyda Brian yn dweud ei fod yn anelu at gadw ei gostau cynhyrchu mor isel â phosib oherwydd teimlai bod hyn yn hanfodol nawr mewn marchnad mor gyfnewidiol o ran costau llaeth. Nododd Brian hefyd bod ganddo ormod o wartheg ar un cyfnod a phenderfynodd brydlesu rhai ohonynt i ddau ffermwr arall, gan ddarparu ffynhonnell incwm ychwanegol. Profodd hyn i fod yn bwynt trafod diddorol a rhywbeth a all fod yn opsiwn ar gyfer rhai o aelodau’r grŵp.
Yna bu’r grŵp yn ymweld â’r bloc o dir magu heffrod lle’r oedd y grŵp cyfan yn gytûn bod yr heffrod yn ymddangos fel eu bod mewn cyflwr da iawn. Cododd Brian bwynt trafod diddorol gan ddweud nad oes ganddo broblem gyda bwydo llaeth i loeau nes eu bod yn 90-100kg. Mae llawer yn awgrymu diddyfnu pan fydd y llo yn pwyso dwbl ei bwysau geni sef rhwng 75 a 80kg gyda’r math yma o groesfrid. Mae’n well gan Brian wneud yn siwr eu bod yn gryf cyn diddyfnu, gan gofio rhywbeth y dywedodd ei dad wrtho: ‘Un cyfle gewch chi gyda llo’.
Yna parhaodd y grŵp tuag at rai o’r gwlâu cyrs y mae Brian a’i deulu wedi buddsoddi ynddynt yn ddiweddar. Mae dŵr budr o fuarthau’r fferm yn llifo i mewn i’r pyllau cyrs hyn ac yna’n cymryd cwrs igam-ogam ar draws y cae o bwll i bwll. Mae’r dŵr yn cael ei hidlo wrth iddo symud gyda’r cyrs yn amsugno’r maeth o’r dŵr budr. Eglurodd Brian fod angen i’r ardal ar gyfer y pyllau cyrs a chwrs igam-ogam y dŵr fod dwbl maint y buarthau sy’n casglu’r dŵr budr. Dangosodd y grŵp lawer o ddiddordeb yn y syniad hwn ac eglurodd Brain ei fod yn arbed costau sylweddol bob blwyddyn o ran storio a phwmpio.
Daeth yr ymweliad i ben yn ôl ar y buarth gyda holl aelodau’r grŵp yn dweud y bu’r ymweliad yn hynnod o ddiddorol a’u bod wedi cael gwybodaeth werthfawr y gallant feincnodi gyda’i busnesau eu hunain yn ogystal â rhai syniadau diddorol newydd, megis y pyllau cyrs.
Prynhawn – Colin Boggs, Clover Hill. UK Grassland Farmer of the Year 2015
Ymweliad olaf y daith oedd ymweliad i weld ennillydd Ffermwr Glaswelltir y Flwyddyn y DU 2015 sef Colin Boggs, sy’n ffermio yn Clover Hill ger Banbridge, Co.Down. Roedd y fuches yn cynnwys 120 o wartheg yn lloia yng nghanol mis Ionawr nes canol Ebrill gan gynhyrchu cyfartaledd treigl o 6,530 litr y fuwch gyda 4.35% braster menyn a 3.50% protein. 666kg o ddwysfwyd yn unig a gaiff ei fwydo fesul buwch, sy’n gyfwerth â 0.1kg y litr, gan roi swm trawiadol o 5,161 litr o laeth o borthiant Mae llaeth o borthiant yn ddangosydd perfformiad allweddol sy’n cael ei ddefnyddio gan y grŵp i feincnodi yn erbyn ei gilydd. Gwnaeth y llaeth oedd Colin yn ei gael o borthiant argraff ar y grŵp ac roeddent yn awyddus i ddarganfod sut yr oedd yn cyflawni ffigwr mor uchel.
Dechreuodd yr ymweliad gyda thrafodaeth ar y buarth yn canolbwyntio ar sut oedd Colin yn cyflawni cymaint o laeth o borthiant. Roedd y grŵp hefyd yn awyddus i glywed am y torri ymlaen llaw yr oedd Colin yn ei wneud ar y fferm. Mae Colin yn anelu i droi llan mor fuan â phosib a chadw’r glaswellt yn ddeiliog drwy ddefnyddio padogau cylchdro a thorri ymlaen llaw, o’r ail boriant hyd ddiwedd y tymor tyfu. Tuag at ddiwedd y tymor mae’r glaswellt heb ei bori, sy’n golygu y gellir defnyddio’r glaswellt a dyfir ymhellach i ffwrdd, gan gadw glaswellt yn y diet tra’n cynnal y defnyddiad hefyd.
