Mae gan arddangoswyr o Gymru yn y Speciality Fine Food Fair eleni, sef y prif ddigwyddiad arddangos yng ngwledydd Prydain ar gyfer y sector bwyd a diod, ddigon i’w ddathlu yn dilyn cyhoeddi’r nifer fwyaf erioed o enillwyr gwobrau Great Taste 2015 o Gymru.

Rhoddodd The Great Taste, y meincnod cydnabyddedig ar gyfer bwyd a diod arbenigol, wobr 3-seren mawr ei bri i ddeg cynnyrch o Gymru, o gymharu â dim ond tri y flwyddyn gynt, a chyda hynny’r gobaith o ddod yn Brif Bencampwr Great Taste 2015.

Gyda chefnogaeth gan Bwyd a Diod Cymru bydd cynnyrch nifer o enillwyr yn cael eu harddangos yn y Ffair, gan obeithio y bydd y llwyddiant diweddar yn gwella eu cyfleoedd i sicrhau gwerthiannau newydd. Bydd 20 o gynhyrchwyr o Gymru’n arddangos yn y digwyddiad, a chan fod prynwyr o bedwar ban yn bresennol mae’n gyfle gwerthfawr arall i hyrwyddo Cymru yn gyrchfan fwyd.

Wrth gyfeirio at y llwyddiant dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans, “Mae’r ffaith fod y nifer uchaf eriod o ymgeiswyr o Gymru wedi ennill 3 seren eleni yn tystio ein bod wedi cymryd camau breision ymlaen ac wedi codi proffil ein gwlad a lledaenu enw da Cymru ym maes bwyd a diod.

“A’r gwobrau hyn yn cael eu beirniaduyng Nghymru am y tro cyntaf, cawsom gyfle gwych i arddangos y gorau o’n cynnyrch Cymreig ni – ond yn fwy na hynny mae’r gwobrau hyn yn rhoi sbardun i’n cwmnïau ni lwyddo’n well byth yn y dyfodol ac mae’n rhoi’r hygrededd i nigyflwyno Cymru fel cyrchfan fwyd i’w chymryd o ddifri. Bydd hyn yn rhoi hwb inni gyflawni ein targed uchelgeisiol i sicrhau 30% o dwf yn y sector bwyd a diod erbyn 2020, a dod â £7 biliwn i mewn i’r economi.”

Mae John Farrand, rheolwr gyfarwyddwr y Guild of Fine Food a threfnydd gwobrau bwyd mwyaf hir sefydlog y diwydiant yn esbonio; "Mae wedi bod yn bleser gweld mwy o gwmnïau’n ennill 3 seren eleni. Mae’r cwrw a seidr, yn enwedig, wedi creu cryn argraff ar ein beirniaid talentog ni. Hoffwn annog rhagor o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru i ymgeisio am wobr Great Taste yn 2016 ac ar ôl hynny – bydd yn helpu i godi proffil cynnyrch Cymreig ledled y byd, gan fod llawer o gwsmeriaid rhyngwladol yn awyddus i brynu gan gwmnïau sydd wedi cael sêr Great Taste.”

Yn gyfan gwbl, aeth cyfanswm nodedig o 174 o wobrau Great Taste i gynhyrchion o Gymru eleni, ac enillodd 122 o gynigion 1-seren, cafodd 42 2-seren a barnwyd fod deg cynnyrch yn deilwng o gydnabyddiaeth 3-seren. Gwelwyd cynnydd o 25% yn nifer y cynigion o Gymru yng nghystadleuaeth eleni, yn codi o 99 cwmni yn cynnig 374 cynnyrch yn 2014 i 143 cwmni yn cyflwyno 491 cynnyrch i’w hystyried yn 2015.       

A hwythau’n benderfynol o beidio llaesu dwylo bydd arddangoswyr eleni yn lansio nifer o gynhyrchion newydd, gan gynnwys:

  • Bydd y cwmni newydd Cnwc Crackers yn lansio’r Fat Mouse Hafod Cheddar cracker

  • Bydd enillwyr Great Taste 2015 Welsh Lady Preserves yn lansio eu jamiau llawn ffrwyth a llai o siwgr newydd

  • Bydd enillwyr mwy nac un seren yn Great Taste 2015 Apple County Cider yn arddangos eu potel peri 330ml 100% sudd gellyg, pefriog ysgafn un amrywiaeth blakeney coch newydd

Mae gan un arddangosydd, Hilltop Honey o’r Canolbarth, reswm ychwanegol dros ddathlu eleni fel y mae’r sylfaenydd Scott Davies yn esbonio:

“Cawsom gadarnhad yr wythnos ddiwethaf y bydd ein cynnyrch yn mynd i mewn i 650 o siopau Tesco ledled gwledydd Prydain, sy’n golygu y bydd ein busnes yn treblu bron dros nos. Mae’r cyfle i fynd i ddigwyddiadau fel y Speciality Food Fair o dan faner Bwyd a Diod Cymru wedi cynnig llwyfan inni arddangos ein cynnyrch a thrafod wyneb yn wyneb gyda phrynwyr gwahanol, ac rydym yn awr yn gweld manteision diamheuol hynny. Byddwn hefyd yn lansio ein Mêl Grug Amrwd a Phaill Gwenyn yn y ffair, felly cofiwch alw heibio i’n gweld.”

Cynhelir y Speciality Fine Food Fair yn Llundain ar 6-8 Medi a chyhoeddir Prif Bencampwr Great Taste, a noddir gan Harrods, ac enillwyr Gwobrau’r Golden Fork ar noson 7 Medi 2015.

Mae rhestr lawn o’r canlyniadau i’w gweld yn www.greattasteawards.co.uk   

Share this page

Print this page