Yn ystod rhan gyntaf 2017, derbyniodd chwech o gynhyrchion Cymreig newydd warchodaeth o dan Gynllun Enwau Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd (EUPFN) – statws y mae tipyn yn ei chwenychu – gan ddod â chyfanswm cynhyrchion gwarchodedig Cymru i 14.
Bydd y chwe chynnyrch newydd: Porc Cymreig Pedigri wedi’i Fagu’n Draddodiadol (TSG), Eog Gorllewin Cymru wedi’i Ddal o Gwrwgl (PGI), Sewin Gorllewin Cymru wedi’i Ddal o Gwrwgl (PGI), Bara Lawr Cymru (PDO), Perai Cymreig Traddodiadol (PGI) a Seidr Cymreig Traddodiadol (PGI) yn ymuno â’r wyth cynnyrch PFN presennol o Gymru oedd yn arddangos ar faes Sioe Frenhinol Cymru.
Cyflwynwyd Cynllun EUPFN ym 1993 i warchod cynhyrchion bwyd a diod ar sail ddaearyddol ac ymhlith y cynhyrchion enwog sy’n cael eu gwarchod mae Champagne, Ham Parma, Porc Peis Melton Mowbray, Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.
Ceir tri dynodiad yn y cynllun: Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO), Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Gwarant Arbenigedd Traddodiadol (TSG). Yn ychwanegol at y 14 o gynhyrchion Cymreig sydd eisoes yn cael eu gwarchod gan y cynllun, ceir sawl cynnyrch arall o Gymru sydd mewn gwahanol gyfnodau o’r broses gwneud cais am PFN.
Mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i gefnogi cynhyrchwyr Cymru i sicrhau statws Enw Bwyd Gwarchodedig a datblygu cyfleoedd cydweithredol i hybu ‘teulu’ cynhyrchion bwyd a diod Cymru.