Mae Becws Henllan, busnes teuluol yn Ninbych, wedi bod yn cynhyrchu bara, cacennau a nwyddau boreol ledled Cymru, Swydd Amwythig, a Chilgwri ers dros bedair cenhedlaeth. Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, mae’r becws wedi ehangu ei weithrediadau, wedi gwella ei seilwaith, ac wedi cynyddu ei weithlu. Mae’r gefnogaeth hon wedi galluogi Henllan Bakery nid yn unig i wasanaethu cymunedau lleol, ond i allforio ei gynnyrch blasus yn rhyngwladol, gan gyfrannu at yr economi leol a hyrwyddo cynnyrch Cymreig yn fyd-eang.

Share this page

Print this page