Marc Harries

Lleoliad: Llandysul, Ceredigion

Cyrchfan: Iwerddon

Pwnc: Systemau Amaeth-foltaig

Marc Harries

Yn 2003, cymerodd y cyn-beiriannydd systemau TG fferm 180 erw yng Ngheredigion drosodd, a oedd wedi bod yn nheulu ei wraig ers dwy genhedlaeth. Erbyn 2011, roedd wedi rhoi’r gorau i’w swydd bob dydd, ac roedd yn ffermwr yn llawn amser. Ei brif ffocws ar y cychwyn oedd gwella’r tir ac ehangu’r ddiadell. Heddiw, mae ymhell ar y ffordd i greu busnes cwbl gynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Megis dechrau yw caffael dau eiddo arall gyda thir, system solar PV newydd, boeler biomas a busnes llety gwyliau sy’n ehangu!

“Rwyf eisiau dysgu sut y gellir storio trydan sydd dros ben gan ddefnyddio pŵer batri; i ddeall mwy am amaeth-foltaig ac i ymchwilio a allai system cynhyrchu ynni a gaiff ei harwain gan y gymuned weithio yng ngorllewin Cymru.” 

 

CRYNODEB GWEITHREDOL

Gall paneli fertigol helpu ffermydd Cymru i harneisio ynni o’r haul heb golli tir

Gallai paneli solar fertigol ddarparu atebion i ffermwyr Cymru sydd am gynhyrchu ynni o ynni adnewyddadwy heb aberthu erwau cynhyrchiol.

Ymwelodd ffermwr defaid o Landysul Marc Harries ag Iwerddon a’r Almaen gyda phrosiect Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i astudio sut y gallai paneli ffotofoltäig deuwyneb ei helpu i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy heb y golled o dir defnyddiadwy i osodiad wedi’i osod ar y ddaear.

Mae’r system yn gweithio trwy ddefnyddio golau yn disgleirio ar ddwy ochr y panel i gynhyrchu trydan.

“Maen nhw’n wynebu’r dwyrain a’r gorllewin, sy’n arwain at frig cynhyrchiant ynni solar yn y bore a gyda’r hwyr – maen nhw’n ddelfrydol i ffermwyr llaeth,” sylwodd Marc.

Mae cynhyrchiant ynni’n gyfatebol i system do yn wynebu’r de ar ongl oleddf o 30-40⁰ a hyd at 15% yn fwy na systemau ar doeau gydag ongl oledd 10-20⁰.

Gan eu bod yn fertigol, maent yn defnyddio bron dim gofod daear, gall da byw bori ochr yn ochr â’r paneli a hyd yn oed oddi tanynt,” meddai Marc.

Ar y ffermydd yr ymwelodd â nhw, nododd fod gwartheg yn hapus i bori ymysg y paneli, oedd wedi eu hamddiffyn gan ffens drydan. 

Yr ad-daliad amcangyfrifedig ar y systemau hynny oedd pedair i bum mlynedd gan dybio 80-90% o hunan-ddefnydd gyda thariff ynni o 25 sent fesul KWh a thariff bwydo i mewn (FIT feed in tariff) o 14 sent y KWh.

“Gyda chostau cynyddol ynni, gall yr amser ad-dalu fod yn sylweddol llai,” nododd Marc.

Fodd bynnag, gall problemau gyda mynediad i’r grid trydan a chapasiti brofi i fod yn faterion mawr a gwneud rhai gosodiadau yn rhy ddrud, ychwanegodd.

Mae Marc, sy’n ffermio 300 erw, yn y broses o gymharu dyfynbrisiau ac amseroedd ad-dalu i sawl system wahanol ar gyfer eu defnyddio ym mhrosiect arallgyfeirio ei fferm.

Mae ei astudiaeth hefyd wedi ailadrodd sut, i gael y mwyaf o unrhyw osodiad PV, mae uchafu hunan-ddefnydd yn rheidrwydd

Ers hynny mae Marc wedi archebu system storio batri i’w system PV wedi’i osod ar y to, sydd wedi’i drefnu i’w osod ym mis Hydref.

Ysgrifennodd hefyd at Julie James AC, y gweinidog ar newid hinsawdd, yn gofyn iddi beth fydd y dyfodol i gynhyrchu ynni yn y sector amaethyddol.

“Mewn ymateb dywedwyd wrthyf nad oes unrhyw gynlluniau presennol i ailgyflwyno system Bwydo i Mewn (FIT)  a dylai’r cynllun Gwarant Allforio Clyfar presennol ddarparu enillion digonol ac achos busnes da ar gyfer buddsoddiad ffotofoltäig o ystyried y prisiau ynni manwerthu uchel presennol,” meddai Marc.

Gyda’r argyfwng ynni presennol, mae’n hyderus y bydd yna “gyfleoedd enfawr” i ddatblygu ynni adnewyddadwy ar raddfa fach ar fferm yn y dyfodol.

 

ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH