Gethin Owen

Lleoliad: Betws-yn Rhos, Abergele

Cyrchfan: Ffrainc

Pwnc: Adnabod effeithlonrwydd mewn systemau cynhyrchu bîff a defaid yn Ffrainc / Astudiaeth o’r dulliau a ddefnyddir i leihau effaith diraddiad pridd a gwella cynhyrchiant dan amodau ymylol

Gethin Owen

Gethin Owen, Betws-yn-Rhos, Abergele

Sector: Bîff a Defaid

Manylion y gyfnewidfa:

Cyfnewidfa i Ffrainc, y wlad gyda’r sector amaethyddol mwyaf ei faint a mwyaf amrywiol yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ganddo rai o’r sefydliadau ymchwilio amaethyddol gorau yn yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd â thraddodiad o hybu arloesi a mynediad i’r diwydiant i bobl ifanc.

Pam wnaethoch chi ymgeisio am y Gyfnewidfa Rheolaeth?

Rwy’n chwilio am gyfle i ddysgu mwy am amaethyddiaeth yn Ffrainc a dod i ddeall mwy am yr hyn sy’n ganolog i’r system, dysgu beth sy’n gwneud busnes llwyddiannus yno a gweld syniadau newydd y gallaf eu gweithredu adref.

Beth ydych chi yn gobeithio ei ennill o gymryd rhan yn y Gyfnewidfa Rheolaeth?

Ymweld â ffermwr blaengar sy’n awyddus i rannu gwybodaeth ac sydd â chysylltiadau da yn y rhwydwaith amaethyddol yng Nghanolbarth Ffrainc.

O bosib weithredu’r system ‘Charpentier’ ar ffermydd cymysg yng Nghymru sydd â chnwd gorchudd parhaol yn y cylchdro, y gellir ei defnyddio i besgi gwartheg a defaid. Rwy’n tyfu ŷd a meillion cochion yn rhan o gylchdro’r fferm, ond mae’r dull confensiynol o drin y tir yn dod â chostau uchel a pherygl o ddirywiad yn y pridd.

Hoffwn ddysgu sut i wneud cynhyrchu cig coch yng Nghymru’n fwy effeithiol drwy eneteg, rheoli glaswelltir a systemau cynhyrchu.

Mae meddylfryd cydweithredol cryf yn Ffrainc, felly bydd hwn yn gyfle i weld sut mae gwahanol fodelau o gydweithio’n gweithio, megis marchnata a rhannu peiriannau, ac i ganfod yr hyn y gallwn ei ddysgu gan y Ffrancwyr i gydweithio’n well yng Nghymru

I ddysgu am weithgareddau strategol sy’n hybu arloesedd mewn amaethyddiaeth yn Ffrainc.

Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth