Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Gwartheg Dyffryn Conwy

Grŵp Gwartheg Dyffryn Conwy

Yr Alban

15 - 18 Medi 2019


1    Cefndir

 

Mae’r aelodau a fynychodd y daith astudio hon yn rhan o grŵp trafod a sefydlwyd yn 2016. Grŵp yw hwn sydd yn edrych yn benodol ar y fuches fagu. Gyda chostau cynyddol mewn cadw buches fagu, mae’r grŵp yma yn edrych ar ffyrdd i wella proffidioldeb, effeithlonrwydd a dyfodol i'r fuches fagu ar eu ffermydd. Gwneir hynny trwy drafod yn fewnol yn ogystal ag ymweld â systemau amrywiol ledled y DU. Mae tirwedd yr Alban yn debyg iawn i Gymru ac felly yn sgil hynny, roedd yr aelodau yn awyddus iawn i weld sut mae’r ffermydd hyn yn addasu eu systemau, hynny drwy newid brîd, newid system gaeafu a llawer iawn mwy.


2    Amserlen

2.1    Diwrnod 1

Sion Williams, Bowhill Estate, Selkirk TD7 5ET

 

System Bowhill Estate

Mae system Bowhill Estate yn cynnwys:

  • 6,800 o ddefaid magu ar draws 7 menter wahanol. Maent yn cadw’r ŵyn benyw ar gyfer magu ac yn pesgi’r ŵyn gwryw i gyd.
  • 500 o fuchod magu. Maent yn cadw heffrod i fagu. Gwerthir mwyafrif o’r gwartheg bîff fel gwartheg stôr.
  • 15ha o haidd gaeaf, 63ha o haidd gwanwyn, 10ha o geirch gwanwyn a 46ha o gêl.
  • Peiriant treulio anaerobig 200kW sydd yn cynhyrchu 160kW oddi ar wrtaith da byw. Mae hyn wedi gostwng y ffigwr o wrtaith cemegol o 251 tunnell i 65 tunnell.
  • Ffermio ceirw. Mae 237 yn magu gyda’r nod i godi i 400 yn y dyfodol. Maent yn cynhyrchu cig i Waitrose ar gytundeb pris sefydlog 12 mis.

Prif negeseuon

  • Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o fesur i reoli. Rhaid cadw cofnodion er mwyn galluogi symud busnes yn ei flaen a hynny trwy ddyrannu costau ar gyfer pob menter er mwyn gwybod os yw’r mentrau yn broffidiol. Does dim pwrpas rhedeg menter os yw’n gwneud colled, a dibynnu ar fentrau eraill o fewn y busnes i’w chynnal.
  • Rhaid gosod targedau i'r busnes. Trwy gofnodi data, mae modd gweld ble mae'r gwendidau a hyn wedyn yn sail i ddangosyddion perfformiad allweddol (KPI’s) ar gyfer blaengynllunio i'r dyfodol.
  • Mae angen gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i gofnodi, lleihau costau ac i hwyluso gwaith o ddydd i ddydd.
  • Rhaid gwneud y mwyaf o borfa a chael yr isadeiledd cywir er mwyn rheoli, tyfu a defnyddio glaswellt yn effeithlon. 
  • Mae’n bosib gwneud defnydd o wastraff fferm. Mae’r enghraifft yma o beiriant treulio anaerobig yn cynhyrchu 160kW o drydan o dail da byw yn golygu lleihau cost gwrtaith cemegol.

2.2    Diwrnod 2

Giles Henry, Oakwood Mill, Selkirk TD7 5EZ

 

System Oakwood Mill

Fferm organic gyda buches Luing yw Oakwood Mill. Maent yn gweithredu system ‘mewnbwn isel ac allbwn isel’, sy’n golygu risg isel o ran proffidioldeb. Maent yn gaeafu’r fuches allan ar y mynydd ac ar fetys porthiant, ac yn pesgi lloi ar system pori cylchdro. Mi wnaethon nhw gyrraedd rownd derfynol arloeswr bîff y flwyddyn yn y ‘British Farming Awards 2018’.

Prif negeseuon

  • Mae gan Giles agwedd bositif am fywyd yn gyffredinol ac am ei waith a’i fusnes o ddydd i ddydd.
  • Wrth weithredu system pori cylchdro, maent wedi creu cynnydd o 27% o laswellt sy’n cael ei dyfu ar y fferm sy’n galluogi iddo gynyddu y gyfradd stoc. Golyga hyn gynnydd yn y swm o kg a gynhyrchir i bob hectar.  
  • Maent wedi gosod unedau pori yn 1ha er mwyn symleiddio’r system ac i allu symud anifeiliaid yn gyson. Rho hynny gyfle i’r uned bori orffwys ac i laswellt dyfu. Trwy ddefnyddio ffens drydanol un lein, mae'r lloi yn pesgi ar laswellt ffres pob dydd wrth symud i’r uned bori nesaf.
  • Maent yn gaeafu allan ar borfa neu ar gnwd gaeaf. Golyga hyn fod costau yn lleihau yn sylweddol. Eu nod yw peidio cynhyrchu silwair er mwyn lleihau costau.
  • Defnyddir system gofnodi i fonitro costau ac er mwyn gosod targedau.


