Ben James

Lleoliad: Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion

Cyrchfan: Lloegr

Pwnc: Hunangynhaliaeth i ffermwyr cenhedlaeth gyntaf

Ben James

Mae Ben, sy’n ffermwr cenhedlaeth gyntaf, yn rhentu daliad 112 erw ger Llanbedr Pont Steffan, lle mae’n cadw 120 o famogiaid Easycare ar system bori cylchdro yn unig. Yn gyn-bostmon, cafodd brofiad ymarferol o ffermio trwy weithio ar fferm laeth; sicrhau contractau ŵyna ar ffermydd lleol a magu 200 o ŵyn llywaeth a werthodd am elw. Yn ffensiwr wrth ei grefft ar hyn o bryd, mae hefyd yn weithiwr contract ar ffermydd llaeth. Nod Ben yn y pen draw yw ennill ei unig incwm o’i fusnes fferm ei hun.  

“Bydd fy ymweliad fel rhan o’r Gyfnewidfa yn fy ngalluogi i gwrdd â rhai o’r ffermwyr cenhedlaeth gyntaf sy’n perfformio orau yn y DU, a dysgu sut a phryd y gwnaethant gyflawni’r ‘nodwedd wahanol allweddol’ honno a’u hysgogodd i fod yn hunangynhaliol.”

 

CRYNODEB GWEITHREDOL

Ffermwr cenhedlaeth gyntaf yn annog y diwydiant i fod yn gefnogol i newydd-ddyfodiaid

Mae ffermwr cenhedlaeth gyntaf yn annog y diwydiant ffermio i roi cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid sydd am symud ymlaen mewn amaethyddiaeth.

Mae Ben James ffermwr defaid a ddechreuodd ei daith i ffermio pedair blynedd yn ôl, yn credu nad oes unrhyw reswm pam na all ffermwyr cenhedlaeth gyntaf lwyddo mewn amaethyddiaeth - ond gyda set o feini prawf y mae’n rhaid iddynt hwy a’r diwydiant eu cofleidio.

Yn ddiweddar, cychwynnodd Ben ar astudiaeth Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, gan ymweld â phum ffermwr cenhedlaeth gyntaf yng Nghymru a Lloegr.

Roedd am ddysgu’r ‘pwynt o wahaniaeth’ a oedd yn caniatáu iddynt ffermio heb ddibynnu ar ail incwm.

“Yr hyn a ddysgais fwyaf o’r astudiaeth hon yw bod gan bob ffermwr yr ymwelais ag ef i gyd feddylfryd tebyg,” meddai ben, sy’n ffermio ar Fferm Blaenplwyf ger Llanbedr Pont Steffan, gyda’i wraig, Sam.

“Roedden ni i gyd yn rhannu’r un brwdfrydedd ac uchelgais i fod eisiau llwyddo a chyrraedd ein nodau.”

Mae’n awgrymu bod yna lawer o rwystrau rhag dod i mewn i’r diwydiant ffermio yng ngorllewin Cymru – mae tir am rent rhesymol “bron ddim yn bodoli’, meddai.

Mae Ben yn annog y diwydiant i wneud mwy i gefnogi newydd-ddyfodiaid.

“Byddwch yn groesawgar i ffermwyr cenhedlaeth gyntaf, y cyfan rydyn ni eisiau yw dysgu, a bod yn agored i roi cyfleoedd i bobl sydd eisiau symud ymlaen ac sydd â’r awydd i lwyddo.”

Mae cydweithredu rhwng ffermwyr presennol a’r genhedlaeth nesaf yn hollbwysig hefyd, ychwanega.

“Efallai bod gennym yr atebion i’ch problemau ac i’r gwrthwyneb. Gwaith tîm sy’n gwneud i’r freuddwyd weithio.”

Fe wnaeth canfyddiadau astudiaeth Ben hefyd helpu i lywio ei restr wirio ei hun ar gyfer newydd-ddyfodiaid hefyd, gan gynnwys gwerth rhwydweithio.

“Rhwydwaith yw eich gwerth net, ewch allan a siarad â chynifer o bobl ag y gallwch, a chwrdd â nhw, dangoswch eich wyneb,” mae’n cynghori.

Mae Ben hefyd yn argymell bod angen hyblygrwydd gan ei fod yn caniatáu mwy o opsiynau.

“Yn seiliedig ar bwy rydw i wedi cyfarfod trwy gydol yr astudiaeth hon, rwy’n credu nad oes unrhyw reswm pam na allaf i a ffermwyr cenhedlaeth gyntaf eraill gyrraedd y brig a chyflawni popeth rydyn ni ei eisiau yn y diwydiant ac mewn bywyd.”

 

ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH