Mae gwerth y bwyd a diod sy'n cael eu hallforio o Gymru wedi cynyddu bron 20% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae hyn i'w gymharu â chynnydd o 9.5% ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd dros yr un cyfnod.
Mae data dros dro ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2016 yn dangos bod gwerth allforion bwyd a diod o Gymru wedi codi i £337.3 miliwn, cynnydd o 19.8% o'i gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
Yr UE sy'n mewnforio'r rhan fwyaf o allforion bwyd a diod o Gymru, ac mae'n gyfrifol am 72.4% o'r cyfanswm, ond mae cynnydd mawr wedi bod yn yr allforion i'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica hefyd.
Cig a chynhyrchion cig oedd ar frig y rhestr o allforion am y flwyddyn, ac roeddent yn gyfrifol am bron i 22% o'r holl allforion bwyd a diod.
Mae'r data diweddaraf yn dilyn ymgyrch gan Lywodraeth Cymru i godi proffil byd-eang Cymru. Mae'r fenter yn cynnwys cynorthwyo cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru i gymryd rhan mewn nifer o deithiau masnach yn ystod 2016 a 2017 i farchnadoedd allweddol gan gynnwys yr Iwerddon, Sbaen, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, yr Eidal, Denmarc, Norwy, Canada a'r Emiraethau Arabaidd Unedig. Mae ymweliadau â'r Almaen, Unol Daleithiau America a Ffrainc ar y gweill ar gyfer gweddill y flwyddyn.
Mae hyn hefyd yn dilyn digwyddiad diweddar BlasCymru, a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, a ddaeth â chynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru, prynwyr o dramor a phobl broffesiynol o'r diwydiant bwyd at ei gilydd gan roi'r llwyfan mwyaf erioed i fwyd a diod o Gymru.
Wrth groesawu'r ffigurau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
“Rydym yn ymfalchïo'n fawr yn ansawdd uchel ein bwyd a'n diod, ac yn cydnabod eu gwerth aruthrol i'n heconomi. Mae'r ffigurau hyn yn dystiolaeth bellach o'r enw da y mae ein bwyd a'n diod yn ei ennill ledled y byd.
"Dw i'n hynod o falch ein bod yn parhau i helpu'r sector i ehangu a chyrraedd marchnadoedd newydd. Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad BlasCymru, mae rhai o'n cynhyrchwyr yn manteisio ar y diddordeb a ddangoswyd gan brynwyr o bedwar ban byd.
“Mae amser anodd o'n blaenau'n ddi-os. Yr UE yw'r prif gwsmer ar gyfer ein cynnyrch o hyd, a hynny o bell ffordd. Mae'n dystiolaeth bellach o fygythiad Brexit caled i'n heconomi, a dyna pam rydyn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i flaenoriaethu mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl ac i osgoi codi unrhyw rwystrau newydd sy'n llesteirio busnesau bwyd a diod Cymru rhag gweithio'n effeithiol.
"Fodd bynnag, mae'r cynnydd mewn allforion i farchnadoedd y tu allan i'r UE yn galondid i ni. O ystyried ansawdd y cynnyrch sydd gennym yng Nghymru, dw i'n hyderus y gallwn barhau i wneud cynnydd ardderchog mewn marchnadoedd newydd."