Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Dŵr Beacons

Grŵp Dŵr Beacons

Melrose (Yr Alban) a Leicester 

10-12 Tachwedd 2021 


Yn bresennol:

Nigel Elgar 

Keri Davies 

Richard Roderick 

Charles Weston 

David Thomas 

Helen Roderick  

 

Sefydliad amaethyddol y Morley Agricultural Foundation

The Morley Agriculture Foundation – TMAF 

 

David Jones, rheolwr fferm 

Elusen sy’n cefnogi ffermio yn Nwyrain Lloegr drwy ariannu ymchwil amaethyddol, astudiaethau myfyrwyr, datblygiad proffesiynol ffermwyr ac eraill ac amrywiaeth o gynlluniau addysgiadol ar gyfer plant ysgol yw’r Morley Agricultural Foundation. 

Nid yw’r angen am ymchwil annibynnol diduedd yn lleihau. Mae angen technegau newydd sydd wedi’u profi i alluogi ffermwyr i ymdopi â thyfu cnydau newydd, newidiadau mewn amgylchiadau economaidd a hinsoddol ac oblygiadau rheoliadau amgylcheddol newydd helaeth.

Mae’r TMAF yn rhoi grantiau ar gyfer ymchwil amaethyddol, astudiaethau myfyrwyr, datblygiadau proffesiynol ffermwyr ac eraill, ac amrywiaeth o gynlluniau addysgiadol ar gyfer plant ysgol.  

Ffurfiwyd Morley Farms 110 mlynedd yn ôl gan dirfeddianwyr cyfoethog er mwyn cynnal ymchwil i ffermwyr allu gwella’u technegau. Mae gan The Morley Agricultural Foundation ymddiriedolwyr sy’n cynnwys ffermwyr, asiant tir ac agronomegydd. Mae gan y sefydliad incwm blynyddol o tua £400k. Caiff yr arian hwn ei wario ar gynlluniau ymchwil sy’n berthnasol i ffermio yn Norfolk/East Anglia, ac ar gynlluniau addysgiadol, gan gynnwys noddi myfyrwyr PhD. Ystyrir bod ehangu gwybodaeth am y sefydliad yn allweddol bwysig. 

Bwriad y fferm 750 hectar yw ffermio’n broffidiol, gan dalu rhent masnachol i’r sefydliad a rhoi cymorth rhodd ar unrhyw elw yn ôl i’r sefydliad hefyd. Mae’r glawiad blynyddol tua 650ml.  

Fferm tir âr yw’r fferm, heb unrhyw dda byw. Caiff tail moch ei gyfnewid am wellt gyda’r ffermydd lleol. Mae amrywiaeth eang yn y cylchdro gan gynnwys gwenith, haidd gaeaf a gwanwyn, ceirch gaeaf, rhyg, ac indrawn ar gyfer gwaith AD lleol. Mae rêp had olew a betys siwgr hefyd wedi'u cynnwys yn y cylchdro. Mae’r amrywiaeth yn y cylchdro yn galluogi’r fferm i rannu’r baich gwaith drwy gydol y flwyddyn, gyda thri gweithiwr llawn amser (gan gynnwys rheolwr a phrentis). Defnyddir contractwyr ar gyfer rhywfaint o’r cynaeafu. Mae amrywiaethyn bwysig hefyd ar gyfer lleihau chwyn ayb. 

 

Mae’r fferm yn ystyried ymgymryd ag arolwg carbon llawn i’r fferm gyfan. Bydd yr arolwg yn costio tua £10,000 - mae tair ffordd wahanol o wneud hyn, a bydd angen cadarnhau pa un sydd orau i’w ddefnyddio.  