Andrew Elliot, Blackhaugh, Clovenfords, Galashiels TD1 1TW

 

System Blackhaugh

Mae system Blackhaugh yn cynnwys:

  • Buches o 120 Angus pur yn dilyn geneteg famol y brid er mwyn gwella ansawdd a pherfformiad ei fuches. Cynhyrchir teirw magu ac maent yn cael eu gwerthu ledled y DU.
  • 2,000 o ddefaid Cheviot croes a phur.

Mae Andrew yn gadeirydd grŵp gwartheg Quality Meat System.

Prif negeseuon

  • Maent yn magu stoc sy’n famol ac yn ddidrafferth. Mae hynny yn hwyluso’r system ar y fferm yn ogystal â chael enw da am stoc magu i gwsmeriaid.
  • Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o eneteg wrth ddatblygu’r fuches a dilyn y geneteg sy’n addas i'r fferm.
  • Wrth gynhyrchu buchod sy’n pwyso llai, mae’n golygu y gall gadw gwartheg allan yn hwyrach yn y gaeaf, a’u troi allan yn gynt yn y gwanwyn. 
  • Roedd diogelwch staff yn bwysig i Andrew. Rhaid cael yr offer priodol i reoli a thrin stoc yn gywir ac effeithiol.

2.3    Diwrnod 3

Douglas and Lorna Greenshields, South Mains, Sanquhar, Dumfriesshire DG4 6LB

 

System South Mains

Mae system South Mains yn cynnwys:

  • Buches o 200 o Stabilisers
  • 1,500 o ddefaid, sydd yn cynnwys 700 Blackface ac 800 o miwls wedi eu bridio o’r Blackface. 

Prif negeseuon

  • Mae angen tynhau cyfnod lloua. Mae ganddynt darged o 90% i loua yn y 7 wythnos gyntaf. Golyga hyn fod lloi o oed a phwysau cyfartal, ac yn sgil hynny yn haws eu rheoli yn effeithiol ac i gael lloi cyfartal i’w gwerthu.
     
  • Mae pori cylchdro yn gwneud y mwyaf o borfa ac yn eu galluogi i dyfu mwy o laswelltir drwy’r flwyddyn. Am fuddsoddiad cychwynnol o £3,000 ar ffensys trydan a £3,000 ar gafnau dŵr, cred Doug na ellir cael elw cyflymach ar gyfalaf mewn ffermio da byw.
  • Cadw systemau yn syml er mwyn hwyluso gwaith a bod yn barod i addasu a bod yn hyblyg o flwyddyn i flwyddyn.

John Wildman, Rheolwr Fferm, Glenkiln Farms, Crocketford, Dumfries DG2 8QE

 

System Glenkiln Farms

Rheolwr fferm ar fferm 2,400ha yw John Wildman, sydd â buches o 600 Shorthorns, Simmentals ac Aberdeen Angus croes mewn system gaeedig. Mae ganddynt hefyd 3,000 o ddefaid croes.

Prif Negeseuon

  • Mae ffermio ar raddfa fawr yn lleihau costau fesul hectar, ac felly mae’n bosib dyrannu costau sefydlog a newidiol y busnes yn bellach dros y niferoedd.
  • Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o gael system hwylus a chyfredol i aeafu gwartheg. Rhaid cael system trin stoc ymhob fferm neu ddarn o dir er mwyn sicrhau diogelwch staff a milfeddygon, yn ogystal â bod yn effeithiol â llafur.
  • Mae cael siediau wedi eu dylunio yn gywir yn cyfranu llawer tuag at berfformiad stoc, yn lleihau baich ar iechyd ac yn lleihau costau milfeddygol.  

3    Camau Nesaf

Bu’r ymweliadau yn agoriad llygad, ac yn gyfle i’r grŵp gael gweld systemau proffidiol a llewyrchus. Roedd yn gyfle i’r unigolion weld sut oedd busnesau tebyg wedi addasu ac ymdopi â newidiadau cyson gan ystyried ble mae modd gweithredu rhai o’r pethau hynny ar eu ffermydd adref. Mae wedi galluogi i'r aelodau ffocysu ar elfennau o’u busnes sydd angen sylw i’w gwneud yn fwy effeithlon a phroffidiol. Dysgwyd pa mor bwysig yw cadw cofnodion o unrhyw fath. Amlygwyd pa mor fanteisiol yw dyranu costau i bob menter i sicrhau bod pob un yn talu ei ffordd. Rhaid mesur a rheoli yn gyson, a bod yn barod i roi'r amser tuag at gasglu data a’i ddadansoddi.

Bydd yr aelodau yn cyflwyno’r wybodaeth yn ôl i’r grŵp ehangach yn y cyfarfod nesaf, ac mae’r ymweliadau yn sail ar gynnwys cyfarfodydd i'r dyfodol.

Bu’n ysbrydoliaeth fawr i’r grŵp. 

Gwahoddwyd pob gwesteiwr yn ôl i Gymru i edrych ar systemau’r unigolion o fewn y grŵp, ac i roi cyfle iddynt roi adborth ac awgrymiadau ar systemau yma yng Nghymru.