Neil Davies

Lleoliad: Llanfair-Ym-Muallt

Cyrchfan: Iwerddon

Pwnc: Pesgi gwartheg ar system cost-isel

Neil Davies

CRYNODEB GWEITHREDOL

Gosod lloriau estyllog yn gwneud cynhyrchu cig eidion yn gynaliadwy ar ffermydd Cymru

Mae ffermwr da byw wedi cynyddu proffidioldeb yn ei system gig eidion ers trosi sied gwely gwellt yn system llawr estyllog.

Gwnaeth Neil Davies y newid ar ôl astudiaeth Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio yn Iwerddon.

Dechreuodd ar y rhaglen astudio oherwydd ei fod eisiau llywio ei benderfyniad ar ddod o hyd i ddull mwy cost-effeithiol ar gyfer cadw ei wartheg yn y gaeaf ac eithrio gwellt.

Mae’n ffermio gwartheg a defaid ar fferm ei deulu yng Nghefnllan, Llangamarch.

Mae’r fferm mewn ardal o law trwm sy’n golygu gaeafu ei 150 o wartheg croes Aberdeen Angus dan do. Gyda system wellt, mae hynny’n gostus, meddai.

Aeth astudiaeth Mr Davies ag ef i Iwerddon.

“Fe ymwelais ag wyth o wahanol siediau gwartheg llawr estyllog, ac roedd pob sied ychydig yn wahanol gyda phwyntiau da a drwg,” meddai.

“Ond daeth un peth yn glir iawn: dyma oedd ei angen arnaf ar fy fferm fy hun.”

Ymwelodd â fferm Gerard Dineen, a’i ysbrydolodd tra’n gwrando arno yn cyflwyno mewn cynhadledd Cyswllt Ffermio.

“Roeddwn yn awyddus iawn i ymweld â’i fferm yn ystod fy amser yn Iwerddon, gyda Gerard yn ennill gwobr Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn yn 2018; wrth ymweld ag ef, roedd yn amlwg pam.

“Dysgais lawer am gofnodi data, sylw i fanylion, a sut mae’n gwneud bywoliaeth o’i fuches sugno ar ei fferm 100 erw.”

Yn ogystal â mynd i ffermydd, ymwelodd â chynhyrchwyr estyll concrit a matiau rwber a’r ffatri lle mae peiriannau Keenan yn cael eu cynhyrchu.

Aeth ei ymchwil ag ef i Ganolfan Ymchwil Teagasc hefyd. “Roedd ganddynt drefniant gwartheg ardderchog gyda rhai o’r siediau gorau i mi eu gweld ar fy ymweliad ag Iwerddon, ynghyd â system trin aer uwch-dechnoleg,” dywed Mr Davies.

Ers dychwelyd o Iwerddon, mae wedi rhoi ei ymchwil ar waith, gan osod llawr estyllog yn yr hyn a oedd gynt yn sied â gwely gwellt.

Mae’n defnyddio hwn ar gyfer lletya yn y gaeaf ac ar gyfer pesgi gwartheg yn yr haf, heb unrhyw gost gwelya.

“Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i elw fy musnes gwartheg, gan na fyddwn wedi gallu parhau i ffermio gwartheg cig eidion ar y fferm hon gan ddefnyddio gwelyau gwellt,” mae’n cyfaddef.

“Rwyf hefyd wedi prynu porthwr Keenan!”

 

ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH: