Ynghynt eleni, agorodd bragwyr arobryn Monty’s eu drysau i ganolfan ymwelwyr newydd sbon sy’n cynnig nifer o brofiadau bragu gwahanol. Ynghanol Canolbarth Cymru, ger Trefaldwyn, Powys, mae The Cottage yn lle i brofi Monty’s, lle y gallwch brynu gwahanol fathau o gwrw, anrhegion a nwyddau, ac mae gweithwyr profiadol ar gael i siarad am sut mae popeth yn cael ei wneud; y cyfan daith gerdded fer yn unig o’u prif ganolfan gynhyrchu.

The Cottage yw cam cyntaf cynllun i greu cyrchfan ar gyfer selogion cwrw go iawn ac atyniad o bwys yn y Canolbarth, a bwriedir cynnig pecynnau a theithiau profiadau bragu.

Mae Cyfarwyddwr Gwerthiannau Monty's Russ Honeyman yn gyffrous iawn am y fenter newydd,       

"Mae’n lle delfrydol i fwynhau peint o’ch hoff gwrw Monty's, dysgu am y bragdy a sut rydyn ni’n bragu. Mae’n lle perffaith, gyda’r golygfeydd gwych dros fryniau’r Canolbarth. Mae digon o deithiau cerdded yn y cylch ac rydyn ni ar drothwy Clawdd Offa.

Cynhyrchwyd fideo am y broses fragu a’r cynhwysion a ddefnyddiwn ac mae ein staff cyfeillgar bob tro ar gael i ateb unrhyw gwestiynau am fragdy Monty's!"

Wedi iddynt gymryd rhan mewn ymweliad Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru â’r Ffindir a Sweden ar ddiwedd Medi, aethant ati i drefnu eu taith ymwelwyr gyntaf. Roedd y daith ymwelwyr yn gyfle iddynt arddangos a blasu cwrw mewn amgylchedd cyfforddus a phroffesiynol, ac arweiniodd at archeb allforio newydd i Ewrop, a danfonwyd paledi o’r cwrw o Gymru i’r Iseldiroedd.

Ychwanegodd Russ Honeyman,

“Rhoddodd yr ymweliad â Sgandinafia gyfleoedd newydd inni ddatblygu cysylltiadau busnes newydd a rhoddodd syniadau inni am sut i ddatblygu’r ganolfan. Ni fyddai hyn oll wedi bod yn bosib heb y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a gobeithiwn y gallwn helpu trwy roi ansawdd rhagorol cwrw o Gymru ar fap y byd.”

Yn ogystal â’r ganolfan ymwelwyr mae ganddynt hefyd siop bragdy, lle y gallwch brynu dewis gwych o nwyddau wedi’u brandio, cwrw potel a nwyddau i gasglwyr fel hen glipiau pympiau a gwydrau. Mae ystafell gyfarfod fechan hefyd ar gael i’w llogi, ac mae’r prif far hefyd ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau preifat.

Mae Monty’s Brewery yn fragdy arobryn a gafodd 2 seren yng ngwobrau Great Taste eleni am eu cwrw Moonrise, ynghyd â Medal Efydd yn yr Her Gwrw Ryngwladol am eu gwrw di-glwten, Masquerade. Maent yn bragu 6 chwrw rheolaidd, 7 tymhorol, ynghyd â dewis o gwrw casgen arbennig.

 

Share this page

Print this page