Taith Astudio Cyswllt Ffermio - RegenAg Cymru

Wedi’i ariannu gan y rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a Gwasanaethau Cynghori fel rhan o raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020

RegenAg Cymru

Cymru

30 Gorffennaf – 7 Awst 2022


1    Cefndir

Roedd y cwrs hwn yn gyfle i fynychu gweithdy dylunio fferm a chynllunio busnes ar fferm fach gynhyrchiol, lwyddiannus ac adfywiol yng Ngogledd Cymru: Henbant. Roedd y profiad o fyw a gweithio ar y fferm, yn ogystal ag ennill sgiliau ymarferol a dysgu gan ffermwyr profiadol, fel Matt Swarbrick a Richard Perkins, yn amhrisiadwy. 

Roedd Tash yn bresennol, gan ei bod wedi prynu fferm 70 erw yn Sir Gaerfyrddin y llynedd, ac roedd eisiau cael rhywfaint o hyfforddiant ac ennill sgiliau ymarferol ynghylch sut i redeg fferm fach gynhyrchiol a threulio amser yn edrych ar wahanol fentrau, megis brwyliaid, ieir dodwy, bîff a’r ardd farchnad. 

Mae Al yn edrych i brynu fferm fechan ym Mhowys, ac roedd ganddi ddiddordeb hefyd mewn cael profiad ymarferol gyda da byw, gan gynnwys dysgu sut i brosesu brwyliaid. 

Roedd Dylan, sy’n berchen ar dyddyn 15 erw a ‘fferm’ 25 erw ar wahân ym Mhen Llŷn, eisiau dysgu mwy am dyfu bwyd iach a maethlon yng nghyd-destun gardd farchnad – gan gynnwys arferion da byw adfywiol a mentrau y gellid eu cynnwys ar y fferm yn y dyfodol. 

Yn ddiweddar, mae Dylan wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer creu fferm Casglu Eich Ffrwythau Eich Hun ar ei dyddyn, gan gynnwys gardd farchnad gysylltiedig, gyda’r nod o gynnig cynnyrch organig o ansawdd uchel i’r gymuned leol, tra hefyd yn caniatáu ffermydd /cynhyrchwyr lleol eraill i werthu eu cynnyrch ar y safle (yn amodol ar fod yn organig/atgynhyrchiol). Y nod oedd bod yn gatalydd o fewn yr ardal leol drwy hyrwyddo system fwyd fwy lleol a hybu arferion ffermio adfywiol.  

Er bod Dylan yn dymuno canolbwyntio ar ddechrau sefydlu’r Fferm Casglu Eich Ffrwythau Eich Hun a’r ardd farchnad, y nod yn y pen draw yw y bydd y fferm yn cynnal mentrau adfywiol yn seiliedig ar dda byw (ar nifer gymharol fach o erwau) – a fydd, o’u cyfuno â’r ffrwythau a’r llysiau, yn gallu darparu deiet cyflawn i'r gymuned leol, tra hefyd yn gallu dangos arferion adfywiol i dirfeddianwyr a ffermwyr sydd â diddordeb.  

 

2    Amserlen

2.1    Ar y diwrnod cyntaf, roedd y daith fferm drylwyr yn ddiddorol iawn, a chawsom drosolwg o’r holl fentrau gwahanol ar y fferm, gan gynnwys amaeth-goedwigaeth, twristiaeth, brwyliaid, ieir dodwy, moch, cig eidion a’r ardd farchnad. 

2.2    Ar yr ail ddiwrnod, buom yn ymarfer mapio ein safleoedd, yn y dosbarth ac yn y maes, gan ddefnyddio offer fel y “bunyip”. 

2.3    Ar y trydydd diwrnod, buom yn edrych ar systemau dŵr amrywiol, sut i symud dŵr o gwmpas a chasglu a storio dŵr glaw, yn ogystal â sut i ddyfrio gardd farchnad ac ardaloedd eraill trwy systemau sy'n cael eu bwydo gan ddisgyrchiant. 

2.4    Ar y pedwerydd diwrnod, dysgon ni am ddylunio amaeth-goedwigaeth, yn ogystal â sut i redeg a lluosogi meithrinfa goed. 

2.5    Ar y pumed diwrnod, dysgon ni am borfa ac iechyd y pridd a’r anifeiliaid cnoi cil. Edrychom ar y camau y mae Matt wedi’u cymryd i wella pridd a phorfa a’r rôl y gall lonydd coed ei chwarae yn hyn o beth. 

2.6    Treuliom y chweched diwrnod yn yr ardd farchnad, yn edrych ar dechnegau tyfu, lluosogi, dyfrhau, offer, iechyd a diogelwch. 

2.7    Ar y seithfed diwrnod, fe ddysgon ni am iechyd y pridd, ac edrychon ni ar y compostio a wneir yn Henbant a’r te compost a ddefnyddiwyd, yn ogystal â bio-wrtaith a bio-olosg, gan adolygu’r hyn a ddysgon ni a’n dealltwriaeth hyd yma. 

2.8    Ar yr wythfed diwrnod, dysgon ni am werthu a marchnata’r mentrau yn Henbant a sut mae’r cynllun bocsys llysiau yn cael ei farchnata a sut mae wedi tyfu.  

Ar y diwrnod olaf, fe wnaethom adolygu dyluniadau fferm gan wahanol fynychwyr, gan ystyried popeth yr oeddem wedi'i ddysgu a'i ymarfer yn ystod yr wythnos.

 

3    Y camau nesaf

Rydym wedi sefydlu grŵp WhatsApp ar gyfer Regen Ag yng Nghymru, a fydd yn cael ei ddefnyddio i rannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu a hybu trafodaeth a rhannu syniadau. Rydym yn bwriadu cael cyfarfod Zoom bob cwpl o fisoedd y gall unrhyw aelod o’r grŵp ei fynychu, i adolygu cynlluniau a thrafod syniadau. Ymdrinnir ag un pwynt o'r cwrs ym mhob cyfarfod. 

Mae Tash yn bwriadu adolygu cynlluniau a chyllidebau ar gyfer cynhyrchu twrci, cynhyrchu bîff ac ieir dodwy, yn ogystal â thwristiaeth. Bydd hi hefyd yn adolygu ffrwythlondeb y pridd i sefydlu gwaelodlin, cyn dechrau system bori gynlluniedig cyfannol gyda’r gwartheg.

Mae Al a’i phartner yn creu cynllun busnes ar gyfer eu menter fferm cyn sefydlu cynllun dielw i reoli’r ardal gyhoeddus o’r tir. Mae Al a’i phartner yn bwriadu prynu tir er mwyn rhedeg menter ffermio cymysg fechan ar gyfer cigoedd a chynnyrch arall o safon uchel yn syth i siopau a bwytai organig. Bydd y tir yn cael ei redeg fel safle hanes byw, gyda bridiau prin lle bydd Al yn cynnal sesiynau i bobl ag anghenion iechyd meddwl. 

Mae Dylan yn adolygu cynlluniau a chyllidebau ar gyfer gardd farchnad a defaid.