Cynllun Dŵr Glân

https://tmaf.co.uk/category/morley-clean-water-project/

  • Y bwriad yw bod y dŵr sy’n gadael y fferm mor lân â phosib.
  • Mae’r fferm ar ym mhen uchaf y dalgylch
  • Defnyddio offer a sgiliau’r fferm ei hun i gynllunio a gweithredu datrysiadau.
  • Defnyddio lefelau addas o blaladdwyr a gwrtaith.
  • Ystyried sut orau i ymdrin â lonydd fferm a buarth y fferm – gan ddeall beth yw’r dŵr ac i ble mae’n mynd.
  • Cadw pethau’n sylfaenol a syml – gall llawer o ymyriadau bychain wneud gwahaniaeth mawr.
  • Mae rheolaeth briodol o’r tir yn lleihau erydiad silt/pridd. 


1.    Y peth cyntaf a ddangosodd David i ni oedd plât dur syml â rhicyn v. Gosodir y plât yn y ffos; mae’n dal y dŵr yn ôl, gan adael i’r dyddodiad setlo.  

 

2.    Codi grid gwartheg ar draws y lôn i rwystro dŵr rhag llifo i lawr y lôn i’r ffordd – mae’n disgyn i mewn i’r grid ac yn casglu yn y ffos – a’i gadw yn y ffos sy’n llifo ar hyd y ffordd ac yn socian i ffwrdd.  

3.    Profi’r dŵr – mae’n anodd cael canlyniadau cyson – proses ddigon anodd – yn hapus fod lefelau ffosffad a maetholion yn isel oddi ar y fferm

4.    Ystyrir fod tir y fferm yn rhy dda yn gyffredinol i dyfu coed (na blodau gwyllt) 

5.    Mae’r fferm yn gartref i nifer o orsafoedd tywydd yn cofnodi tymheredd, lleithder a glawiad. 

6.    Cnwd gorchudd – ffaselia gyda cheirch du (sydd â systemau gwreiddiau mwy ffibrog na cheirch cyffredin) – i gynyddu hwmws yn y pridd – mae angen i’r cymysgedd cnwd gorchudd fod yn rhad, dibynadwy ac yn cyflawni ei swyddogaeth – ei hau drwy daenu – yn costio £35/ha am yr hadau a £15/ha i’w hau – amcangyfrifir bod y nitradau llai a gollwyd i’r ffos yn werth £60/ha – Byddai’r cnwd gorchudd hwn yn cael ei losgi i ffwrdd gyda’r glyffosad a’i aredig i mewn – gorau oll po fwyaf yw’r cymysgedd o rywogaethau o fewn y cnwd gorchudd. 

7.    Sied – wedi gwario £200k ar sied, 9m o uchder i’r bondo gydag ochrau concrid a phad – ar gyfer tipio a llwytho betys a gwrtaith.

8.    System ddraenio trawst concrit syml ar draws y lôn i rwystro dŵr ffo – effeithiol iawn  

9.    System garthffosiaeth ar gyfer 24 tŷ nad yw’n gweithio’n iawn - cwmni dŵr heb ei reoleiddio ar sail y maint hwn - gweithio ar y cyd ag Anglian Water i gynllunio a gweithredu system dri phwll i buro’r dŵr wrth iddo lifo drwodd.


 

Cyfarfod grŵp ffermio’r Wensum Farming Group  

Grŵp ffermio’r Wensum Cluster Farm Group – Fakenham, Norfolk 

Cyflogir Lizzie Emmett (Ymgynghorydd Grŵp y Wensum Farmers) gan y ffermwyr, ac mae ganddi brofiad o safbwynt cymell cyfranogiad a chydweithrediad tirfeddianwyr ar gyfer newidiadau defnydd tir. Yn ôl Lizzie,  “Fy swydd i yw ysbrydoli a chymell yn dactegol, adeiladu perthynas hir dymor ar sail ymddiriedaeth gan greu gwir newid ar lawr gwlad. O gasglu data dŵr unigryw i’w ddefnyddio yn y frwydr yn erbyn stigma NGO, i adfer rhai o’r pyllau dŵr mwyaf unigryw yn y wlad - y cyfan wrth baratoi ffermydd ar gyfer ELM - rwy’n gweithio ar y cyd â ffermwyr ar lefel 1:1 ac fel grŵp i wella gwydnwch busnesau fferm a chyfoethogi’r ecosystemau y maen nhw'n ffermio ynddyn nhw.”  

www.wensumfarmers.co.uk 
  
Mae grŵp ffermydd yr Upper Wensum Cluster Farm Group yn cynnwys 25 fferm yn gweithio ar y cyd dros fwy na 10,000 hectar o dir, gyda’r bwriad o sicrhau gwelliannau amgylcheddol i’r tir ar raddfa eang.  

