Tom Jones

Lleoliad: Y Trallwng, Powys

Cyrchfan: Yr Alban

Pwnc: Ffactorau sy’n Effeithio ar Broffidioldeb Buchod Sugno a Sut Gellir Eu Gwell

Tom Jones

Mae Tom yn ysgolhaig Hybu Cig Cymru, yn rhan o sefydliad Ffermwyr y Dyfodol Tesco, yn aelod o fwrdd Cenhedlaeth Nesaf yr NFU ac yn gyn-ffermwr ffocws y Farmers Weekly, sydd am greu dyfodol cynaliadwy i’w deulu ifanc. Yn fab i fferm bîff a gwartheg sugno ucheldirol, mae Tom am ganolbwyntio’n bennaf ar ei ymweliad fel rhan o’r Gyfnewidfa ar gynhyrchu cig coch yn effeithlon, gan ddefnyddio system borthiant cost isel sy’n gwella’r pridd, yn cynnal ansawdd dŵr ac yn gwella’r amgylchedd. Mae am wella proffidioldeb y fenter gwartheg sugno trwy gael gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar hyn, gan gynnwys geneteg, systemau cofnodi/dewis a dethol a rheoli pori.

“Ein nodau yw gwella effeithlonrwydd mamol y fuches sugno er mwyn gwella perfformiad a phroffidioldeb, ac yn y tymor hir, symud yn ôl at wartheg brid brodorol.”

 

Crynodeb Gweithredol

Ffermwr bîff sugno yng Nghymru yn dweud bod gwartheg â mewnbwn isel yn allweddol i ddyfodol y diwydiant

Mae ffermwr da byw yn credu bod dyfodol diwydiant bîff sugno Cymru yn gorwedd gyda gwartheg â mewnbwn isel sy'n gallu byw oddi ar borthiant cartref a chyflawni nodau amgylcheddol.

“Mae dyddiau gwartheg â mewnbwn uchel wedi diflannu, mae eithafion wedi diflannu,” meddai Tom Jones, ffermwr trydedd genhedlaeth, sy'n rhedeg buches o 50 o wartheg ar fferm y teulu, Fferm Pentre, ger Llyn Efyrnwy.

“Sut allwn ni honni ein bod yn darparu buddion amgylcheddol os ydyn ni'n ddibynnol ar fewnbynnau?”

Dyfarnwyd lle i Tom ar raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i edrych pa welliannau y gellir eu gwneud i broffidioldeb gwartheg sugno.

Roedd buches sugno ei deulu yn cynnwys gwartheg Cyfandirol ond maen nhw wedi prynu bridiau brodorol, heffrod Aberdeen Angus yn bennaf, i mewn fel anifeiliaid cyfnewid dros y tair blynedd diwethaf.

Defnyddir teirw stoc Charolais ac Aberdeen Angus.

Dylai stoc gre, meddai Tom, gael ei fagu mewn amgylchedd sy’n cyfateb a’r hyn y disgwylir i'w hiliogaeth oroesi ynddo'n fasnachol, os nad yn llymach.

Mae pob epil yn cael ei werthu fel epiloedd stôr yn 18 mis.

“Y prif ffocws yw cynhyrchu cig coch yn effeithlon ar system cost isel yn seiliedig ar borthiant sy'n gwella ein pridd, yn cynnal ansawdd dŵr ac yn gwella ein hamgylchedd,” meddai Tom.

Aeth ei ymchwil Cyfnewidfa Rheolaeth ag ef i ffermydd bîff yn yr Alban gyda systemau sy'n canolbwyntio ar wartheg sy'n ffynnu o borthiant.

Nododd Tom mai un o'r nodweddion a wnaeth y busnesau hynny'n llwyddiannus oedd cael y pethau sylfaenol yn iawn. “System syml yn aml yw'r mwyaf proffidiol,” meddai.

Ei nod oedd rhedeg buches gaeedig ond, o ganlyniad i'w astudiaeth, mae'n credu, ar gyfer cyflymder gwelliant genetig, fod angen iddo fanteisio ar y gwaith caled a wneir gan eraill drwy gyrchu gwartheg cyfnewid o fuches statws iechyd uchel gyda nodau tebyg. 

“Mae'r eneteg iawn allan yna,” meddai.

Ar gyfer y fuches bresennol, dywed fod angen iddo gynyddu'r pwysau ar eu perfformiad i sicrhau yn gyntaf eu bod yn ennill eu tamaid ac yn ail i ganiatáu newid cyflymach i eneteg newydd.

“Rhaid i ni hefyd fod yn llym gyda'r math o wartheg rydyn ni hefyd yn eu bridio neu'n eu prynu,” meddai.

Mae rhoi sylw i fanylion ar strwythur, traed a lleoliad y deth yn hanfodol, ychwanega.

“Mae taro cydbwysedd rhwng gwartheg benywaidd sy'n lloia’n hawdd ac sydd â mewnbwn isel yn erbyn cynhyrchu bustych gwrywaidd gyda chyfansoddiad corff da a pherfformiad uchel y mae'r farchnad yn talu premiwm amdanynt yn llinell fain y mae'n rhaid i ni sicrhau nad ydym yn crwydro'n rhy bell ohoni.”

 

ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH