Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant
Coronafeirws (COVID-19): cynnal darpariaeth addysgol (Saesneg yn unig)
Canllawiau i ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol ar gynnal darpariaeth addysgol
Mae'r diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru yn un o'r sectorau busnes mwyaf yng Nghymru. Mae dros 223,100 o bobl yn cael eu cyflogi o fewn y gadwyn cyflenwi bwyd a diod.
Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cafodd y Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020 ei lansio yn ystod yr haf 2014.
Mae'r Cynllun Gweithredu yn cydnabod yr anhawster o fewn y diwydiant i ddenu a chadw gweithlu dawnus. Felly, mae un o brif themâu y Cynllun Gweithredu yn gysylltiedig ag Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant ac mae'n canolbwyntio'n benodol ar -
- Datblygu gweithlu dawnus a medrus trwy ddatblygu partneriaethau allweddol o fewn y 'gadwyn cyflenwi sgiliau' drwy gysylltu â busnesau gweithgynhyrchu Addysg Uwchradd ac Uwch, busnesau gweithgynhyrchu a buddiannau rhanddeiliaid.
- Mynd i'r afael â'r bylchau sgilau ar draws y Gadwyn Cyflenwi Bwyd trwy ddyfeisio/adolygu rhaglenni hyfforddi a sgiliau.
- Creu ymwybyddiaeth a hyrwyddo gyrfaoedd yn y gadwyn cyflenwi bwyd.
- Rhoi'r dasg i'r Bwrdd Bwyd o godi proffil gyrfaoedd o fewn y diwydiant bwyd
Llais y diwydiant yng Nghymru
Er mwyn cyflawni hyn, mae nifer o fentrau bellach wedi'u sefydlu i'w gwneud yn haws i ddechrau busnes yn y diwydiant;
Gyrfaoedd Blasus
Cafodd y wefan Gyrfaoedd Blasus ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae'n darparu map llwybr addysgol a gyrfaol ar gyfer newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant.
Adduned Sgiliau Cymru
http://tastycareerswales.org.uk/
Y Porth Sgiliau
Mae'r Porth Sgiliau yn cynnig cymorth datblygu sgiliau ar gyfer Busnesau yng Nghymru sy'n cynnwys rhaglenni prentisiaeth a Twf Swyddi Cymru.
Sgiliau Cymru
Mae Sgiliau Cymru yn ddigwyddiad gyrfaoedd a sgiliau yng Nghymru, wedi'i leoli yng Nghaerdydd a Llandudno ac yn denu hyd at 10,000 o bobl y flwyddyn. Yn Sgiliau Cymru caiff pobl ifanc a myfyrwyr gymryd rhan mewn nodweddion rhyngweithiol, arddangosfeydd ymarferol a gweithgareddau heriol. Caiff ymwelwyr y cyfle i ddysgu am amrywiaeth enfawr o yrfaoedd, hyfforddiant a chyngor sydd ar gael yng Nghymru, cael cipolwg ar y math o yrfa y gallent ei gael yn y dyfodol a sut fath o brofiad fyddai hynny. Gyda gweithgareddau ymarferol a sesiynau profi sgiliau, mae Sgiliau Cymru yn anelu at ysbrydoli ac ysgogi ymwelwyr sy'n ystyried eu gyrfa yn y dyfodol. Mae digwyddiad Sgiliau Cymru yn croesawu miloedd o fyfyrwyr, a gall pob un ohonynt gyfarfod ag amrywiaeth gyffrous o arddangoswyr o brif sectorau'r diwydiant ledled Cymru. Mae'r arddangoswyr yn cynnig hyfforddiant a chyngor addysgol gyda detholiad o gemau a gweithgareddau rhyngweithiol a diddorol y seiliedig ar sgiliau.
https://foodskills.cymru/cy/hafan/
https://prospectsevents.co.uk/
Cyflwyniadau Cynhadledd Buddsoddi mewn Sgiliau : Buddsoddi mewn Twf
Buddsoddi mewn Sgiliau : Buddsoddi mewn Twf - cyflwyniad y bore 08/02/2018 (Saesneg yn unig)
Buddsoddi mewn Sgiliau : Buddsoddi mewn Twf - cyflwyniad y prynhawn 08/02/2018 (Saesneg yn unig)
Gwella sgiliau, cynhyrchiant a thwf gan Paul Byard (Saesneg yn unig)
Dewis gyrfa yn y maes Bwyd a Diod gan Justine Fosh (Saesneg yn uing)
Sefyllfa bresennol y sector Bwyd a Diod yng Nghymru gan Donald Webb (Seasneg yn unig)
Gôd Ymarfer Cyflenwi Bwydydd - Gwybodaeth hanfodol o ddelio â manwerthwyr (Saesneg yn unig)
Sgiliau Bwyd Cymru
Amlinelliad o'r Prosiect
Mae Sgiliau Bwyd Cymru yn cefnogi busnesau sy’n y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymreig er mwyn sicrhau bod y sgiliau a’r hyfforddiant cywir gan weithwyr fydd yn cryfhau’r diwydiant cyfan. Gan weithio ym mhob sector, bydd yn helpu paratoi gweithwyr ledled Cymru i addasu ar gyfer heriau’r dyfodol a heriau amgylcheddol a’u rhoi mewn lle da i fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu a thyfu eu busnes.