Mae’r grŵp bellach yn ariannu ei hun ar ôl cyflwyno tâl aelodaeth o £1.00 yr hectar yn yr hydref, a defnyddiwyd rhywfaint o’r arian hwnnw i brynu offer profi dŵr a argymhellwyd gan Brifysgol East Anglia yn dilyn astudiaeth o’r dŵr ar Ystâd Salle. Profir y dŵr bob pythefnos ar 10 safle, rhwng Sculthorpe a Bylaugh, gan asesu’r lefelau llygredd ffosffad a maetholion yn nraeniau’r caeau, ffosydd, llednentydd a’r brif afon.

Dywedodd Lizzie Emmett fod dŵr yn cael ei brofi cyn iddo adael y fferm er mwyn casglu data nad yw llygrwyr posibl eraill yn effeithio arnyn nhw fel ffyrdd, diwydiant a gweithfeydd trin carthion. Mae Lizzie’n allweddol i lwyddiant y grŵp, gan gydlynu gwaith profi, gweithio gyda ffermwyr ar lefel un-i-un a threfnu dyddiau hyfforddi grŵp.   

Blaenoriaethau trawsfwaol grŵp clwstwr fferm yr Upper Wensum Cluster Farm Group (UWCFG) yw bioamrywiaeth a dŵr. 

Ymysg y cynefinoedd â blaenoriaeth i’w cynnal ar sail datganiad blaenoriaeth canol Swydd Norfolk o’r Stiwardiaeth Cefn Gwlad (Countryside Stewardship) mae’r canlynol: corsydd pori arfordirol a gorlifdir, cynefinoedd glannau afonydd sy'n gysylltiedig ag afonydd a llynnoedd, dolydd iseldir ac ymylon caeau âr.

Ymysg y cynefinoedd â blaenoriaeth i'w hadfer a'u cydgysylltu mewn rhwydweithiau cynefinoedd ar draws y clwstwr mae coetiroedd hynafol a brodorol. 
  
Pridd a dŵr

Mae’r tirfeddianwyr yn gweithio tuag at leihau llygredd dŵr gwasgaredig, cynyddu lefelau deunydd organig ac iechyd y pridd a gwella effeithiolrwydd cymhwyso mewnbwn. Fel rhan o’r broses hon, mae tirfeddianwyr yn defnyddio meddalwedd cyllidebu maetholion i gyfrifo colledion trwytholchi ac anghysondebau maetholion. 
  
Blaenoriaethau dŵr

Bydd y cynllun yn creu cynefinoedd â blaenoriaeth i ymestyn neu gysylltu cynefinoedd â blaenoriaeth er mwyn cynyddu cysylltedd a lleihau darniad. Bydd creu cynefinoedd â blaenoriaeth fel hyn bydd yn cyfrannu’n sylweddol i welliannau ym maes ansawdd dŵr a rheoli’r perygl rhag llifogydd a risgiau arfordirol.  
 
Ymunodd grŵp The Beacons Water Group gyda ni mewn diwrnod hyfforddi yn trafod cnydau gorchudd a’u heffaith ar ansawdd y dŵr. 

Cae – 35 tunnell fetrig o dail moch yr hectar adeg hau’r cnwd gorchudd – baracwda a radis. Dadansoddi’r pridd cyn taenu tail – 3 P 2- K ac wedi taenu tail 3 P a 2+ K  
                
Angen mesur er mwyn rheoli 

2il fferm – model syml – ffermio 350 erw ar ei ben ei hun - hau uniongyrchol am fwy nag 20 mlynedd – cynhyrchiad yn iawn – rheolaeth helaeth o wrychoedd.  

O safbwynt cnydau gorchudd, mae amseriad y sefydlu’n hanfodol – angen rhywfaint o leithder er mwyn dechrau tyfu.

Mae Lizzie’n cymryd samplau dŵr – dŵr ychydig yn uchel o safbwynt ffosffad, ond lefelau maetholion da yn y samplau draeniau tir 

3edd fferm – Ash Farm  

Fferm organig – yn ceisio ffermio’n adfywiol, h.y. edrych tuag at gyrraedd lleiafswm o driniaeth/dim triniaeth. Yn rhedeg cylchdro naw mlynedd, yn cynnwys meillion dwy flynedd. Mae’r cnwd gorchudd a ddangosir yn cynnwys ceirch, maip, ffaselia, radis – yn cael ei bori gan wartheg â’r ffens trydan a’r dŵr yn cael eu symud yn ddyddiol a’r defnydd o ffens gefn. Bydd y gallu i sefydlu’r cnwd nesaf drwy gyfrwng dim triniaeth/lleiafswm o driniaeth yn ddiddorol. 
 
Cynllun yr Allerton Project –  

Joe Stanley – Pennaeth Hyfforddi a Phartneriaethau

https://www.allertontrust.org.uk/  

Taith o gwmpas y prosiect a thrafodaeth yn ymwneud â phridd, dŵr a chynefinoedd ar fferm arddangos sy’n 320 hectar yn Swydd Gaerlŷr.  

Mae’r Allerton Project yn ymchwilio i effaith gwahanol ddulliau o ffermio ar fywyd gwyllt a’r amgylchedd. 

Dan arweiniad Joe Stanley – wedi ffermio ar fferm deuluol ers 12 mlynedd – llaeth, gwartheg sugno bîff a thir âr. Mae gan Allerton ei ecolegydd a’i wyddonydd pridd ei hun. 

Sefydlwyd cynllun Allerton 30 mlynedd yn ôl – ymddiriedolaeth ymchwil ac addysg – tir âr a da byw (dim da byw ar hyn o bryd). Roeddent yn awyddus i ddangos fod gan ymgyrchoedd hela adar wedi’u rheoli’n gynaliadwy’n cael effaith lesol ar fywyd gwyllt. Mae’r fferm 500 troedfedd uwchben lefel y môr ac yn derbyn 600-700ml o  law’r flwyddyn. 

Ymgymerwyd â threialon i wrthdroi’r gostyngiad mewn adar ar dir ffermio drwy:

  • Fwydo atodol
  • Rheoli ysglyfaethwyr 
  • Ffermio cynaliadwy 

Dangosodd y canlyniadau welliant o 30% o ganlyniad i fwydo atodol, a chynnydd o 30% o ganlyniad i reoli ysglyfaethwyr. Mae adar sydd i'w gweld ar fferm yn ddwywaith y lefel gyfartalog. Y prif ysglyfaethwyr yw moch daear, ac mae lluniau ffilm o’r fferm yn dangos moch daear yn mynd â nythod cornchwiglod a’r gylfinir - hefyd does dim draenogod wedi’u gweld ar y fferm ers sawl blwyddyn.

Mae’r fferm wedi canolbwyntio ar greu cynefinoedd - yn cynnwys twmpathau chwilod a stribedi byffer a bellach mae’n canolbwyntio ar y carbon sydd yn y pridd.

System gylchdroi tir âr – wedi symud i ffwrdd oddi wrth aredig i hau uniongyrchol – wedi treialu nifer o wahanol dechnegau gan gynnwys stribedi byffer a chnydau gorchudd. 

