Mae’r Gymdeithas Rheoli yn ôl Categori yn diffinio rheoli yn ôl categori fel proses sydd â’r diben o greu cynllun cynhwysfawr sy’n diwallu anghenion siopwyr mewn modd rhagorol a thrwy hynny'n arwain at ganlyniadau busnes rhagorol ar gyfer manwerthwyr a chyfanwerthwyr.
Mae Bwyd a Diod Cymru wedi datblygu rhaglen Rheoli yn ôl Categori, sy’n canolbwyntio ar Fwyd wrth Fynd (F2G). Nod y rhaglen yw rhoi cymorth unigol i gwmnïau Bwyd a Diod yng Nghymru, i’w helpu i ddeall y farchnad ac i sicrhau cyfleoedd i gwrdd â phartneriaid masnach penodedig. Bydd y rhaglen yn cefnogi cwmnïau hefyd i integreiddio sgiliau rheoli yn ôl categori o fewn eu prosesau datblygu masnach.
Mae’r farchnad ‘Bwyd wrth Fynd’ yn un o is-setiau’r farchnad ‘Y Tu Allan i’r Cartref’ (OOH) ac mae’n cyfeirio at fwyd cyfleus a gaiff ei fwyta wrth fynd. Mae’r farchnad yn ddeinamig ac yn newid yn gyflym. Mae marchnad Bwyd wrth Fynd y DU yn gwneud cynnydd cadarn, mae wedi cynyddu 4.9% o flwyddyn i flwyddyn ac mae’n werth £27.2bn, tra bo’r farchnad yng Nghymru yn werth £1.65bn sy’n cyfrif am 60% o farchnad Y Tu Allan i’r Cartref Cymru.
Yn ogystal â sicrhau bod cwmnïau yn cael cipolwg cynhwysfawr ar ysgogwyr/tueddiadau’r farchnad a defnyddwyr sy’n berthnasol i’w categorïau, mae'r cymorth a roddir i gwmnïau yn cynnwys darpariaeth i ganfod data ar gyfer eu categorïau penodol.
Mae’r cymorth ar gael i chi ar unwaith. I gael rhagor o fanylion ac i fynegi diddordeb, anfonwch e-bost at Catherine Frith yn bwyd-food@levercliff.co.uk neu gallwch ei ffonio hi ar 01691 770055 neu 07738 998690.