Bydd cwmnïau bwyd a diod o bob rhan o Gymru’n troi eu golygon at farchnad allforio bwysig Sbaen, lle y cânt gyfle i arddangos eu cynnyrch blaengar ac o ansawdd i lu o ddosbarthwyr a phrynwyr manwerthu, a sicrhau busnes newydd.
Mae corff Llywodraeth Cymru Bwyd a Diod Cymru yn arwain yr Ymweliad Datblygu Masnach i brifddinas fywiog Sbaen, Madrid yn hwyrach y mis hwn (15-17 Tachwedd 2016).
Bydd pymtheg cwmni bwyd a diod, yn amrywio o fragwyr i bobwyr a phroseswyr cig, yn cael golwg ar farchnad esblygol Sbaen, fydd yn cynnig cyfleoedd i godi eu proffil a denu gwerthiannau trwy gyfarfod prynwyr bwyd a diod cenedlaethol o bob rhan o’r wlad.
Wrth edrych ymlaen at yr ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC:
“Mae’r ymweliad masnach hwn â Sbaen yn cynnig cyfle gwych i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru sy’n ceisio meithrin cysylltiadau newydd mewn marchnadoedd tramor fel rhan o’n hymgyrch gyffredinol i gefnogi allforion o Gymru sy’n hanfodol i economi Cymru ac er mwyn creu a diogelu swyddi.
“Wrth i’w heconomi dyfu a chyda phoblogaeth o bron i 50 miliwn, mae gwledydd craff sy’n hoff o fwyd fel Sbaen yn darged hanfodol i’n cynhyrchwyr wrth inni geisio cyrraedd ein targed uchelgeisiol o dyfu’r diwydiant 30% erbyn y flwyddyn 2020. Mae ein bwyd a diod yn safon byd ac rydym yn hyderus y bydd y farchnad Sbaenaidd yn cytuno.”
Mae Sbaen yn un o’r 3 farchnad allforio bwysicaf i fwyd a diod o Gymru, a chyda’i marchnad ddomestig fywiog a’i sector ymwelwyr ffyniannus, mae’r ymweliad yn sicr yn cynnig cyfle unigryw i gwmnïau o Gymru.
Mae prynwyr o Sbaen yn troi at wledydd Prydain am gynhyrchion traddodiadol a blaengar, yn enwedig gan fod gan Madrid nifer enfawr o siopau a chadwyni arbenigol o safon yn canolbwyntio ar gategorïau bwydydd organig, rhydd o, bwyta’n iach a chynhyrchion naturiol. Mae cynhyrchion melysion ac wedi’u pobi yn parhau’n boblogaidd yn y farchnad Sbaenaidd, ac felly hefyd gynhyrchion cyfleus a byrbrydau.
Mae Cwmni Caws Eryri yn y Gogledd yn frand cyfarwydd yng Nghymru ond bydd yn archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael yn y farchnad Sbaenaidd. Yn wreiddiol, roedd y cawsiau moethus, a sefydlwyd yn 2001, yn cael eu gwerthu mewn marchnadoedd ffermwyr, ond arweiniodd eu dechreuadau digon dinod at gydnabyddiaeth genedlaethol.
Mae Richard Newton Jones o Gwmni Caws Eryri yn edrych ymlaen at beth allai’r ymweliad â Madrid ei gynnig:
“Yng Nghwmni Caws Eryri, rydym yn parhau i adeiladu ein presenoldeb rhyngwladol. Tyfodd allforion yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn awyddus i ehangu ein harlwy Ewropeaidd. Credwn y bydd y farchnad Sbaenaidd yn cymryd diddordeb arbennig yn ein dewis o gynhyrchion. Bydd yr ymweliad masnach hwn yn hollbwysig yn meithrin cysylltiadau newydd a dysgu mwy am y sectorau manwerthu a gweini bwyd yma.”
Cwmni arall fydd ar yr Ymweliad Masnach â Madrid yw Ultrapharm sy’n arbenigo mewn nwyddau pob Di Glwten, gan gynnwys bara, rholiau, bara gwastad a myffins. Sefydlwyd y cwmni o Bontypŵl dros 20 mlynedd yn ôl yn bobydd Di Glwten pwrpasol, a bu’n datblygu technegau a ryseitiau newydd a blaengar i ddiwallu’r galw cynyddol am gynhyrchion Di Glwten.
Meddai Iain Lewis o Ultrapharm:
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at greu cysylltiadau newydd â Sbaen ac at arddangos ein cynhyrchion i fanwerthwyr a phrynwyr o Sbaen. Mae’r daith yn gyfle gwych i ddod i adnabod y farchnad Sbaenaidd a chyfarfod â phobl allweddol yn y diwydiant yno. Rydym yn awyddus i adeiladu ar y galw presennol am gynhyrchion di glwten a bydd mynd i mewn i’r farchnad Sbaenaidd yn allweddol i wneud hynny.”
Bydd uchafbwyntiau’r ymweliad yn cynnwys digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr fydd yn rhoi cyfle i gwmnïau gyflwyno i brynwyr manwerthu a gweini bwyd dethol. Bydd y digwyddiad yn gyfle hefyd i arddangos cynhyrchion bwyd a diod o Gymru ac i gael teithiau tywys o gwmpas siopau, esboniad i’r farchnad a digwyddiad rhwydweithio masnach.