Rhys Davies

Lleoliad: Sir y Fflint

Cyrchfan: Iwerddon

Pwnc: Effaith y Fynegai Bridio Economaidd (EBI) ar y fuches sy’n lloia yn y gwanwyn ac a gedwir ar borfa yn Iwerddon

Rhys Davies

Bydd Rhys Davies o Sir y Fflint yn ymweld ag Iwerddon

Mae Rhys yn chwarae rhan weithredol ym menter laeth y teulu yn Nhreffynnon, Sir y Fflint. Mae ganddynt 100 o fuchod godro a thua 80 o stoc ifanc ac maent yn lloea yn y gwanwyn yn bennaf gyda’r nod o gael cymaint o laeth ag sy’n bosibl o laswellt trwy ei bori. Mae wedi bod yn casglu data bridio a pherfformiad ar gyfer y fuches am flynyddoedd. Pwyslais ei ymweliad fydd cynhyrchu llaeth yn effeithlon o systemau ar laswellt gan ganolbwyntio ar fuchod mynegai bridio uchel. Bydd yr ymweliad o fudd i wella’r fuches trwy adael i Rhys weld mantais defnyddio offer dethol a bridio cadarn sy’n caniatáu i’r defnydd o laswellt fod ar ei orau gan fath effeithlon o fuwch odro.

“Ar hyn o bryd mae ein polisi bridio ychydig yn niwlog gan ein bod yn defnyddio’r ystod lawn o fynegeion sydd ar gael ynghyd â’r Mynegai Oes Broffidiol (£PLI) a dim ond yn yr olaf y mae unrhyw brofion genomig ar y buchod ar gael, sy’n golygu bod llawer o waith dyfalu pan ddaw i lunio cynllun paru.

“Felly, o ganlyniad i’m hymweliad ag Iwerddon, rwy’n bwriadu dylunio a defnyddio offeryn bridio i gasglu a dehongli data ar y fuwch wedi lloea yn y gwanwyn gan ddefnyddio gwybodaeth linellol, cynhyrchu a ffrwythlondeb - gan ddefnyddio data genomig pan fydd yn bosibl - i gynllunio ar gyfer bridio i gywiro ac i gyd-fynd.

“Canlyniad hyn fyddai cynnydd posibl yn y solidau llaeth a gynhyrchir i bob hectar a gostyngiad yn y porthiant a brynir i mewn a chostau milfeddyg oherwydd bod pori yn ddull mwy effeithlon o drosi porthiant ac mae llai o broblemau iechyd yn gysylltiedig ag o a gwell ffrwythlondeb.”

Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth