Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - NFU Clwyd

Mae'r adroddiad canlynol wedi ei ysgrifennu gan y ffermwyr a'r coedwigwyr a gymerodd ran yn yr ymweliadau. Eu barn hwy eu hunain yn unig sydd wedi'i gynnwys.

NFU Clwyd

Ayrshire ac Ynys Arran

7fed – 10fed o Fai 2017


1) Cefndir

Trefnwyd y daith astudio hon i Gledpark Venison, fferm geirw yn yr Alban, fel cyfle i’r grŵp ddysgu am y gwaith o redeg fferm geirw o ddydd i ddydd gan stocmon profiadol iawn. Yn gyffredinol, cynhyrchwyr bîff a defaid yw’r grŵp yn ogystal â ffermwyr llaeth a thyfwyr tir âr. Ni cheir lawer o arallgyfeirio o fewn y grŵp felly rhoddodd yr ymweliad hwn i’r Alban fewnwelediad o ran beth y gellir ei ddatblygu yng Ngogledd Cymru, yn hytrach na’r mathau cyffredin neu draddodiadol o ffermio y mae’r grŵp yn eu harfer ar hyn o bryd.

 

2) Amserlen

1.1        Diwrnod 1

Gledpark Venison Farm

Aeth y grŵp ar daith o amgylch y fferm cyn gwrando ar gyflwyniad diddorol iawn gan y ffarmwr. Cafodd y grŵp gyfle i weld stoc bridio’r fferm a’r math o dir sydd ei angen ar gyfer y gyr. Dangosodd y ffermwr sut yr oedd yn defnyddio’r cyfleusterau trin a phwysleisiodd y pwysigrwydd o gael offer sydd wedi’i ddylunio i wneud bywyd yn haws ac yn saff ar gyfer yr anifail a’r gweithiwr bob amser. Eglurwyd y broses o ddifa anifeiliaid ar gyfer y fasnach cig yn fanwl. Eglurodd hefyd sut y bwtsierir y carcasau ar gyfer tair marchnad wahanol: yn uniongyrchol i’r lladd-dy ar gyfer archfarchnadoedd a bwtsiero gartref ar gyfer cwsmeriaid unigol a bwytai. Roedd y pynciau a drafodwyd yn ystod y cyflwyniad yn cynnwys marchnata ceirw ar gyfer bridio a chig, hwsmonaeth da byw a’r camau cyntaf o ran newid busnes yn cynnwys darganfod marchnad ar gyfer eich cynnyrch a sefydlu gyr o geirw.

 

1.2        Diwrnod 2

Isles of Arran Distillers ac Amgueddfa Hanes Ffermio

Bu’r grŵp yn ymweld ag Ynys Arran a’r ddistyllfa lleol, Arran Distillery. Cafodd y grŵp daith o amgylch y ddistyllfa a oedd yn cynnwys cyflwyniad ar y broses o greu’r wisgi a’r pwysigrwydd o ddefnyddio deunydd o ffynhonnell leol er mwyn gwneud y cynnyrch gorffenedig yn unigryw. Aeth y grŵp i weld amgueddfa hanes ffermio hefyd.

 

1.3        Diwrnod 3

Culzean Castle & The Museum of Ayrshire County

Bu’r grŵp yn ymweld Castell Culzean, The Museum of Ayrshire County ac arsyllfa.

 

1.4        Diwrnod 4

Robert Burns Museum

 

3) Camau Nesaf

Mae ymweld â’r fferm geirw yn sicr wedi ysgogi trafodaeth ar wahanol gyfleoedd ar gyfer arallgyfeirio.  Roedd y grŵp wedi rhyfeddu gyda pha mor hawdd oedd y system ffermio ceirw a sut oedd y fenter yn rhedeg ar gost isel yn dilyn y buddsoddiad cychwynnol o £35,000 ar gyfer ffensio a chost o £500 fesul anifail yn y flwyddyn gyntaf. Nodwyd na wnaed llawer o ddefnydd o beiriannau fferm ar y fferm a gwnaeth rhai o’r aelodau sylwadau ynglŷn â sut y gallant addasu’r un polisi i’w ffermydd eu hunain er mwyn lleihau costau cyfalaf. Mynegodd rhai unigolion bryderon ynghylch pu’n a oes yna farchnad ar gyfer cig carw ond nododd y ffermwr ein bod yn mewnforio dros hanner o’r hyn yr ydym yn ei fwyta yn y DU a bod yna fwlch yn y farchnad. Creda’r grŵp ei bod hi’n ddiddorol sut oedd Gledpark yn gwella eu busnes drwy’r amser gan gynnwys yr ychwanegiad diweddaraf sef cael eu derbyn i’r cynllun sicrwydd ansawdd, sy’n golygu mai’r fferm yw’r fferm geirw gyntaf yn yr Alban i gyflawni hyn.

Rwy’n credu’n gryf y bydd rhai o aelodau’r grŵp yn gwneud ymholiadau pellach o ran ffermio ceirw fel unigolion a byddaf yn sicr yn ystyried cynhyrchu cig carw fel opsiwn ar gyfer fy musnes yn y dyfodol. Os nad yw’r ymweliad wedi dwyn perswâd ar rai o aelodau’r grŵp i gadw ceirw yn y dyfodol yna mae’n sicr wedi ysgogi meddyliau ynghylch sut yr ydym yn rhedeg ein busnesau o ran costau cyfalaf, gwneud ein mentrau mor effeithlon â phosib er mwyn cynyddu elw a hefyd sut y gallant werthu ein cynnyrch gyda llai o ddibyniaeth ar y rhyngfasnachwr, a allai arwain at gynnydd mewn elw. 

Credaf y byddai’n ddatblygiad diddorol pe bai Cyswllt Ffermio yn medru hwyluso rhyw fath o ddigwyddiad ynghylch ffermio ceirw yn y dyfodol os oes yna ddigon o ddiddordeb.