PGI Leeks

Cennin Cymreig PGI

Mae gan Cennin Cymreig PGI enw da am fod yn gynnyrch sy'n ymgorffori ymdeimlad cryf o le a tharddiad, a dyma oedd y trydydd cynnyrch o Gymru i gael Statws Dynodiad Daearyddol y DU, yn dilyn cyflwyno'r cynllun newydd yn 2021.

Mae'r genhinen Gymreig a diwylliant y wlad wedi’u rhyngblethu ers canrifoedd ac mae'n parhau i chwarae rhan allweddol yn null coginio’r genedl, gan ddarparu ychwanegiad amlbwrpas, blasus ond eto ysgafn i sawl pryd. Y broses aeddfedu arafach sy’n gyfrifol am hyn, gan fod hinsawdd mwynach a chymedrol Cymru yn golygu y gellir gadael y cennin yn y ddaear heb fod hynny’n effeithio ar eu hansawdd. Mae hyn yn rhoi mwy o amser i'r blas "pupur" a'r “arogl daearol, menynaidd melys" ddatblygu'n llawn.

Eu nodwedd allweddol yw eu lliw gwyrdd tywyll sy'n amlwg dros 40% o hyd cyffredinol y genhinen. Mae'r coesyn sy'n weddill yn wyrdd fflworoleuol golau sy'n troi’n wyn tua 10-20mm o’r gwreiddyn.

Mae Cennin Cymreig fel arfer yn cael eu plannu o ddiwedd mis Chwefror tan fis Mai ac yn cael eu cynaeafu rhwng mis Awst a mis Ebrill/Mai, gyda'r mathau hybrid yn cael eu defnyddio i gynhyrchu’r math hwn o gennin sydd fwyaf addas i’w tyfu dan yr amodau yng Nghymru.

Cânt eu tyfu hefyd fel rhan o’r broses o gylchdroi glaswelltir gyda rhwng 30% a 90% o’r cylchdro dan laswelltir a ddefnyddir ar gyfer pori stoc. Mae angen pridd cyfoethog maethlon ar gennin ac mae pori stoc yn darparu'r ffrwythlondeb naturiol a'r mater organig i'r pridd i helpu’r cennin i dyfu, sy’n golygu llai o ddibyniaeth ar wrteithiau artiffisial.

Mae’r cennin hyn yn rhan o hunaniaeth genedlaethol Cymru ac mae diogelu eu statws wedi ychwanegu baner arall yn hanes hirsefydlog y llysieuyn a'r arwyddlun cenedlaethol.

 Prif gyswllt: huw@puffinproduce.com