Bydd Eurig Evans o Abergwaun yn ymweld â'r Eidal
Ar hyn o bryd mae Eurig Evans o Abergwaun yn magu heffrod llaeth ar gontract ac yn godro ar fferm gyfagos. Roedd menter arallgyfeirio ar y fferm yn 2010 yn cynnwys ailgylchu gwastraff llechi i gynhyrchu cynnyrch llechi addurnol. Mae ei fenter ddiweddaraf wedi datblygu o swydd ran-amser arall yn cefnogi datblygiad unigolion sydd ag awtistiaeth ag anawsterau dysgu trwy ddefnyddio amrywiaeth eang o weithgareddau yn ymgorffori gweithgareddau yn ymwneud â natur.
Cefnogwyd menter Eurig trwy ei aelodaeth o grŵp Agrisgôp yn gynharach eleni, ac mae yn y broses o gofrestru fel Fferm Ofal. Gobaith Eurig yw y bydd Fferm Ofal Gwaun yn weithredol yn llawn yr haf hwn.
Ar hyn o bryd mae ganddo gontract i groesawu un person ifanc ar y fferm un diwrnod yr wythnos. Bydd yn ymweld â fferm ofal San Patrignano yn yr Eidal, sy’n arweinwyr yn y sector ac yn cynnig dulliau adfer arbenigol wedi eu teilwrio i weddu i anghenion unigol, gan alluogi’r preswylwyr i adsefydlu a rhoi’r cyfle iddynt gael eu hyder mewn cymdeithas yn ôl.
“Rwyf yn bwriadu tyfu’r Fferm Ofal a’i gweithgareddau, gan gynnig mwy o amrywiaeth o gyfleoedd dysgu i unigolion ac rwyf eisoes wedi buddsoddi mewn defaid godro.
“Rwyf hefyd yn bwriadu datblygu gweithgareddau coetir a gweithdai trin pren gwyrdd, gan ymgorffori’r rhain mewn gweithgareddau natur eraill i gynnig amgylchedd dysgu holistaidd,” meddai Eurig.
Mae galw sylweddol am ffermydd gofal yng Nghymru yn ôl llawer o fyrddau iechyd lleol a chynghorau sir. Cred Eurig y gallai hyn gynnig cyfle i rai busnesau fferm ymateb a diwallu’r anghenion hynny.
Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth