Mae cynhadledd ddiweddar yng Nghaerdydd oedd yn anelu at sicrhau mwy o fuddsoddi yn niwydiant bwyd a diod Cymru wedi cael ei galw’n llwyddiant mawr.

Gyda bron i 150 o gynhyrchwyr o bob rhan o Gymru yn ymuno â buddsoddwyr a chyllidwyr o gwmnïau fel HSBC, Barclays a Xenos, roedd Cynhadledd Arloesedd Bwyd a Buddsoddi i Dyfu yn gyfle i’r cynhyrchwyr archwilio pa gyfleoedd cyllido sydd ar gael iddynt wrth iddyn nhw geisio creu twf yn y sector trwy arloesi a sicrhau eu bod yn parhau’n gystadleuol yn y farchnad fyd-eang.

Arweiniodd y digwyddiad, a drefnwyd gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, at nifer calonogol o 70 o gyfarfodydd wyneb yn wyneb rhwng cynhyrchwyr a buddsoddwyr, a’r gobaith yw y bydd y cyswllt cychwynnol hwn yn arwain at gyfalaf sylweddol gaiff ei chwistrellu i’r sector dros y blynyddoedd nesaf.

Yn y gynhadledd, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,

“Datblygwyd y gynhadledd hon gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i ymateb yn uniongyrchol i heriau a osodwyd gan fusnesau yng Nghymru. Mae’r bwrdd yn allweddol i danio twf yn y sector ac rydym yn dangos fod busnesau yng Nghymru yn barod am dwf newydd a’u bod yn chwilio am gyfleoedd buddsoddi newydd i gefnogi’r twf hwnnw.”

Un o’r cynhyrchwyr fu yn y gynhadledd oedd Illtud Dunsford o Charcutier Ltd. yn Sir Gaerfyrddin, sy’n arbenigo ar gigoedd cartref arobryn,

“Rhoddodd y gynhadledd olwg ragorol ar weledigaeth Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru. Roedd y sesiynau yn dadansoddi tueddiadau yn y farchnad yn enwedig yn rhoi digon i gnoi cil arno o ran tueddiadau defnyddwyr yn eu harferion siopa ac yn amlygu’r symudiad oddi wrth fwyd go iawn at fwyd hwylus. Roedd y digwyddiad ‘cwrdd cyflym’ gyda chyllidwyr yn wahanol a defnyddiol, a chafwyd cyfarfodydd eraill yn barod er mwyn amlygu cyfleoedd cyllido posib ar gyfer prosiectau blaengar newydd.”

Amlinellodd Chris Griffiths, sy’n Rheolwr Cronfa Buddsoddiadau Newydd yng Nghyllid Cymru, rai o’r rhesymau pam ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig fod cynhyrchwyr yn gwybod am y cyfleoedd cyllido sydd ar gael,

Mae gennym bob rheswm i fod yn falch o’r diwydiant bwyd a diod sydd gennym yma yng Nghymru, a’n rôl ni yw helpu adeiladu ar y gwaith da hwn i helpu’r diwydiant i ffynnu fwy fyth. Nod y gynhadledd oedd codi’r llen ar rai o’r dewisiadau gwahanol sydd ar gael a helpu hwyluso mynediad at y math iawn o gyllid ar yr adeg iawn yn natblygiad busnes. Y gobaith yw y gall hyn eu galluogi i dyfu a chanolbwyntio ar yr hyn a wnânt orau, sef cynhyrchion o safon byd.”

Dywedodd Andy Richardson, sy’n Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ac yn Bennaeth Materion Corfforaethol i Volac,

“Roeddwn yn falch iawn fod cymaint o fusnesau bwyd ac ariannol yn bresennol ac roedd ymdeimlad gwirioneddol o egni ac agwedd gadarnhaol gan gynhyrchwyr am y posibiliadau sy’n agored iddynt ar gyfer twf a buddsoddiad. Roedd y cyrff cyllido a buddsoddi oedd yn bresennol hefyd wedi mynegi diddordeb cryf yn cynorthwyo’r sector i ddatblygu, ac mae hynny’n galonogol iawn.” 

“Cafwyd mwy na 70 cyfarfod ar y dydd rhwng cynhyrchwyr a darpar fuddsoddwyr, sy’n dangos gymaint y gall ein diwydiant ei gyflawni trwy weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn angerddol am yrru’r sector ymlaen yng Nghymru ac rydym ymhell ar y ffordd i gyrraedd ein targed twf o 30% erbyn 2020.”

Share this page

Print this page