Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Taith Astudio Ffermwyr Llangwyryfon
Taith Astudio Ffermwyr Llangwyryfon
Powys, Sir Gaer a Sir Gaerwrangon
16 – 18 Awst 2019
Aeth 27 o ffermwyr o ardal Llangwyryfon ar daith astudio trwy Bowys, Sir Gaer a Sir Gaerwrangon. Nod y daith oedd rhoi cyfle i’r ffermwyr i weld systemau ffermio amrywiol ac ymweld â ffermwyr oedd wedi ennill rhai o brif wobrau amaethyddol Prydain megis Arloeswr Ffermio Defaid 2018, Ffermwr Bîff y Flwyddyn 2012 a Gwobrau Tir Glas. Penderfynwyd ymweld ag amrywiaeth o ffermwyr o wahanol sectorau gan fod cymysgedd o ffermwyr o fewn y grŵp. Y gobaith oedd y byddai gweld systemau amrywiol yn ysbrydoli’r grŵp i anelu’n uwch ac i wneud newidiadau i’w busnesau eu hunain adre.
Dechreuwyd y daith gydag ymweliad â fferm Alun a Helen Bennett a’u dau fab a merch, Robert, Catherine a Hywel, yn Upper Hall, Meifod. Cafwyd croeso arbennig gan y teulu sy’n cadw 600 o ddefaid Lleyn, diadell o Texels, 120 o wartheg Holstein a 64,000 o ieir. Yn gyntaf, cafwyd cyflwyniad gan Catherine Price am hanes datblygu’r busnes, gan nodi sut oedd y fferm wedi datblygu i wahanol gyfeiriadau dros y blynyddoedd a beth oedd rôl pob aelod o’r teulu. Yna, aeth y grŵp i weld eu defaid Texel oedd yn cael eu paratoi ar gyfer arwerthiannau’r tymor cyn ymweld â’r parlwr godro. Ar ôl cinio, aeth y grŵp i weld y ddwy sied ieir oedd wedi eu lleoli ar ddwy fferm wahanol.
Ffigwr 1. Yn y sied ieir
Aethont ymlaen wedyn i fferm David a Rachel Lee a’u mab James, Winnington Green, Middleton. Fferm laeth oedd hon oedd yn godro 405 o wartheg gyda pharlwr godro rotari. Roedd pwyslais y fferm yma ar gynhyrchu llaeth o laswellt a’u prif amcan oedd rhedeg busnes proffidiol drwy system ymarferol. Roeddent yn cadw gwartheg Jersey x Friesian gan fod y rhain yn llai o faint a ddim mor drwm i bori’r caeau. Dim ond am 10 mis o’r flwyddyn roeddent yn godro gan eu bod yn lloia i gyd yn y gwanwyn.
Ffigwr 2. Ar fferm Winnington Green
Treuliodd y grŵp noson mewn gwesty ger Wrecsam, cyn mynd yn y bore i fferm laeth Evan Jones a’r teulu, Crewe Hall Farm, Crewe by Farndon. Roedd hon yn fferm werth ei gweld gyda 1,100 o wartheg godro a’r cyfan o dan do ar wely tywod. Roedd ganddynt barlwr godro rotari oedd yn godro 60 o wartheg ar y tro, ac roeddent yn godro tair gwaith y dydd. Ymunodd milfeddyg y fferm gyda’r grŵp i esbonio eu system gofal iechyd anifeiliaid, ac roedd hi’n braf iawn gweld y teulu i gyd yn cymryd rhan yn y daith o gwmpas y fferm, o’r plentyn ieuengaf i’r tadcu.
Ffigwr 3. Un o siediau Crewe Hall
Ffigwr 4. Fferm Crewe Hall
Oddi yno, aeth y grŵp i weld fferm Ian Norbury yn Mobberley, Sir Gaer. Roedd yn cadw 90 o wartheg Aberdeen Angus ac yn eu pori mewn system gylchdro. Roedd ei fferm wedi ei lleoli yn agos i faes awyr Manceinion ac roedd awyrennau yn hedfan yn agos uwch ein pennau drwy gydol yr amser. Mae hon yn un o ffermydd strategol AHDB. Yn ogystal â chadw gwartheg, roedd Ian hefyd wedi manteisio ar ei leoliad daearyddol trwy logi rhai o’r adeiladau i wahanol fusnesau ac llogi cae ar gyfer lleoliad i briodasau.
Ffigwr 5. System ddŵr i’r pori cylchdro
Y bore canlynol, aeth y grŵp i ymweld â fferm ddefaid Sam Jones, Brookhouse Farm, Ham Green. Roedd Sam wedi ennill gwobr Ffermwr Defaid Arloesol y Flwyddyn yn 2018, ac roedd yn rhoi tipyn o sylw i dechnoleg newydd ar ei fferm. Cafwyd tipyn o ddiddordeb yn ei fentrau arallgyfeirio, o’r boiler biomass i’w siediau storio.
Ffigwr 6. Sam Jones
Gwersi a ddysgwyd
- Sylw i fanylder yn bwysig
- Manteisio ar gyfleodd i ddod ag incwm newydd i mewn i’r fferm
- Yr elw ar ddiwedd y dydd sy’n bwysig, nid o reidrwydd maint y fferm neu’r busnes