Bydd busnesau cymwys sydd eisiau cymorth gan y rhaglen yn gwneud cais drwy gwblhau Teclyn Diagnostig Sgiliau wyneb yn wyneb gydag aelod o dîm Sgiliau Bwyd Cymru. Bydd hyn yn helpu’r busnes i nodi unrhyw fylchau sgiliau a rhoi cynllun hyfforddi wedi ei deilwra ar waith. Yna gall busnesau ymgeisio am gyllid er mwyn helpu gyda’r gost o gwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi.
Rydyn ni’n gweithio ar y cyd gyda phrosiectau eraill sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru fel Prosiect Helix a Cywain i sicrhau bod busnesau’n cael y gefnogaeth gywir sydd wedi ei theilwra i’w hanghenion penodol nhw.
Rhaglen 3 blynedd yw hon a daw i ben ym mis Medi 2021.
Amlinelliad o'r Prosiect Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Lantra
Ffôn: 01982 552646
Mae Lantra wedi cael cyllid gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru i ddarparu Rhaglen Sgiliau Bwyd Cymru.
Lles Anifeiliaid adeg Lladd (Saesneg yn Unig)
Mae gwella sgiliau a mynd i'r afael â'r prinder sgiliau o fewn y diwydiant hefyd yn flaenoriaeth. Mae amrywiol fentrau wedi'u sefydlu sy'n cynnwys -
Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
Er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n cael eu hwynebu gan y diwydiant wrth ddatblygu a recriwtio gweithlu dawnus, mae'r Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod a Llywodraeth Cymru yn cynllunio dwy gynhadledd sgiliau ar gyfer Hydref 2017. Bydd y rhain yn cyfuno darparwyr o fewn y diwydiant a darparwyr sgiliau ar draws y sbectrwm. Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i bawb sy'n cymryd rhan ddeall yr hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd a nodi ble y mae angen rhagor o ddatblygu.
Y tu hwnt i'r gynhadledd sgiliau mae'r Bwrdd a Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth sgiliau bwyd a diod.
Mae'r Bwrdd wedi nodi "Pobl a Sgiliau" fel maes gwaith sy'n flaenoriaeth ac mae ganddynt lif gwaith arbennig ar gyfer hyn.
https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/food-and-drink-industry-board
Y Canolfannau Bwyd
Mae gan Arloesi Bwyd Cymru brofiad helaeth o ddadansoddi bylchau o fewn y sector ac mae'n darparu'r ystod mwyaf cynhwysfawr o gyrsiau technegol a chymwysterau addysgol yng Nghymru gyda phortffolio'n amrywio o gyrsiau hylendid bwyd sylfaenol i gyrsiau gradd a graddau uwch mewn gwyddor bwyd a Rheolaeth yn y Diwydiant Bwyd yn ogystal â Doethuriaethau. Yn y flwyddyn ddiwethaf mae dros fil o weithwyr yn y diwydiant bwyd wedi derbyn hyfforddiant gan staff yng nghanolfannau Arloesi Bwyd Cymru.
https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/canolfannau-arloesi
Partneriaethau Sgiliau'r Diwydiant
Mae tri o Bartneriaethau Sgiliau Diwydiant yr Is-Sector wedi'u sefydlu i sbarduno datblygiad sgiliau strategol i gefnogi cynhyrchiant a thwf. Mae'r Partneriaethau Sgiliau Diwydiant yn cynnwys y Sector Llaeth, Cynnal a Chadw Peirianyddol a Pobyddiaeth a Melysfwyd.
Bydd partneriaethau'r diwydiant yn rhoi lle amlwg i gwmnïau bwyd a diod wrth benderfynu ar y rhaglenni penodol, yr ymyraethau a'r darpariaethau sydd eu hangen i ddarparu'r sgiliau ar gyfer cynhyrchiant a thwf.
O dan arweiniad 'Arweinwyr Diwydiant yr Is-Sector' a fydd yn hysbysu y 'Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru' o'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi yr uchelgeisiau o ran twf yn y Cynllun Gweithredu.
Bydd yr is-sector yn uno i nodi'r sgiliau cyffredin sy'n cael eu rhannu fel y gellir bod yn glir o'r galw, ei casglu ynghyd a'u blaenoriaethu. Bydd hyn yn rhoi darlun clir inni o'r hyn y mae busnesau ac is-sectorau ei angen o ran cymorth sgiliau, gan gynnwys dulliau o gyflawni. Ble y bo angen, gellir datblygu rhaglenni newydd sy'n ychwanegu gwerth ac yn cefnogi twf.
