Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Cymdeithas Glaswelltir Aberteifi a’r Cylch

Ariannwyd drwy’r rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesedd a Gwasanaeth Cynghori o dan y Rhaglen Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020

Cymdeithas Glaswelltir Aberteifi a’r Cylch 

Caeredin 

22 - 24 Mehefin 2022


1    Cefndir

Aethom i’r Alban gan fod sawl aelod wedi clywed bod Sioe Frenhinol yr Ucheldir / Royal Highland Show yn canolbwyntio llawer ar amaethyddiaeth, ac yn lle da i ddysgu am ddatblygiadau a chyfleoedd newydd yn y diwydiant.

Yn ogystal â hyn, roedd aelod o’n cymdeithas wedi ymweld â’r Alban rai blynyddoedd yn ôl ac roedd graddfa ac effeithlonrwydd yr arferion ffermio wedi gwneud cryn argraff arno. Roeddwn i a gweddill y grŵp yn awyddus i fynd i weld drosom ein hunain.

Yn yr hinsawdd bresennol o brisiau llaeth uchel (ar hyn o bryd) a phrisiau mewnbwn uchel, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud i ymdopi â’r heriau hyn. 

 

1.1    Rhai a oedd yn bresennol ar y daith

Gareth Edwards
Meredith George
Iwan Phillips
Rhys Evans
Eric Phillips
Geraint Davis
Lyn Jones
Dylan Griffiths
Morris Davies
Sion Morgan
Martin Harries
Geraint Davies
Hugh Thomas
Berwyn Lloyd
Simon Pope
 

2    Y Daith

2.1    Diwrnod 1 (23 Mehefin 2022) aethom i Sioe Frenhinol yr Ucheldir. Y pwyntiau allweddol a nodwyd gan ein haelodau oedd:

  • Llwythwyr trydan newydd JCB. Roedd ganddynt enghraifft o ffermwr llaeth gyda phaneli solar a batri solar, ac roedd ei lwythwr JCB yn costio £0.70 y dydd i’w redeg. Fodd bynnag, mae cost prynu’r llwythwr trydan tua 50% yn fwy na’r peiriant diesel cyfatebol. Fel y gwelir yn y llun isod, mae’r ardal lle cedwir yr injan fel arfer yn cael ei defnyddio i storio eitemau.

 

Dywedodd y peiriannydd JCB a siaradodd gyda ni y byddai’r peiriannau JCB hydrogen ar gael yn y dyfodol, ond byddai’r rhain yn beiriannau mawr iawn gan fod angen cymaint o hydrogen, felly byddai angen i beiriant bach gael tanc afrealistig o fawr.

  • Gwnaethom siarad gyda David McNaughton o gwmni Soya UK am fuddion posibl tyfu bysedd y blaidd glas (Blue Lupins) gyda barlys fel cnwd llawn, neu hebddo. Mae proffil asid amino bysedd y blaidd yn debyg iawn i soia, ac mae’n uchel mewn asidau amino sylffwr, fel lysin a methionin, sef y ddau asid amino cyfyngol yn neiet gwartheg llaeth.
  • Roedd gan gwmni Ferrier Pumps gysyniad diddorol ar gyfer defnyddio pympiau solar gyda thyllau turio, felly os bydd twll turio newydd yn cael ei dyllu ar dir uwchben y fferm, gall y pwmp lenwi tanc concrit mawr pan fydd yr haul allan, a bydd hyn yn ei dro yn cyflenwi dŵr i’r fferm drwy ddisgyrchiant. Roeddynt yn cyfrifo y byddai angen pedwar panel solar i redeg tanc 16,000L mewn amodau tywydd ymylol.
  • Roedd sawl cwmni yn hyrwyddo systemau rheoli slyri, ac er nad yw’r rhain yn newydd, maent yn dod yn bwysicach, er mwyn cynyddu faint o faetholion sy’n mynd o’r slyri i’r pridd a lleihau potensial y slyri i achosi llygredd.

 

2.2    Ar yr 2il Ddiwrnod (24 Mehefin), aethom ar ymweliad â fferm Kennetsideheads. Yn anffodus, oherwydd newidiadau i’r system fewngofnodi yn y maes awyr, ni wnaethom lwyddo i ymweld â’r ail fferm ar ein taith. Roedd Kennetsideheads yn fferm ddifyr iawn. Roeddent yn godro 1200 o wartheg llaeth ac yn tyfu 1000 acer o wenith i fwydo’r gwartheg. Roedd hyn yn golygu eu bod yn dibynnu llawer llai ar borthiant wedi’i brynu i mewn a chostau eraill.

 

Roedd y gwenith a oedd yn cael ei dyfu ar y fferm yn cael ei drin â soda brwd ac roedd 6.5kg/y fuwch /y dydd yn cael ei fwydo yn ystod y cyfnod llaetha. Roedd storio slyri yn broblem i’r fferm ar hyn o bryd, gan ei bod hefyd mewn Parth Perygl Nitradau (NVZ), ac roedd y fferm wedi buddsoddi’n helaeth mewn tyrau slyri.

 

Yna, gwnaethom hedfan adref am 19:00 a chawsom ein codi gan fws mini a’n cludo’n ôl i Aberteifi.

3    Camau Nesaf

Mae sawl aelod o’r grŵp bellach yn ystyried tyfu bysedd y blaidd ar ôl siarad gyda David Mcnaughton. 

Wrth i amodau tywydd newid a bydd prisiau porthiant o bosibl yn dod yn fwy ansefydlog, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ni ystyried tyfu rhagor o wenith yng ngorllewin Cymru (fel mae sawl fferm yn ei wneud yn barod) i fwydo stoc. Fodd bynnag, mae argaeledd tir yn ffactor cyfyngol.

Roedd y llwythwr JCB trydan yn sicr wedi rhoi llawer inni feddwl amdano, yn nhermau costau rhedeg ac effaith amgylcheddol.

Mae rhaglen y gaeaf yn agosáu pan fyddwn yn gwahodd siaradwyr i annerch y grŵp ar bwnc penodol. Byddaf yn awgrymu ein bod yn rhoi ystyriaeth bellach i bob un o’r tri syniad uchod dros y gaeaf.