Cynllun gwrychoedd – nawdd o £80k gan Defra a Natural England i ddatblygu cod carbon gwrychoedd – rhan o gynllun credyd carbon Ewropeaidd 

  • EU Horizon 2020  
  • Dod â’r ymchwil ar wrychoedd ynghyd -
  • Ymgymryd â threialon ar y fferm ac ymgymryd â mesur y ddaear    
  • Map tir 
  • Cyfrifo’n gywir pa garbon sydd yno a sut i reoli ar gyfer carbon 
  • Bydd canlyniadau a ddisgwylir ymhen blwyddyn yn arwain at gredydau masnachadwy cyfreithlon
  • Amcangyfrifir bod gwrychoedd ledled Lloegr yn dal gwerth £65m o gredydau carbon a chredir y gellid dyblu hyn. 
  • Dywedodd Joe fod angen rhoi gwerth o tua £150 y dunnell fetrig i gredydau carbon (£20/t ar hyn o bryd)

System hidlo bio-wely – yn casglu unrhyw weddillion chwistrellu – system o siambrau, pibellau a phympiau – yn ei hidlo drwy hidlyddion carbon a gwellt – yn glanhau’r dŵr i bwynt lle mae’n lân wrth dreiddio i ffwrdd – mae angen newid y gwellt bob tair blynedd – mae 40% of lygredd yn dod o un tarddle. 
 
Treialon ffosffad gyda Heliosec – mae dŵr yn anweddu a gellir gwaredu’r gweddillion yn hawdd 

Isbriddiwr (sub-soiler) sydd ag aflonyddiad isel o’r pridd – mae angen ei ddefnyddio un flwyddyn o bob tair cyn hau uniongyrchol (darn pwysig o beirianwaith – yn hanfodol os ydych i drosglwyddo o aredig i ddulliau lleiafswm o driniaeth/dim triniaeth).  

Twmpathau chwilod - 2m o led a 40cm o uchder - hadau neu wellt - yn helpu i aeafu pryfed, mamaliaid ac adar sy’n nythu ar y ddaear - 1300 o bryfetach bob metr sgwâr (msg). Nid oes plaleiddiaid wedi’u defnyddio ar y fferm yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.  

Cynnydd o 10% bob blwyddyn yn y carbon pridd organig ar dir wedi’i hau’n uniongyrchol. Cynyddodd mwydod o 200/msg i 700/msg. Serch hynny, o aredig y tir hwnnw yn y pen draw – wedi tair mlynedd mae’r cynnydd mewn carbon yn y pridd wedi’i golli ac mae nifer y mwydod wedi’u haneru. 

Stribedi byffer – stribedi byffer 12 metr ar ymylon cae sy’n cael ei dreialu – yn rhwystro 95% o’r dŵr ffo. Osgoi tir noeth yw’r allwedd i leihau erydiad pridd. 
 
Treialon Coetir – plannwyd yn 2016 – agrogoedwigaeth a phentyrru mentrau – cynhyrchu cig oen a gwlân, mae bioamrywiaeth yn cael ei gyfrifo a’r lefelau carbon uwchben ac islaw’r ddaear yn cael eu hasesu. Ni fydd atafaelu carbon yn dechrau am 15 mlynedd. 
 
100-1600 o goed yr hectar wedi’u plannu mewn partneriaeth â’r Woodland Trust. 
 
Amcan y cynllun yw penderfynu pa lefel dwyster coed sydd fwyaf effeithiol yn economaidd – cynllun agrogoedwigaeth gyda defaid yn pori rhwng y coed. Caiff iechyd cyffredinol y pridd ei asesu ar gyfer treiddiad dŵr, mwydod a deunydd pridd organig. Mae effaith y cysgod ar dda byw yn cael ei asesu hefyd – manteision ac effaith lles ar dymheredd y ddaear a’r effaith ar y tymor pori. 

Gwarchodwyr coed – problemau yn sgil llygod y gwair a morgrug, yn ogystal â rhywfaint o ddifrod gan ddefaid. Rhagwelir y bydd tua 30% o’r coed wedi cael eu colli. Dymuniad i dreialu giard coed o wlân defaid yn y dyfodol. 