Gellir cynllunio'r galw i'r gallu presennol o arwain sefydliadau hyfforddi bwyd amlwg ledled Prydain i sefydlu a chynnig darpariaeth addas. Bydd darlun hefyd yn ymddangos o ble a sut y dylid datblygu'r ddarpariaeth yng Nghymru i sicrhau bod y farchnad hyfforddi yn addas at y diben ac yn cael ei gyrru gan y diwydiant.
Partneriaethau Sgiliau'r Diwydiant
Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol wedi'u sefydlu i sbarduno'r buddsoddiad mewn sgiliau trwy ddatblygu atebion yn seiliedig ar anghenion lleol a rhanbarthol.
Y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yw:
- Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
- Partneriaeth Dysgu, Sgiliau ac Arloesi
- Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol y De-orllewin a'r Canolbarth
Mae gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol y dasg o ddadansoddi heriau economaidd a meysydd twf tebygol i nodi y sgiliau sydd eu hangen yn y gweithlu.
Maent yn cynhyrchu Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol i ddadansoddi a dylanwadu ar y ddarpariaeth sgiliau sy'n seiliedig ar anghenion economaidd rhanbarthol, i gefnogi twf a phrosiectau seilwaith allweddol ym mhob rhanbarth. Mae'r Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol yn adeiladu ac yn cefnogi'r blaenoriaethau cymorth a nodwyd gan Ardaloedd Menter, y Fargen Ddinesig a chydweithio ar draws ffiniau.
Mae'r cynlluniau yn darparu argymhellion i Lywodraeth Cymru i ddylanwadu ar flaenoriaethu a defnyddio cyllid sgiliau. Yn 2016-17 byddant yn cael effaith ar ddyraniadau Prentisiaethau ac Addysg Bellach. Bydd y cynlluniau'n cael eu hadnewyddu'n flynyddol o fis Gorffennaf 2016. Y bwriad yw y bydd y cynlluniau yn cyrraedd cynulleidfa llawer ehangach yn y blynyddoedd a ddaw, gan ehangu eu dylanwad ar draws Llywodraeth Cymru a'r seilwaith darparu sgiliau.
https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/regional-skills-partnerships/cy
Blas ar Gymru
Mae Blas ar Gymru yn bartneriaeth o gogyddion proffesiynol, cwmnïau arlwyo ac eraill sy'n gysylltiedig â'r proffesiynau bwyd a lletygarwch, sy'n meithrin perthynas gyda phob rhan o'r gadwyn fwyd gan gynnwys cynhyrchwyr craidd, gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr yn ogystal â sefydliadau addysgol, i ddatblygu a chodi proffil goginio Cymru, ei sefydliadau a'r rhai sy'n gweithio o fewn iddynt. Mae'r Gymdeithas yn datblygu cogyddion a chwmnïau arlwyo drwy hyfforddiant, cystadlaethau, arddangosfeydd ac ymweliadau ac mae'n hwyluso'r broses o rannu a chyfnewid sgiliau, syniadau, arbenigedd gogyddol a gwybodaeth.
http://www.welshculinaryassociation.com/
Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd
Mae'r cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd yn rhan o gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2015-2020, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun yn cynnig cymorth grant ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf gan fusnesau prosesu bwyd gan ddefnyddio cynnyrch amaethyddol craidd ac wedi'i brosesu.
Mae Addysg, Hyfforddiant a Sgiliau yn un o'r prif feini prawf sgorio ar gyfer y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd, pan y mae'n rhaid i ymgeiswyr ddangos sut y bydd y buddsoddi yn y dyfodol yn dangos eu hymrwymiad i weithlu wedi'i hyfforddi a Datblygiad proffesiynol Parhaus eu gweithwyr.
Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig
Mae'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig - BWYD (RBISF) yn gynllun buddsoddi cyfalaf i helpu prosiectau sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Mae'r cynllun gwerth £3.2 miliwn yn agored i gwmnïau prosesu a chynhyrchu bwyd a diod micro a bach, hen a newydd ledled Cymru.
Dyma gynllun buddsoddi cyfalaf mewn gweithgareddau prosesu a chynhyrchu bwyd a diod sydd ddim yn gymwys o dan y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd ar hyn o bryd.
Gall gynnig grant o hyd at 40% o gost cymwys prosiect buddsoddi, gyda hyd at £50,0000 ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol.
Rhaid i bob prosiect a gefnogir drwy'r Cynllun wneud cyfraniad at Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Fwyd - Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2010 - 2020 ac un neu ragor o'r amcanion thematig canlynol:
- hyrwyddo a datblygu sector bwyd a diod sy'n ffynnu ac yn datblygu yng Nghymru
- parhau i ddatblygu delwedd werdd ar sail dulliau cynhyrchu cynaliadwy
- cryfhau'r diwydiant ymhellach iddo allu gwrthsefyll newidiadau yn y farchnad
- sbarduno gwelliannau o ran gwneud bwyd yn ddiogel a diogelu'r cyflenwad bwyd
- hyrwyddo arloesi technegol o ran cynhyrchion a phrosesau
- cynnig cyfleoedd i ddatblygu gyrfa ar bob lefel.