Mae’r cwmni arlwyo o dde Cymru Pancake World yn dathlu ar ôl ennill contract chwe ffigwr gwerthfawr gyda chadwyn o dai coffi. Mae’r contract, gwerth dros £100,000 y flwyddyn gyda Kaspa’s Desserts, yn hwb sylweddol i’r cwmni, sydd eisoes yn enwog am ansawdd ei gynnyrch. 

Ynghynt yn y flwyddyn arddangosodd Pancake World yn Nigwyddiad Bwyd a Diod Cymru Rhyngwladol (IFE) yn Llundain yn rhan o ddirprwyaeth Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru a roddodd gyfle i’r cwmni gyfarfod â darpar gwsmeriaid a phrynwyr newydd yn y digwyddiad.

Mae’r cwmni o Gaerdydd yn un o’r prif gyfanwerthwyr o gymysgeddau ac offer crepe yn y byd, ac mae’n dosbarthu gwahanol gymysgeddau arbenigol ac offer gwneud crempog o’i bopty a warws yn ne Cymru.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Loic Moinon,

“Yn Pancake World rydym yn ymrwymedig i ddarparu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau o’r ansawdd uchaf am y prisiau gorau posib. Mae’r cyfle i gyflenwi a gweithio gyda chwmni cydnabyddedig fel Kaspa’s Desserts yn hwb enfawr inni, yn enwedig felly gan fod ganddynt werthwyr newydd yn ne Cymru.

Mae ein presenoldeb yn IFE ynghynt yn y flwyddyn, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, wedi’n galluogi i hyrwyddo ein cynnyrch i brynwyr a dosbarthwyr o bob math, a dyna oedd y catalydd a ddaeth â ni i ble rydym heddiw.

“Rydym yn cyflenwi cleientiaid o bob math, o fwytai, gwestai, masnachwyr marchnadoedd a chaffis, o fusnesau annibynnol bach i gadwyni cenedlaethol mawr ac rydym wastad yn chwilio am gyfleoedd newydd. Rydym wrthi’n trafod gyda Kaspa’s y posibilrwydd o gyflenwi ein cymysgedd waffl blasus iddynt, felly byddwch yn barod i glywed mwy.”

Rebecca Evans AC yw Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth a Bwyd Llywodraeth Cymru,

“Mae hwn yn newyddion gwych i Pancake World ac mae’n pwysleisio pwysigrwydd presenoldeb Bwyd a Diod Cymru mewn digwyddiadau masnachu fel IFE. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i gwmnïau bwyd a diod o Gymru ryngweithio’n uniongyrchol â phartneriaid posib o gwmnïau blaenllaw, ac fel y gwelsom o lwyddiant Pancake World, gall gael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar economi Cymru.”

Share this page

Print this page