Taith Astudio Cyswllt Ffermio - OFC Emerging Leaders Cymru
OFC Emerging Leaders Cymru
Cynhadledd Amaeth Rhydychen
7-9 Ionawr 2020
1. Cefndir
Dewiswyd y tri aelod o’r grŵp gan Cynhadledd Amaeth Rhydychen (OFC) i gymryd rhan yng nghynhadledd Emerging Leaders 2020. Roedd pob un o arweinwyr y dyfodol wedi mynychu gweithdy cyn y gynhadledd a mynd ar daith i Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain ym mis Tachwedd.
2. Amserlen
2.1
Roedd diwrnod cyntaf y gynhadledd yn archwilio pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiad yn y sector amaeth, gan bwysleisio’r angen i annog holl sectorau’r gymdeithas i ymuno â’r diwydiant amaethyddol. Erbyn 2050, bydd 36% o boblogaeth y DU yn ddu neu leiafrif ethnig, ond ar hyn o bryd, mae llai na 1% ohonynt wedi’u cyflogi o fewn y diwydiant. Gwnaethom fynychu digwyddiad ymylol a oedd yn archwilio’r defnydd o gofnodi data ar y fferm a’i gysylltu â chyfrifiannell allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy Ysgol Oxford Martin. Bu arweinwyr y dyfodol yn cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi cyfryngau ac aethant i gyfarfod gyda Llywydd yr NFU, Minette Batters. Cawsom y cyfle i ymuno yn y ‘Great Wine Debate’, gan ddysgu am greu gwin ym Mhrydain gan gynnwys gwinllan yng Nghymru. Rhoddodd y diwrnod cyntaf gyfleoedd helaeth i rwydweithio.
2.2
Roedd ail ddiwrnod y gynhadledd yn cynnwys sesiwn wleidyddiaeth, gyda Theresa Villiers AS, Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, fel prif siaradwr ynghyd â Minette Batters (NFU), Craig Bennet (Friends of the Earth) a’r Athro Fiona Smith (Prifysgol Leeds). O ganlyniad i’r hinsawdd wleidyddol bresennol ac amseriad y gynhadledd rhwng yr etholiad a gadael yr UE ar ddiwedd Ionawr, nid oedd unrhyw gyhoeddiad gwleidyddol mawr ond roedd y profiad a’r cyfle i ofyn cwestiynau yn wych. Amlinellodd Henry Dimbleby ei ‘Strategaeth Bwyd Cenedlaethol’ yng nghwmni panel o’r sector bwyd gan gynnwys Prif Weithredwr Greggs, Roger Whiteside. Cawsom ddarlith wyddonol ysbrydoledig gan yr Athro Alice Stanton sydd, fel Ffarmacolegydd Cardiofasgwlar, wedi defnyddio gwyddoniaeth a ffeithiau i frwydro yn erbyn chwedlau iechyd, gan ganolbwyntio’n benodol ar fuddiannau bwyta cynnyrch anifeiliaid ar gyfer iechyd dynol. Cawsom hefyd fynychu rhai sesiynau gweithdy. Roedd y sesiwn cyntaf yn sôn am ddiffinio fferm iach, a oedd yn canolbwyntio’n helaeth ar y pridd a’i bwysigrwydd, nid yn unig ar gyfer busnesau amaethyddol, ond ar gyfer iechyd dynol hefyd, gan fod yr holl fwynau allweddol sydd angen ar fodau dynol yn bresennol mewn pridd iach. Roedd y sesiwn gweithdy arall yn canolbwyntio ar fferm yn Iwerddon sy’n anelu at gynhyrchu cig oen a chig eidion carbon niwtral erbyn 2025, a sut mae’r fferm ar y trywydd cywir i lwyddo gyda chymorth technoleg LiDAR (Datgelu ac Anelu Golau) a newidiadau rheoli.