Gwaith treialu ar helyg (cyfoethog mewn boron a sinc) wedi’i gychwyn – gyda’r bwriad o leihau’r allyriadau methan mewn defaid a phriodweddau anthelmintig. 

Treialon maes (Syngenta) 

Aredig neu hau uniongyrchol 

Canlyniadau hau uniongyrchol 

  • Cyfradd gweithio wedi dyblu
  • Y tanwydd a ddefnyddiwyd wedi’u haneru
  • Allyriadau carbon pridd i lawr 15% 
  • Sefydliad a chynnyrch i lawr 10% 
  • Cynnydd o 5% yn yr elw net 

Mesur allyriadau nwyon tŷ gwydr wrth aredig – rhyddhau pluen enfawr o CO2. Yn sgil hau uniongyrchol, mae’r pridd yn fwy bywiog o safbwynt biolegol ac yn rhyddhau mwy o CO2 yn ystod y flwyddyn. Serch hynny, gyda phridd mwy biolegol fywiog, mae angen llai o wrtaith. Mae gwrtaith yn rhyddhau ocsid nitraidd – 350 gwaith yn fwy llygrol na CO2. Hefyd, caiff ocsid nitraidd ei ryddhau gyda phriddoedd cywasgedig oer a gwlyb.

Canlyniad y treialon – Hau uniongyrchol yw’r dull mwyaf cynaliadwy o sefydlu cnydau. 

Treialon – Trap Silt 

Y prif elfennau ar gyfer lleihau erydiad pridd/dŵr ffo. Dim gweddillion rhydd - dim pridd sofl/noeth drwy ddefnydd allweddol cnydau gorchudd. Lle mae dyddodiad ar gael, mae ffosffad yn ymglymu  â gronynnau pridd a chaiff ei golli. Ymysg y prif ardaloedd sy’n creu problem y mae olion olwynion peiriannau a lonydd. Mae cyfuchlinio’n bwysig er mwyn lleihau rhediad o ddŵr ffo’n gyffredinol. Defnyddiwyd pigau i ryddhau’r pridd lle bu olwynion peiriannau. Defnyddir teiars pwysau tir isel hefyd, llai o drin y tir a thomwellt (mulch).   

Caiff 6-8% o’r fferm ei defnyddio ar gyfer cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau dangosyddion allweddol. 
 
Cynllun Gwrthbwyso Bioamrywiaeth gyda Cheshire Housing drwy arwerthiant gwrthdro – yn cael ei oruchwylio gan y Cheshire Wildlife Trust – adeiladwyd pedwar pwll madfallod o fewn ardal 5000 metr. 
  
I GRYNHOI – Taith Astudio – Y Gwersi a Ddysgwyd 
 

  • Mae cydweithrediad ffermwyr yn hanfodol ar gyfer rheoli tir ar raddfa eang a llwyddiant hirdymor. 
  • Mwy o berchenogaeth gan ffermwyr ar brosiectau’n arwain at well cefnogaeth a llwyddiant.
  • Defnyddio’r wybodaeth sydd gan ffermwyr i edrych ar nodweddion y dirwedd, y planhigion a’u gwybodaeth am anifeiliaid a defnyddio’r wybodaeth honno ar gyfer penderfynu beth yw’r defnydd mwyaf addas o’r tir a’r pridd.
  • Mae swyddog prosiect gwybodus, galluog a brwdfrydig sy’n gallu hwyluso gwaith grŵp a gweithio ar lefel un-i-un yn allweddol.
  • Mae angen mecanwaith ariannu i gefnogi mentrau dan arweiniad ffermwyr. 
  • Mae tystiolaeth a chasglu data’n hanfodol. 
  • Mae stribedi byffer o borfa a/neu ymylon blodau o gwmpas cnydau’n arafu llif dŵr ac yn cadw pridd a maetholion yn y cae.
  • Mae newid hinsawdd yn achosi llifogydd a sychder – mae rheoli tir ar gyfer sicrhau’r lefelau uchaf o ymdreiddiad o safbwynt cynnal dŵr a lleithder yn dod yn gynyddol bwysig.