Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Cleifiog

Ariannwyd trwy raglen y Gwasanaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesedd a Chynghori dan Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 – 2020

Grŵp Cleifiog

Sioe LAMMA NEC Birmingham

4 Mai 2022 – 5 Mai 2022


1    Cefndir

Ffermwyr a chontractwyr amaethyddol oedd pawb o’r grŵp a fynychodd. Nod ac amcan yr ymweliad oedd cynnal a chreu cysylltiadau newydd gyda chwmnïau sy’n darparu peiriannau, technoleg ac offer blaengar ar gyfer y diwydiant amaethyddol. Hefyd, cafodd y grŵp wybodaeth gan yr arddangoswyr a fu’n dangos y tractorau, cynaeafyddion, peiriannau ar a glaswelltir diweddaraf, ynghyd ag ystod eang o dechnoleg, gwasanaethau ac offer newydd. Roedd hyn o fudd mawr i’r bobl oedd yn bresennol o bosibl er mwyn ehangu eu busnes yn y dyfodol. Darparodd LAMMA hefyd syniadau a datblygiadau newydd a gwybodaeth am beiriannau newydd a brandiau byd-eang. Croesawodd LAMMA hefyd gwmnïau peirianneg a pheiriannau amaethyddol llai o bob rhan o’r DU, gan arddangos eu cynnyrch i weddu i bob cyllideb, a helpodd i ysbrydoli’r grŵp.

 

1.1    Mynychwyr

Gareth Hughes
Ieuan Hughes
David Woodhouse
Gareth Parry
Dewi Taylor
Meurig Roberts
Dafydd Parry 
Alwyn Owen
Robert Owen
Siôn Morris
Elwyn Evans
Tony Jones
Craig Mansell
Eilir Williams
Geraint Harper
Dafydd Morris

 

2    Amserlen deithio 

2.1    Diwrnod 1

Cyfwelwyd â Gareth Hughes, sy’n un o bartneriaid T. J. & E.J. Hughes & Sons, gan gyflwynydd y rhaglen amaethyddol boblogaidd, “Ffermio”, ar gyfer y sianel deledu Gymraeg (S4C), ar ddiwrnod cyntaf Sioe LAMMA. Aeth y cyflwynydd gyda Gareth wrth iddo ymweld â stondinau amrywiol gwmnïau, a buont yn trafod y cynnyrch roedden nhw’n eu harddangos. Siaradodd Gareth â’r cyflwynydd am fanteision mynychu’r sioe a pha mor amhrisiadwy yw hi i’r gymuned amaethyddol ledled Cymru allu cwrdd a chreu cysylltiadau newydd, gan hefyd ddysgu am y peiriannau blaengar sy’n cael eu harddangos yn ddieithriad yn y sioe.

Mae’r rhaglen bellach wedi’i darlledu ac roedd yn boblogaidd iawn ymysg y gymuned amaethyddol.
   
2.2    Diwrnod 2

Treuliwyd yr ail ddiwrnod yn sgwrsio â chynrychiolwyr ar stondin Krone, Slurrykat, Storth, Agquip a Slurry Quip, gan ennill gwybodaeth a manylion amhrisiadwy am eu cynnyrch, yn benodol bariau driblo i osod ar danceri slyri.
Siaradodd y grŵp hefyd â chontractwyr ffermio eraill i holi am eu barn a’u prosesau, a sut y gwnaethant sefydlu a rheoli eu busnes, a oedd yn o fudd mawr i’r grŵp.

 

3    Camau nesaf

Camau nesaf y grŵp:

  • Holi gwahanol gyflenwyr lleol ar y prisiau gorau ar gyfer offer penodol / rhannau ar gyfer peiriannau amaethyddol o gyngor a gafwyd tra yn y sioe
  • Trefnu cyllid i brynu offer / rhannau newydd ar gyfer peiriannau
  • Cydgysylltu â chysylltiadau a gafwyd yn y sioe i brynu cynhyrchion newydd sy'n arbed costau a rhannau peiriannau yn y dyfodol, a fydd o fudd mawr i'r busnes.

Yn dilyn cyngor a geisiwyd yn y sioe, mae'r busnes bellach yn bwriadu prynu bar driblo oherwydd cost gynyddol gwrtaith. Y cyngor a roddwyd oedd prynu'r bar driblo, a fydd yn galluogi'r slyri i ollwng ychydig ac yn aml, a fydd, yn ei dro, yn arbed costau. Bydd yr arbedion hyn wedyn yn cael eu gwario i gynnal y cnydau.