Mae Dirprwy Weinidog Bwyd ac Amaeth Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans AC wedi croesawu lansio Arloesi Bwyd Cymru a’i ddyheadau i gefnogi’r Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod i gyflawni ei gynlluniau twf o 30% erbyn y flwyddyn 2020.
Mae tair canolfan fwyd Cymru wedi ail-lansio eu hunain fel Arloesi Bwyd Cymru, corff fydd yn defnyddio ei arbenigedd a’i gysylltiadau diguro â’r sector prosesu bwyd nid yn unig i greu cynhyrchion bwyd newydd ond hefyd i hwyluso mynediad at farchnadoedd newydd trwy drosglwyddo gwybodaeth dechnegol.
Wrth lansio, dywedodd y Dirprwy Weinidog Bwyd ac Amaeth, Rebecca Evans AC:
“Mae dyhead Llywodraeth Cymru o dyfu gwerthiannau yn y sector bwyd a diod 30% i £7 biliwn erbyn y flwyddyn 2020 yn sicr yn un uchelgeisiol. Fodd bynnag, mae rôl Arloesi Bwyd Cymru yn ddeorydd ar gyfer gwella arloesedd ac effeithlonrwydd cynhyrchion yn y diwydiant yn greiddiol i ddarparu llwyfan cryf ar gyfer twf. Rwyf felly wrth fy modd i weld y memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn rhwng y canolfannau fydd yn helpu cryfhau fwy fyth ein harlwy yn genedl bwyd a diod ar gyfer busnesau bwyd a diod cartref a rhyngwladol.”
Mae ymchwil a gynhaliwyd gan ganolfannau bwyd yn amlygu’r angen dybryd am fwy o arloesi a phroffesiynoldeb ar draws y diwydiant gan nad yw 73% o gwmnïau bwyd yng Nghymru yn allforio a dywedodd 78% hefyd nad oeddent yn gweithio ar eu capasiti llawn.
Ychwanegodd David Lloyd o Ganolfannau Diwydiant Bwyd Zero2Five:
“Bydd brand Arloesi Bwyd Cymru yn atgyfnerthu gweithgarwch y canolfannau ac yn eu galluogi i ganolbwyntio ar feysydd allweddol tra’n sicrhau eu bod yn cyrraedd pob rhan o Gymru. Bydd ei dargedau strategol yn cynnwys partneriaid Cymreig a rhyngwladol er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n fyd-eang, boed hynny mewn systemau technegol, arferion hylendid neu gyfraith bwyd.”
Eirlys Lloyd, Rheolwr Canolfan Bwyd Cymru:
“Croesawn y cyfle i wneud cyfraniad pwysig i waith Arloesi Bwyd Cymru, fydd yn cryfhau ein hymrwymiad i gydweithio i wella ac ychwanegu gwerth i gadwyn gyflenwi Cymru er mwyn dod yn fwy blaengar. Ein blaenoriaeth yw annog twf economaidd y sector trwy wneud defnydd da o’r arloesi hwnnw.”
Dywedodd Martin Jardine, Rheolwr Canolfan Technoleg Bwyd: "Daw Arloesi Bwyd Cymru â sgiliau ac arbenigedd sylweddol at ei gilydd, gyda 57 mlynedd o brofiad ar y cyd yng nghefnogi'r sector Bwyd a Diod yng Nghymru. Mae'r adnoddau sydd ar gael yn y dair canolfan yn cynnig amryw o wasanaethau i'r sector Bwyd a Diod Gymreig, gan gynnwys ymchwil a datblygu, cyngor technegol, datblygu cynnyrch newydd, trosglwyddo gwybodaeth a chyrsiau hyfforddi wedi'u teilwra'n arbennig at gleientiaid."