Mae pymtheg cwmni bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynd ar ymweliad datblygu masnach â Denmarc a Norwy er mwyn ceisio dod o hyd i gyfleoedd masnachu newydd yn y marchnadoedd hyn.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd ymweliad datblygu masnach Bwyd a Diod Cymru i Copenhagen ac Oslo rhwng 23-27 Mai 2016 yn cynnig mewnwelediad a chysylltiadau masnachol hollbwysig i gwmnïau mewn dwy farchnad bwysig ac amrywiol ar gyfer bwyd a diod o Gymru.
Bydd pymtheg cwmni yn ymweld â Denmarc a Norwy, yn amrywio o gwmnïau llaeth, pwdinau a bisgedi i sudd ffrwythau a bragu.
Mae Otley Brewing, cwmni bragu teuluol ym Mhontypridd yn credu fod yr ymweliad masnach hwn yn gyfle perffaith i ehangu eu busnes ymhellach fel y dywed y Rheolwr Gyfarwyddwr Nick Otley, “Rydym yn gynhyrfus am gyflwyno ein cynhyrchion i farchnad fwy, agor ein hadenydd a phrofi’r dŵr. Fe ddechreuon ni’r busnes un mlynedd ar ddeg yn ôl ac mae gennym rai storïau i’w hadrodd, ond nid oes yr un ohonynt mor gyffrous â’r rhai nad ydym wedi’u hysgrifennu eto. Gallwn synhwyro newid, amser i gaboli’r hyn a wnawn, bod yn hyderus, camu allan o’r dyffryn gwyrdd a mynd am farchnadoedd newydd!”
Mae Govinda’s Foods Ltd, cwmni cynhyrchu bwyd yn Cross Hands sy’n cynhyrchu cynhyrchion dim glwten a llaeth, yn lansio brand pwdin newydd sbon o’r enw Natures Cane cyn yr ymweliad masnach ac maent yn gynhyrfus iawn yn ôl y perchennog Jodie Anderson-Thomas,
“Ein nod yw datblygu a chynhyrchu pwdinau o ansawdd uchel all gystadlu gyda’r gorau o gynhyrchion prif ffrwd heb gyfaddawdu ar ansawdd, a dyna pam rydyn ni wedi penderfynu lansio’r brand pwdin newydd a chyffrous hwn i hyrwyddo’r nod hwn. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld pa fath o groeso a gawn nhw yn Nenmarc a Norwy.”
Mae’r cwmni halen môr arobryn o’r Gogledd, Halen Môn, yn frand enwog yn fyd-eang ac mae’r Cyfarwyddydd Gwerthiant, Alison Lea-Wilson yn gwybod beth yw gwerth edrych ar farchnadoedd allforio newydd,
“Mae Halen Môn yn frand eiconig cyfarwydd ledled y byd, ond rydyn ni’n dal i gredu mewn ehangu i farchnadoedd newydd. Mae’r ymweliad masnach â Denmarc yn ddiweddarach y mis yma’n rhoi cyfle inni gyfarfod â darpar brynwyr a hyrwyddo atyniadau unigryw pwysig bwyd a diod o Gymru i gynulleidfa Nordig.”
Cwmni arall fydd ar yr ymweliad fydd Fruitapeel Juice Ltd o’r De, sydd wedi llwyddo i ymestyn oes silff eu sudd ffrwythau a smwddis, ac mae hynny’n golygu y gallant gynnig mwy fyth o ddewisiadau ar gyfer cynhyrchion erbyn hyn trwy’r broses prosesu pwysedd uchel (HPP) newydd y maent wedi’i gosod yn y ffatri gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Mae Denmarc a Norwy yn yr 20 marchnad allforio mwyaf i wledydd Prydain ar gyfer bwyd a diod, sy’n golygu ei fod yn gyfle gwych i gwmnïau bwyd a diod o Gymru.
Yn ystod yr ymweliad masnach, bydd cwmnïau yn cael cyfarfodydd un-i-un gyda darpar brynwyr a dosbarthwyr, yn cael y cyfle i arddangos eu cynnyrch i ddetholiad o brynwyr manwerthu a gwasanaethau bwyd, ynghyd ag ymweliadau tywys â siopau, esboniadau marchnad a digwyddiadau rhwydweithio.