Mae cynhyrchwyr o Gymru’n paratoi i fynd i un o brif ddigwyddiadau bwyd a diod y byd yn Cologne, Yr Almaen yr wythnos nesaf (10-14 Hydref). Bydd gan Anuga 2015 bron i 7000 o arddangoswyr o fwy na 100 o wledydd ac mae’n cael ei gydnabod yn llwyfan pwysig i’r sector bwyd a diod hyrwyddo ei gynnyrch i brynwyr o bedwar ban byd.
Wedi eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, bydd 17 o gwmniau yn rhan o ddirprwyaeth Bwyd a Diod Cymru yn y digwyddiad, ac mae pob un ohonynt yn gobeithio datblygu cysylltiadau a gwneud busnes gyda phrynwyr tramor.
Mae Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog dros Amaeth a Bwyd, yn credu ei bod yn bwysig i fwyd a diod o Gymru gael eu gweld ar y llwyfan byd amlwg hwn,
“Rydym oll yn gwybod fod ansawdd bwyd a diod o Gymru yn cymharu â’r gorau yn y byd ond mae’n bwysig ein bod yn cael ein gweld a’n bod yn arddangos ein cynnyrch arloesol mewn digwyddiadau allweddol ar draws y byd. Mae cael presenoldeb mewn digwyddiadau fel Anuga yn cyfrannu at ein targedau twf uchelgeisiol ar gyfer y sector sy’n chwarae rôl fwyfwy pwysig yn economi Cymru. Pan fuom yn y digwyddiad hwn ddwy flynedd yn ôl derbyniwyd gwerth bron i hanner miliwn o bunnoedd o archebion a byddwn yn edrych i adeiladu ar hynny eto eleni.”
Un o’r cynhyrchwyr sy’n gobeithio gwneud argraff barhaol yn Anuga yw Coconut Kitchen o Abersoch. A hwythau’n gynhyrchwyr arobryn o dipiau a sawsiau Thai, mae ganddynt hefyd eu bwyty eu hunain yng Ngogledd Orllewin Cymru. Maent wedi ennill nifer o wobrau Great Taste yn y gorffennol, gan gynnwys y 3 seren werthfawr am eu Pâst Gwyrdd Thai, ac maent yn gobeithio hyrwyddo eu dau bâst newydd yn Anuga eleni.
Mae’r perchennog Paul Withington yn gweld digwyddiadau masnachu yn gyfle i archwilio llwybrau busnes newydd, a hyrwyddo cynhyrchion newydd sbon yn uniongyrchol i’r farchnad fyd-eang.
“Fe ddechreuon ni werthu ein sawsiau yn 2008, gyda’r bwriad o gyflenwi bwyd o ansawdd ag iddo naws Thai yng Ngogledd Cymru. Ers hynny rydym wedi ehangu a magu enw am gynhyrchu sawsiau a dipiau Thai o ansawdd, ac mae ein cynhyrchion i’w gweld mewn delis a siopau fferm ar draws y wlad. Mae digwyddiadau fel Anuga yn gyfleoedd gwych inni, a chyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru maen nhw’n caniatáu inni fynd o nerth i nerth fel busnes. Mae’n bleser hyrwyddo’r sector bwyd a diod o Gymru ar yr un pryd â nifer o frandiau diguro o Gymru, ac i brofi fod ansawdd ein cynnyrch heb ei ail ar lwyfan byd, a’r gobaith yw y cawn rywfaint o fusnes newydd ar hyd y daith.”
Mae’r cwmni arobryn dŵr potel o’r Canolbarth, Tŷ Nant Spring Water Ltd, yn frand byd-eang enwog, ac mae’r Rheolwr Cyffredinol Matteo Sada yn sylweddoli pa mor werthfawr yw mynd i ddigwyddiadau masnachu,
“Mae dŵr naturiol Tŷ Nant a dŵr ffynnon TAU bellach yn enwau eiconig cyfarwydd o gwmpas y byd, ond rydym yn dal i gredu fod gwerth mawr mewn mynd i ddigwyddiadau pwysig fel Anuga. Buom yn SIAL y llynedd ym Mharis, ac roedd prynwyr o bob rhan o’r byd yno, yn ei gwneud yn bosib inni gynyddu ymhellach ein busnes rhyngwladol. I gwmnïau fel ninnau mae’n gyfle hefyd i gyfarfod yn bersonol â rhai o’n cwsmeriaid o bedwar ban a hyrwyddo rhinweddau sylweddol bwyd a diod o Gymru, sydd yn mynd o nerth i nerth.”
O’i ganolfan yn Aberystwyth, mae PhytoQuest yn profi fod Cymru ar flaen y gad mewn maes na fyddai llawer hyd yn oed yn sylweddoli ei fod yn rhan o’r diwydiant bwyd. Mae PhytoQuest yn defnyddio gwyddoniaeth i gael gwell dealltwriaeth o gynhwysion a chyfansoddion naturiol, ac mae’n edrych ar y defnydd ellid ei wneud ohonynt mewn cynhyrchion byw’n iach elw-uchel. Mae’r Cyfarwyddwr Dr. Robert Nash yn arweinydd byd ym maes FfytoGemeg, ac mae’n cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd fel Anuga,
“Yr hyn sy’n wych am fod yn rhan o Anuga yw ein bod yn cael cyfle i siarad wyneb yn wyneb â darpar gwsmeriaid a datblygu perthynas ymarferol gyda busnesau eraill o’r un anian ar draws Ewrop a’r byd. Mae’n rhoi’r amser inni allu esbonio ein cenhadaeth a’n nod o ddifrif i ddarpar bartneriaid, rhywbeth sy’n bwysig iawn wrth weithio mewn maes cymharol gymhleth fel ein un ni. Mae Bwyd a Diod Cymru wedi sylweddoli gwerth teithiau masnachu i gwmnïau fel ninnau, a gobeithiaf y gallwn helpu cryfhau’r sector bwyd a diod o Gymru fwy fyth”.
Cynhelir Anuga yn Cologne, Yr Almaen ar 10-14 Hydref, 2015.