Ham Caerfyrddin (PGI)
Mae cynhyrchu Ham Caerfyrddin, sy'n cael ei sychu ag aer a'i drin gyda halen, yn dibynnu ar allu a phrofiad, a dechreuodd y cwbl gydag Albert Rees, cigydd marchnad yn y 1970au ac ers hynny mae wedi'i drosglwyddo drwy genedlaethau'r teulu Rees. Mae traddodiad ac arbenigedd wrth wraidd Ham Caerfyrddin ac mae hyn yn rhoi iddo ei flas arbennig, sy'n ysgafn ac aeddfed gydag awgrym o halen, gan ddarparu ymdeimlad cytbwys rhwng tynerwch a thuedd i doddi yn y geg.
Caiff yr ham, sy'n pwyso 4 neu 5 cilogram, ei hongian mewn tymheredd amgylchol o rhwng 16 a 25 Celsius am gyfnod o 6 i 9 mis i aeddfedu a chyflawni ei flas mwy a gwead meddal, sidanaidd, unigryw sy'n ymddatod wrth iddo gael ei dynnu o'i gilydd. Gellir gwerthu Ham Caerfyrddin yn gyfan, ar yr asgwrn, neu wedi'i sleisio a'i bacio. Wedi'i sleisio, mae lliw pinc i goch tywyll unffurf, cyfoethog, dwfn i'r ham gyda braster lliw hufen yn frith drwyddo.
Mae Ham Caerfyrddin wedi adeiladu ar ei wreiddiau Cymreig traddodiadol, lle caiff ei werthu ym marchnad enwog Caerfyrddin yng ngorllewin Cymru, a nawr caiff ei gydnabod a'i ganmol yn fyd-eang. Mae wedi'i weini mewn Garddwestau Brenhinol ac yn nifer o westai a bwytai enwog, gan gynnwys Celtic Manor yn ystod y Cwpan Ryder mawreddog yn 2010.
Er mwyn dathlu a gwarchod y cynnyrch hwn a'r gallu traddodiadol Cymreig, dyfarnwyd statws PGI i Ham Caerfyrddin yn 2016.
Prif gyswllt: Matthew@carmarthendeli.co.uk