Dechreuodd Crwst, a sefydlwyd yn 2016 gan Catrin Parry Jones ac Osian Wyn Jones, fel menter pobi cartref. Mae Crwst yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion becws crefftus ac mae ganddynt gaffi 80 sedd yn Aberteifi, sy’n adnabyddus am ei brecinio. Mae'r cwmni hefyd yn creu cynhyrchion mewn jariau, sydd wedi ehangu i'w gwerthu ledled y DU.
Mae Crwst wedi derbyn cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys achrediad arbennig ar gyfer eu cegin, cyrsiau marchnata, a chysylltiadau â phrynwyr mawr fel M&S a Harrods.