Bydd Great Taste yn beirniadu cystadleuwyr cynnyrch bwyd a diod Cymreig ar dir cartref eleni, yng Ngwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd rhwng dydd Mawrth 2 – dydd Iau 4 Mehefin 2015. Wrth i Lywodraeth Cymru fwriadu cynyddu’r sector hon o 30% mewn dull cynaliadwy dros y bum mlynedd nesaf, ac am fod cynifer o gynhyrchion Cymreig wedi derbyn sêr Great Taste yn 2014, gwahoddodd Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd, yr Urdd Bwydydd Da i gynnal y broses feirniadu yng Nghaerdydd am y tro cyntaf.

Mae llu o arbenigwyr yn barod i flasu’r cystadleuwyr Cymreig, a hynny heb eu gweld, gan gynnwys awdur nodwedd bwyd a choginio Telegraph Weekend, Xanthe Clay, y beirniad bwyd uchel ei barch, Charles Campion, a llawer o gogyddion, prynwyr, perchenogion tai bwyta ac awduron, felly bydd y llifolau’n tywynnu’n llwyr ar gynhyrchwyr bwyd a diod amrywiol a blaengar Cymru yn sioe deithiol Great Taste. Mae’r gystadleuaeth eleni eisoes wedi gweld cynnydd arwyddocaol mewn ymgeiswyr o Gymru, gan godi o 99 o gwmnïau’n cynnig 374 o gynhyrchion yn 2014 i 143 chwmni’n cyflwyno 491 o gynhyrchion i’w hystyried yn 2015.

Dyfarnwyd y rhif anrhydeddus o 120 o wobrau Great Taste i gynhyrchion Cymreig y llynedd, gyda 83 ymgais yn ennill 1-seren, 34 yn cael 2-seren a thri yn deilwng o’r wobr 3-seren. Ymhlith y dewis dethol iawn hwn o gynnyrch bwyd a diod i dderbyn logo du ac aur trawiadol Great Taste yr oedd Paté Pesto Coch Cwmni Bwyd Traddodiadol Patchwork, Cafiâr Madarch The Mushroom Garden a Chwrw Ysgawen Bragdy’r Mŵs Piws.

Fel yr esbonia John Farrand, rheolwr-gyfarwyddwr yr Urdd Bwydydd Da: ‘Cynhaliodd sioe deithiol Great Taste wythnos feirniadu yn Belfast y llynedd, gan godi proffil Great Taste a’r cynhyrchwyr buddugol, ond yn fwy na hynny, gan chwifio baner Gogledd Iwerddon fel cyrchfan bwyd o ddifri. Bu’n ardderchog gweld y fath gynnydd mewn nifer cystadleuwyr o Gymru eleni, gyda chyfoeth o gwrw, iogwrt a hufen ia yn cael eu cyflwyno i’r beirniaid fwrw llinyn mesur drostynt. Fe hoffwn i annog mwy o gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru i gystadlu yn Great Taste yn 2016 a thu hwnt, er mwyn helpu i godi proffil cynnyrch Cymreig gerbron cynulleidfa ryngwladol sy’n awyddus i dderbyn bwyd oddi ar restr sêr Great Taste.”

Meddai Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd; “Mae Cymru’n edrych ymlaen yn eiddgar at gynnal beirniadaethau ymgeiswyr bwyd a diod Cymreig gwobrau Great Taste 2015. Mae gennym y fath ystod eang o gynnyrch a busnesau yma yng Nghymru ac mae’n ardderchog gweld eu bod wedi cael eu cydnabod gan Great Taste dros y blynyddoedd. Hoffwn ddymuno pob dymuniad da i bob un o’r ymgeiswyr Cymreig, ac edrychaf ymlaen at ddathlu’u llwyddiant.”

Dyma oedd gan y cogydd teledu, y cyflwynydd a’r beirniad Great Taste, Dudley Newbery, i’w ddweud: “A minnau wedi bod yn rhan o’r diwydiant bwyd yng Nghymru am 24 o flynyddoedd, mae wedi bod yn ffantastig gweld cynifer o gynhyrchwyr Cymreig yn dod i’r golwg dros y blynyddoedd diweddar. Bellach, maen nhw’n dal eu tir, a gwell na hynny, yn erbyn eu cystadleuwyr yng ngweddill y DU, ac mae Great Taste yn darparu’r llwyfan delfrydol iddyn nhw allu arddangos ffrwyth eu gwaith caled.”

Ychwanegodd Rufus Carter, cyfarwyddwr masnachol y Cwmni Bwyd Traddodiadol Patchwork, ac  enillydd gwobrau Great Taste: “Gwobr Great Taste yw un o’r gwobrau bwyd mwyaf credadwy a thryloyw yn y DU. Mae’n gyfle i bob un ohonom feincnodi ein cynnyrch yn erbyn y gorau yn y DU ac ymhellach i ffwrdd. Mae ennill gwobr 1-, 2-, neu 3- seren yn cysuro defnyddwyr a phrynwyr eu bod nhw’n prynu’r cynnyrch gorau.  Bob blwyddyn mae Great Taste yn ein herio ni i wella ac mae cael ein cydnabod yn dal i roi cyffro go iawn i ni.”

Bydd y broses feirniadu’n dirwyn i ben ym  mis Gorffennaf, a chyhoeddir beth yw’r cynnyrch buddugol yn ystod mis Awst.

ww.gff.co.uk

www.greattasteawards.co.uk

www.llyw.cym/bwydadiodcymru

Am beth y bydd beirniaid Great Taste yn chwilio?

Maen nhw’n chwilio am ansawdd a golwg ardderchog. Maen nhw’n beirniadu safon y cynhwysion a’r modd y mae’r gwneuthurwr wedi rhoi’r bwyd neu ddiod at ei gilydd. Ond yn fwy na dim, maen nhw’n chwilio am flas gwirioneddol ardderchog. Gan weithio mewn timau bach, bydd arbenigwyr yn blasu 25 o fwydydd ymhob eisteddiad, gan drafod pob cynnyrch wrth i awdur bwyd cydlynol drawsysgrifio’u sylwadau’n uniongyrchol ar wefan Great Taste, y gall cynhyrchwyr edrych arnynt ar ôl i’r beirniadu ddod i ben. Dros y blynyddoedd, mae nifer o fusnesau bwyd, cwmnïau cychwynnol a chynhyrchwyr sydd wedi hen ymsefydlu wedi cael cyngor ar sut i addasu eu bwyd ac maent wedi mynd yn eu blaenau i ennill statws seren. Bydd unrhyw fwyd sy’n deilwng o seren ym marn y tîm beirniadu yn cael ei dafoli ymhellach gan o leiaf ddau dîm arall. Dim ond pan fydd cytundeb y gellir dyfarnu seren. Ar gyfer 3-seren, rhaid i bob un beirniad sy’n mynychu’r sesiwn, cynifer â 40 o arbenigwyr, gytuno’n unfrydol fod y bwyd yn darparu’r ffactor ‘waw’ eithriadol, annisgrifiadwy hwnnw.   

★★★ Eithradol. WAW! RHAID I TI FLASU HWN

★★ Rhagorol  

★ Blasus i ryfeddu

Share this page

Print this page