Wrth edrych ymlaen at ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi 2017, mae adran Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi lansio canllaw newydd i helpu manwerthwyr i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru.
Bwriad ‘Dyma Ddathliad. Dyma Gymru’ yw cynnig adnoddau a syniadau i fanwerthwyr – o siopau mawr fel Waitrose, John Lewis a Partridges yn Llundain, yr holl fanwerthwyr niferus, i fentrau llai a siopau fferm – er mwyn iddyn nhw allu hyrwyddo bwyd a diod o Gymru yn eu siopau, cynyddu nifer y cwsmeriaid a hybu gwerthiant.
Dywedodd Ysgrifennydd y dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,
“Mae gweithio gyda manwerthwyr yn rhan allweddol o’n Cynllun Gweithredu i dyfu’r diwydiant ac mae’n bwysig eu bod nhw’n ystyried dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle rhagorol nid yn unig i gynyddu’r nifer o gwsmeriaid ond hefyd dangos i’w cwsmeriaid bod ansawdd bwyd a diod o Gymru yn arwain y byd. Rwyf i’n awyddus i bawb weithio gyda’i gilydd i ddathlu a hyrwyddo bwyd a diod o Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi, felly ymunwch ag ymgyrch #GwladGwlad / #ThisisWales”.
Mae’r canllaw newydd yn rhan o ymgyrch Dydd Gŵyl Dewi #GwladGwlad ehangach, sy’n dathlu’r gorau o fwyd a diod y genedl. Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod blaenllaw yn arddangos eu cynhyrchion i rai o siopau mwyaf nodedig Llundain rhwng diwedd mis Chwefror a 1 Mawrth.
Dywedodd Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod,
“Mae gennym draddodiad hir a balch o gynhyrchu bwyd a diod rhagorol, gyda digonedd o adnoddau naturiol a deunyddiau bwyd, a ffocws cyfunol ar ddatblygu technolegau newydd ac arloesi wrth gynhyrchu bwyd.
“Bydd y pecyn cymorth yn helpu manwerthwyr gyda syniadau ac awgrymiadau ynghylch hyrwyddo bwyd a diod yn eu siopau, fydd yn helpu i gynyddu gwerthiant wrth agosáu at Ddydd Gŵyl Dewi ac ar y diwrnod ei hun. Bydd yn ei gwneud yn haws i fanwerthwyr gael y deunyddiau sy’n gweddu orau i’w siop wrth iddyn nhw baratoi unwaith eto i arddangos y gorau o fwyd a diod o Gymru.”
Ymhlith yr elfennau yn y pecyn cymorth mae cyngor cynhwysfawr a gwybodaeth am y manteision a ddaw i fanwerthwyr drwy gymryd rhan a chael y fantais orau o’r ymgyrch, ynghyd ag awgrymiadau defnyddiol, ffeithiau am Ddewi Sant, ryseitiau a ffeithiau difyr am fwyd. Mae amrywiaeth o ddeunydd marchnata ar gael i gyd-fynd â’r ymgyrch, gan gynnwys deunydd man gwerthu, posteri/taflenni, cardiau post a bagiau â brand i’w lawrlwytho am ddim a’u defnyddio fel rhan o ymgyrch #GwladGwlad.
Mae ymgyrch #GwladGwlad yn datgelu byd o flasau anghredadwy, cynhwysion o’r ansawdd uchaf, a phecynnu wedi’i ddylunio’n goeth. Y diben yw sicrhau bod bwyd a diod o Gymru’n cael y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu.
Gellir cael pecyn cymorth ‘Dyma Ddathliad. Dyma Gymru’ drwy wefan Bwyd a Diod Cymru: www.llyw.cymru/bwydadiodcymru