Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Cyswllt Ffermio Llanymddyfri

Grŵp Cyswllt Ffermio Llanymddyfri

Geraint Powell, fferm Cabalva, Whitney on Wye; Philip Gorringe, Fferm Lower Blackmere, Blackmere, Henffordd; Ben Taylor-Davies, Fferm Townsend, Rhosan ar Wy

8 a 9 Rhagfyr 2021


1    Cefndir

Edrych ar ffermio’n gynaliadwy gan gyfeirio’n enwedig at iechyd y pridd a rheoli’n gynaliadwy. Llai o fewnbwn a sut i addasu er mwyn gwella canlyniadau amgylcheddol, gan ei fod yn debygol y bydd cymorth yn y dyfodol yng Nghymru yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac amcanion amgylcheddol.

Gweld sut mae ffermwyr yn addasu i’r cynllun rheoli tir er lles yr amgylchedd (ELM), sydd wedi ei gyflwyno yn barod yn Lloegr.

[Pam aethoch chi? Rhowch rywfaint o wybodaeth gefndirol am eich grŵp a rhowch drosolwg o nodau ac amcanion eich taith astudio] 

Mae’r mwyafrif o aelodau’r grŵp yn ffermwyr mynydd ac ucheldir rhagweithiol o’r un meddylfryd (sy’n ffermio defaid yn bennaf). 

Yn gyntaf, parhau i ymdrechu i fod yn fwy effeithlon, yn ogystal â chwilio am y ffordd orau i addasu i system reoli amgylcheddol ar sail cymorth yn bennaf.

Dysgu mwy am reoli priddoedd yn gynaliadwy a sut i’w gyflawni orau. Mae gan Ben Taylor-Davies rai dulliau unigryw o gyflawni hyn, felly roedden ni eisiau gweld y canlyniadau hyn nid yn unig ar dir ei fferm ei hun, ond ar dir y ffermydd eraill y mae hefyd yn gweithio gyda nhw.

 

1.1    

Garry Williams Blaencennen, Gwynfe, Llangadog

Arwel Evans, Fferm Gellygron, Llandeusaint, Llangadog

James Booth, Fferm Glanmeilwch, Gwynfe, Llangadog

Ian Rickman, Fferm Gurnos, Bethlehem, Llangadog

Carys Jones, Fferm Glanbrynant, Llandeilo

Hywel Morgan, Fferm Cwmclyd, Myddfai, Llanymddyfri 

Dylan Morgan, Fferm Pwllcalch, Myddfai, Llanymddyfri

Steve Welton, Fferm Gilfach, Llandeusaint, Llangadog 

Peredur Owen, Tŷ Llwyn y brain, Llanymddyfri 

Carinne Kidd, Tŷ Llwyn y brain, Llanymddyfri


2     Amserlen 

[Beth wnaethoch chi ei ddysgu? Rhowch ddisgrifiad o’ch gweithgareddau ar bob diwrnod ar eich ymweliad a’ch canlyniadau dysgu allweddol a’r wybodaeth a ddysgwyd]

 

2.1    Diwrnod 1

Bore: Gwnaethom gwrdd â Geraint Powell, rheolwr Ffermydd Cabalva. Roeddent wedi cyflwyno’r cynllun ELM ar sawl ardal o’r fferm. Gwnaethom weld sut oedd y mentrau da byw wedi cael eu haddasu i gydweddu â’r arferion hyn er mwyn sicrhau’r taliadau amgylcheddol gorau posibl, ond hefyd i barhau gyda chynhyrchu da byw. Roeddent wedi newid i ffermio bridiau mwy brodorol, gaeafu gwartheg yn yr awyr agored yn bennaf a lleihau niferoedd stoc i raddau. 

Prynhawn: Philip Gorringe, Fferm Blackmere. Cyfeirio’n enwedig at iechyd ac awyriad y pridd ar fferm sy’n cynhyrchu grawn yn bennaf. Sut i ddelio â chostau mewnbwn cynyddol, yn enwedig gwrtaith ac ati. Roedd Philip wedi plannu cnydau gorchudd, a allai gael eu pori, i gynyddu deunydd organig yn y pridd. Er budd y grŵp, rydym efallai’n ystyried cyflenwi rhai defaid er mwyn cyflawni hyn dros y gaeaf. Roedd Philip wedi bod yn gweithio gyda Ben Taylor-Davies dros yr 18 mis diwethaf er mwyn delio â materion yn ymwneud â strwythur a ffrwythlondeb y pridd. Edrych ar rai ffyrdd dyfeisgar o ddelio â’r problemau hynny.


2.2    Diwrnod 2

Ymweliad helaeth ar fferm Ben Taylor-Davies. Gwnaethom edrych yn fanwl ar y gwyndwn llysieuol a dyfwyd fel cnwd toriad ar gyfer grawn a sut roeddent yn fuddiol ar gyfer iechyd a strwythur y pridd - er enghraifft, mae gan blanhigion fel cnwd Llyriad (plantain) ac ysgall y meirch brif wreiddiau estynedig sy’n ymestyn i mewn i’r isbridd i wahanu tir caled. Mae bioamrywiaeth y gwyndwn hwn yn wych ar gyfer bywyd gwyllt, ond mae ganddynt wahanol argaeledd mwynau na gwahanol blanhigion wedi’u pori, sydd o fudd i dda byw. Gwnaethom hefyd edrych ar swyddogaethau gwahanol fathau o facteria o fewn iechyd y pridd.

 

3    Y camau nesaf

a)    Mae nifer o’r grŵp yn ystyried plannu gwyndwn llysieuol i dreialu’r budd o fewn y flwyddyn nesaf, ac mewn gwirionedd, mae un ohonom ni wedi gwneud hynny yn barod, gan ganolbwyntio ar fioamrywiaeth ar gyfer cyfuniad o anifeiliaid pori a bywyd gwyllt.

b)    Defnyddio cyn lleied o driniaeth tir â phosibl wrth blannu’r hadau, yn lle aredig (fel yr oeddent yn ei wneud ynghynt), sy’n rhyddhau carbon.

c)    Rydym yn gobeithio parhau i weithio gyda Ben Taylor-Davies mewn rôl ymgynghori.

d)    Gall cysylltu â Ben ein helpu ni gyda chynyddu ein sgôr/credyd carbon yn y dyfodol er mwyn sicrhau budd ariannol posibl.

e)    Bydd hynny hefyd yn ein helpu ni i addasu i’r cynllun cymorth newydd ar sail yr amgylchedd y mae Llywodraeth Cymru yn debygol o fod yn ei flaenoriaethu fel rhan o’i chymorth ar gyfer amaethyddol wrth symud ymlaen.

f)    Edrych yn fwy manwl ar facteria buddiol a’r posibilrwydd o’u defnyddio i wella iechyd y pridd.

g)    Rhoi llawer mwy o flaenoriaeth i’r pwysigrwydd o ofalu am ein priddoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

h)    Lleihau mewnbynnau allanol.