Aeth Colin a’r grŵp allan i’r cae lle oedd y gwartheg yn pori a chafodd y grŵp gyfle i weld pa mor dda oedd y glaswellt yn cael ei ddefnyddio yn ogystal â phadogau oedd wedi cael eu torri ymlaen llaw yn barod ar gyfer y noson honno. Fel arfer, mae Colin yn torri mwy na 24 awr cyn i’r gwartheg bori os yw’r tywydd yn caniatau. Roedd y grŵp yn awyddus i ddysgu mwy am gostau torri ymlaen llaw a pu’n ai y byddai’r gost ychwanegol yn talu ffordd. Nid oedd gan Colin ffigyrau union gywir ond dywedodd fod ganddynt beiriant lladd gwair sylfaenol y maent yn anelu i newid bob tair i bedair blynedd.
Caiff holl borfeydd Colin eu hau ag amrywiaeth o’r rhestr a argymhellir Gogledd Iwerddon, ac mae’n credu bod torri ymlaen llaw yn eu helpu i bara’n hirach. Mae’n gwneud y defnydd gorau o offer cynllunio maetholion am ddim i sicrhau effeithlonrwydd cost o ran mewnbynau ac allbynnau.
Bu’r grŵp yn cerdded o amgylch y padogau ac roedd ansawdd y glaswelltir a’i ddefnydd yn ystod y tymor yn glir gan nad oedd llawer o ddeunydd marw ar waelod y porfeydd. Roedd yr holl laswellt yn ddeiliog a fresh, ffactor a oedd yn amlwg yn cyfrannu’n fawr tuag at y ffigyrau uchel o laeth o borthiant.
Daeth yr ymweliad i ben yn y ffermdy lle trafododd Colin a’r grŵp ffigyrau ac elw yn ogystal â therapi buchod sych gan fod Colin yn ystyried defnyddio therapi buchod sych dethol wrth sychu eleni.
Rhai negeseuon i’w cofio o’r ymweliad oedd ansawdd glaswellt a’r defnydd a ennillwyd yn ystod y tymor pori o ganlyniad i dorri ymlaen llaw. Er na ddarganfuwyd y gost o hyn ar y diwrnod i weld pu’n ai bod torri ymlaen llaw yn hyfyw’n ariannol, gallai pob aelod o’r grŵp ei gostio ar gyfer eu systemau a’i ystyried fel opsiwn posib ar gyfer eu llwyfannau pori blwyddyn nesaf.
3) Camau Nesaf
Mae’r daith astudio hon wedi darparu gwybodaeth werthfawr ar gyfer y grŵp ac wedi rhoi syniadau newydd i’r unigolion a fyddant o bosib yn defnyddio i wella eu systemau ffermio ymhellach. Gweler rhai o’r pwyntiau isod:-
Edrych ar wahanol ddulliau croesfridio, yn cynnwys croesfridio tair ffordd
Edrych ar ffyrdd o wella llaeth o borthiant ymhellach, yn cynnwys torri padogau pori ymlaen llaw trwy gydol y cyfnod pori
Adnabod cost torri ymlaen llaw ar gyfer busnesau unigol y grŵp a p’un ai yw’r gwelliannau mewn llaeth o borthiant a defnydd glaswellt yn ddigon i dalu am y gost ychwanegol sy’n gysylltiedig â thorri ymlaen llaw
Sylweddoli pwysigrwydd y rownd gyntaf o bori i lanhau’r padogau gan fod hyn yn cael effaith sylweddol ar ansawdd y padogau glaswelltir ar gyfer y tymor pori
Ymchwil pellach ar weithfeydd TA a’u hyfywedd ar ffermydd yng Nghymru
Ymchwil pellach ar byllau cyrs ar gyfer trin dŵr budr
Parhau neu wella sylw at fanylder o ran magu lloi, yn enwedig o ran rheoli colostrwm.
Continuing or further improving attention to detail with calf rearing and in particular colostrum management.
Mae’r daith astudio wedi bod o fudd i’r holl aelodau a gall pob unigolyn gymryd rhywbeth o’r ymweliadau i wella’u busnesau fferm ymhellach.