Mae cwmnïau bwyd a diod Cymru’n profi bod arloesi’n dal yn uchel ar yr agenda wrth iddynt baratoi ar gyfer arddangosfa bwyd, iechyd a maeth yn Llundain.
Bydd pymtheg o gwmnïau o Gymru yn Food Matters Live yr wythnos nesaf (21-23 Tachwedd) yn ExCeL yn Llundain dan faner Cymru/Wales Llywodraeth Cymru, gyda phob un yn awyddus i arddangos cynhyrchion newydd a’r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant bwyd a diod.
Cwmni gofal iechyd y croen yw Curapel sydd wedi’i leoli yn Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru yng Nghaerdydd, ac sy’n datblygu triniaethau arloesol ar gyfer ecsema a soriasis yn ogystal â chyflyrau pigmentiad y croen. Caiff eu cynhyrchion i gyd eu creu gydag actifau diogel, naturiol gyda dynodiad GRAS.
Yn y digwyddiad, bydd Curapel yn datgelu eu cynnyrch newydd Pellamex, ychwanegyn bwyd dyddiol ar gyfer croen sych a chroen sy’n tueddu i gael ecsema, sy’n cryfhau rhwystrau’r croen o’r tu mewn i helpu i gadw alergenau a llidwyr allanol sy’n gwaethygu’r cyflwr draw. Mae’r ychwanegyn bwyd croen i bob pwrpas yn ‘bwydo’’r fioleg sy’n ffurfio rhwystrau naturiol y croen gyda’r deunydd sydd ei angen ac ar yr un pryd mae’n lleitho o’r tu mewn, fydd hefyd yn fuddiol i bobl y mae eu croen yn gynyddol frau a sych yn sgil heneiddio.
Wrth sôn am y cynnyrch cyffrous hwn, dywedodd Prif Weithredwr Curapel, Dr Peter Luebcke,
“Mae tîm Curapel yn llawn cyffro wrth gynnig Pellamex fel ffordd arloesol ac effeithiol i helpu pobl i reoli croen sych, sensitif sy’n tueddu i gael ecsema yn ogystal â’r rheini sy’n awyddus i gael gwell gwydnwch a bywiogrwydd yn eu croen.
“Mae ein cynhwysyn gweithredol sydd â phatent eisoes wedi’i brofi’n glinigol gydag ecsema, gyda chanlyniadau rhagorol. Oherwydd y ffordd mae’n gweithio, byddai’r cynnyrch hefyd o fudd i unrhyw un sy’n awyddus i gynnal rhwystr gwydn wedi’i leitho yn y croen.”
Mae Curapel ymhlith pymtheg o gwmnïau bwyd a diod o Gymru sy’n dod at ei gilydd ar gyfer pedwaredd arddangosfa Food Matters Live i ddangos sut mae hyder Cymru’n cynyddu o ran arloesi cynhyrchion newydd sy’n ddeniadol i gymdeithas sydd ag ymwybyddiaeth gynyddol o ran iechyd.
Cwmni arall sy’n bwriadu defnyddio Food Matters Live fel llwyfan ar gyfer arddangos eu brand cynnyrch bwyd iechyd ‘Neovite’ yw Golden Dairy. Powdr llaeth cyntaf colostrwm organig wedi’i chwyth-sychu o wartheg wedi’u bwydo â phorfa yw Neovite, sy’n gynnyrch delfrydol ar gyfer hybu imiwnedd, perfformiad athletig a chyflyrau treulio. Mae athletwyr amlwg fel Tîm Rygbi Llewod Prydain, enillwyr medalau Olympaidd, chwaraewyr pêl-droed yn yr Uwch-gynghrair a thorwyr recordiau byd wedi defnyddio colostrwm i gynnal iechyd a ffitrwydd.
Golden Dairy, ym Methesda, Sir Benfro, yw’r ffatri gyntaf yn y DU i gynhyrchu’r bwyd gwerthfawr hwn, a dywedodd Cyfarwyddwr y Cwmni John Rolfs,
“Mae lleoli gwaith cynhyrchu Neovite yng ngorllewin Cymru’n golygu y gallwn gynnig y cynnyrch gorau bosibl gan fuchesau sy’n cael eu bwydo â phorfa a darparu incwm ychwanegol i ffermwyr llaeth lleol.
