Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers lansio Tuag at Dwf Cynaliadwy a heddiw bu Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar hynt y gwaith o gyflenwi blaenoriaethau ein cynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.
 
Wrth roi’r wybodaeth ddiweddaraf, soniodd am y gwaith sylweddol sydd ar droed i ailddiffinio hunaniaeth Bwyd a Diod Cymru. Bydd y gwaith hwnnw’n ymgorffori’r amrywiaeth y mae’r diwydiant bwyd yn ei gynnig, ac yn hyrwyddo ac yn dathlu’r Gymraeg. Rydym hefyd wedi lansio gwefan newydd Bwyd a Diod i Gymru, er mwyn gwella’r sgiliau cyfathrebu dwy-ffordd o fewn y diwydiant, ynghyd â’r Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd i Gymru. O ganlyniad, bydd  yr Is-adran Fwyd, Croeso Cymru a phartneriaid allanol yn cydweithio’n llawer agosach a hynny er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a busnesau twristiaeth.
 
Dywedodd y Gweinidog, “Gweithredu yw hanfod y cynllun ac mae’n parhau felly. Caiff ei weithredu mewn partneriaeth rhwng y llywodraeth a’r diwydiant. Mae’r Llywodraeth o blaid busnes, mae’n cydweithio’n agos â chwmnïau i greu swyddi a thwf ym mhob rhan o Gymru. Gwnaeth y Llywodraeth osod prif targed heriol i sicrhau 30% o dwf mewn gwerthiant erbyn 2020. Rydym ar ein ffordd i gyrraedd y targed hwn.”
 
Yn ôl ystadegau diweddaraf y sector blaenoriaethol ar gyfer ffermio a bwyd, gwelwyd trosiant gwerth £5.8 biliwn. Golyga hynny ein bod eisoes wedi sicrhau twf o 11.5% ers 2012-13. 
 
Er mwyn cefnogi twf busnes, cyhoeddodd Rebecca Evans heddiw fod rhaglen yn cael ei llunio ar gyfer clwstwr o Ficro-fusnesau i sicrhau bod y Llywodraeth yn rhoi cymorth i’r busnesau lleiaf. Bydd hynny’n fodd i’r Llywodraeth sicrhau llif cynaliadwy o fusnesau newydd. Yn ogystal, bydd rhaglen Effaith Clystyrau Busnes newydd yn cael ei llunio a bwriad y rhaglen honno fydd targedu busnesau sydd eisiau tyfu ar raddfa o 50% y flwyddyn. Bydd arweinwyr busnes yn rhan ganolog o’r rhaglenni hyn a byddant yn helpu i’w mireinio a’u harwain.   
 
Daw hyn wedi’r cyhoeddiad a wnaed yn ddiweddar am y cynllun i fuddsoddi dros £2.5 miliwn yn ystod y ddwy flynedd nesaf i sicrhau bod cynrychiolaeth gref o Gymru yn parhau i fynychu cyfres o ddigwyddiadau masnach allweddol y DU ac yn rhyngwladol. Bydd y cymorth hwn yn parhau er mwyn sicrhau bod ein cwmnïau yn gwella eu proffil, yn adeiladu ar y rhan sydd ganddynt yn y farchnad a gwneud y mwyaf o’u gwerthiant mewn marchnadoedd sy’n bodoli eisoes a marchnadoedd newydd. 
 
Yn 2014/15, bu cwmnïau o Gymru yn cymryd rhan mewn digwyddiadau masnach yn y DU ac yn rhyngwladol. O ganlyniad, llwyddodd y cwmnïau hynny i sicrhau bron £6 miliwn o fusnes ychwanegol ac fe nodwyd gwerth dros £16 miliwn o gyfleoedd eraill.
 
Yn ogystal, achubodd y Gweinidog ar y cyfle i gyhoeddi enwau aelodau newydd Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod. Mae hynny’n un o’r blaenoriaethau allweddol. 
 
“Daeth nifer fawr o geisiadau i law ac wedi inni gynnal proses asesu drwyadl, mae’n bleser gen i gyhoeddi heddiw fod gan y Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod aelodaeth lawn. Y Bwrdd yw llais y diwydiant, mae’n llais ar gyfer busnesau o bob maint ac yn llais ar gyfer y gadwyn gyflenwi. Mae’n hanfodol bod y Llywodraeth a’r diwydiant yn rhannu’r cyfrifoldeb a hyd y gwelaf i, mae gan y Bwrdd ran fawr i’w chwarae yn y gwaith hwnnw.”
 
Aelodau Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:
 
•       Norma Barry, InsideOut Organisational Solutions,
•       Annitta Engel, D.B.G.E Limited, 
•       Catherine Fookes, Organic Trade Board, 
•       Justine Sarah Fosh, Improve, 
•       Buster Grant, Brecon Brewing, 
•       Alison Lea-Wilson, Halen Môn,
•       David Lloyd, ZERO2FIVE Food Industry Centre, 
•       Katie Palmer, Sustainable Food Cardiff, 
•       Llior Radford, Llaeth y Llan, 
•       Andy Richardson, Volac, 
•       Justin Scale, Capstone Organic,
•       Marcus Sherreard, Dawn Meats, 
•       Huw Thomas, Puffin Produce 
•       James Wilson, Welsh Fishermen’s Association. 
 
Diolchodd i Robin Jones, o Village Bakery, sef y Cadeirydd dros dro. Mae ef bellach yn rhoi’r gorau i’r swydd. Dywedodd ei fod wedi rhoi “llais dynamig” a bydd o gymorth i sicrhau  “chwa newydd o gyfleoedd, twf a llwyddiant.”  

Share this page

Print this page