Gyda’r nos, aethom i ddadl Undeb Cynhadledd Amaeth Rhydychen (OFC). Y cynnig a ddadleuwyd o flaen Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol oedd ‘Cred y tŷ hwn bod pobl yn cael gwerth eu harian o fwyd rhad’. Yn dilyn areithiau’r cynigydd, gwrthwynebydd a’r eilydd, agorwyd y ddadl i’r llawr ar gyfer cyfraniadau, ac roedd ein mynychwr, Rachel Madeley Davies, wedi dadlau yn erbyn y cynnig gan ennill potel o siampên, a gyflwnwyd gan y Dywysoges, am ei chyfraniad i’r ddadl. Y gwrthwynebwyr enillodd y ddadl. Yna, roedd hawl gennym ni fynd i’r swper ar ôl y ddadl yn Christ Church College lle'r oedd y gwobrau yn cael eu cyflwyno, a chafodd Rachael sgwrs fer gyda’r Dywysoges.
2.3
Fe wnaethom ni gychwyn yn gynnar ar ddiwrnod olaf y gynhadledd gyda brecwast rhyngweithio wedi’i ddilyn gan sesiwn yn trafod y berthynas rhwng bwyd a ffydd. Pwysleisiodd y sesiwn ein bod ni’n rhan o gymdeithas aml-ddiwylliant ac aml-ffydd a allai gael ei uno gan fwyd, a sut mae cysylltiad cryf rhwng ffermio a ffydd. Cyflwynwyd araith Frank Parkinson gan Poran Malani, sef arbenigwr marchnata gyda 30 mlynedd o brofiad gyda brandiau marchnata megis Coca Cola, Amazon, Vodafone a Lenovo. Bu’n siarad am sut mae angen i gynhyrchwyr cynradd farchnata eu hunain yn well, ac yn y dyfodol, bydd ffermwyr yn cael eu defnyddio fel dull marchnata hollbwysig. Roedd Poran wedi paratoi fideo arbennig yn hyrwyddo amaethyddiaeth i’r gynhadledd, ond mae’r OFC yn dal i aros am gadarnhad hawlfraint. Bydd y fideo werth ei weld pan fydd ar gael i’w wylio. Hefyd yn ystod y trydydd diwrnod, roedd elfen yn canolbwyntio ar iechyd meddwl ffermwyr a phwysigrwydd chwilio am gefnogaeth pan fod angen.
Daeth y gynhadledd i ben gydag araith gan Kamal Mouzawak, siaradwr o Lebanon, a siaradodd am rym bwyd mewn cymdeithas i iachau a sut y gall bwyd fod yn ffactor uno, hyd yn oed ymysg crefyddau a diwylliannau gwahanol, a phan fydd rhyfel. Cyflwynodd bersbectif gwahanol iawn ar fywyd, ac o ystyried y sefyllfa bresennol (a hanesyddol) yn Lebanon, roedd hyn yn chwa o awyr iach.
3. Y Camau Nesaf
Mae’r Rhaglen Emerging Leaders wedi’i lunio i ddarparu’r sgiliau, yr hyder a’r rhwydwaith i gerfio rôl arweiniol o fewn y sector amaethyddol. Mae’r gweithdy cyn-gynhadledd a’r profiad o fynychu’r gynhadledd tri diwrnod wedi ehangu ein rhwydweithiau, gwneud i ni weld ein busnesau ffermio yn wahanol, yn ogystal â gwneud i ni annog eraill mewn cymunedau gwledig i gymryd cyfleoedd o fewn y diwydiant.
- Rhannu negeseuon allweddol Rhaglen OFC Emerging Leaders i eraill o fewn y diwydiant
- Cymryd rhan yn rhaglen cyn-fyfyrwyr yr OFC Emerging Leaders
- Archwilio ffyrdd o gasglu mwy o ddata ar ein ffermydd ar gyfer perfformiad busnes ac i defnyddwyr
- Deall y wyddoniaeth a’r ffeithiau a all helpu cefnogi ein diwydiant ymhellach