Mae wedi’i ddangos bod gan golostrwm nodweddion hybu treulio ac imiwnedd helaeth. Rydyn ni wedi cynnal nifer o astudiaethau gydag Adran Gwyddor Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth ar Neovite sy’n dangos gwelliannau yng ngweithrediad rhwystr y perfedd yn ystod straen gwres a gostyngiad mewn achosion a difrifoldeb heintiau resbiradol yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Rydyn ni ar hyn o bryd yn edrych ar ymchwil i fuddion cymryd Neovite i bobl â diabetes ac yn 2018 byddwn yn ymchwilio i glefyd Crohn mewn glasoed gydag astudiaeth raddfa fawr a gyllidir gan y GIG.”
Mae’r newyddion da’n parhau ar gyfer y brand byrbryd sydd wedi’i ysbrydoli gan Eryri, Wild Trail, yn Nhywyn, yng ngogledd orllewin Cymru, wrth iddyn nhw ehangu eu cynhyrchion bariau byrbryd iachach gyda blas Cacen Foron newydd. Y bar ffrwythau, llysiau a chnau blasus hwn yw’r pedwerydd yn y gyfres gan barhau ag arfer Wild Trail o ddefnyddio pum cynhwysyn syml yn unig i greu byrbrydau naturiol, cytbwys â blas moethus.
Dywedodd Robin Williams, Prif Swyddog Gweithredol Wild Trail “Rydyn ni’n falch iawn i ychwanegu pedwerydd bar i’r gyfres Wild Trail gyda’r blas Cacen Foron newydd. Rydyn ni’n cydnabod bod pobl yn awyddus i gael cynhyrchion naturiol, glân heb gynhwysion artiffisial na siwgr ychwanegol, ond nad ydyn nhw am gyfaddawdu ar flas ac ansawdd. Rydyn ni’n falch o fod wedi creu byrbryd â blas mor foethus gyda dim ond pum cynhwysyn syml fydd yn apelio at y cwsmer modern.”
Wrth edrych ymlaen at Food Matters Live, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Lesley Griffiths,
“Arloesi yw un o’r prif ysgogiadau ar gyfer twf economaidd yn y sector bwyd a diod. Fel Llywodraeth byddwn yn parhau i gefnogi’r rôl y gall arloesi o ran bwyd ei chwarae i gyfoethogi iechyd a llesiant, ac ar yr un pryd, ddangos bod Cymru ar y blaen gydag arloesi, y dechnoleg ddiweddaraf a chynnyrch ansawdd uchel.”
Bydd pymtheg o gwmnïau o Gymru yn Food Matters Live eleni dan faner Cymru/Wales Llywodraeth Cymru, yn cynrychioli cynhyrchion sy’n amrywio o fwydydd yn seiliedig ar brotein soya, byrbrydau cig blasus wedi’u pobi i gacennau di-glwten a byrbrydau llysieuol Indiaidd.
Food Matters Live yw’r unig ddigwyddiad traws-sector yn y DU sy’n dod â’r diwydiant bwyd a diod, manwerthwyr, darparwyr gwasanaethau bwyd, llywodraeth a’r rheini sy’n gweitho ym maes maeth at ei gilydd i alluogi cydweithio ac arloesi i gefnogi tirwedd bwyd gynaliadwy at y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnig cymorth i gwmnïau o Gymru sy’n dymuno canolbwyntio ar arloesi drwy’r Fenter Ymchwil Busnesau Bach, sy’n cysylltu heriau’r sector cyhoeddus â syniadau arloesol o ddiwydiant. Briff cystadleuaeth y Fenter sydd ar agor i bum busnes o Gymru yw ‘Sut gallwn ni wella cyfansoddiad maethol bwyd a diod i blant a lleihau’r gost ar yr un pryd?’ Bydd dau enillydd cyffredinol.