Pam fyddai Delyth yn fentor effeithiol

  • Mae Delyth, sydd wedi gweithio fel rheolwr banc amaethyddol ers 15 mlynedd, yn cynnig arweiniad i nifer o fusnesau fferm. Mae’n eu hannog i wneud newidiadau bach sy’n arwain at welliannau sylweddol yn ogystal ag ychwanegu gwerth at eu mentrau
  • Yn briod â ffermwr defaid, mae’n helpu ar y fferm gyda thasgau bob dydd yn ystod adegau prysur. Mae gan Delyth wybodaeth am y mwyafrif o’r sectorau ac mae’n awyddus i helpu ffermwyr i werthfawrogi y gall y gweithredoedd a’r penderfyniadau a gymerir o fewn busnes ddylanwadu taliadau allan trwy gyfrifon masnachu
  • Gyda chyfrinachedd y peth pwysicaf bob amser, mae Delyth yn awyddus i rannu ei gwybodaeth o ran arfer orau, busnes, olyniaeth a chynllunio ariannol yn ogystal â chynghori ffermwyr pryd y dylent ofyn am gymorth annibynnol gan gynghorwyr proffesiynnol eraill wrth wneud penderfyniadau strategol
  • Mae Delyth yn wrandäwr da gyda dealltwriaeth o anghenion busnesau fferm a choedwigaeth yn gyffredinol, a gall eich helpu i gael y gorau o’r berthynas gyda’ch rheolwr banc

Rôl bresennol

  • Rheolwr amaethyddol gyda banc blaenllaw’r stryd fawr ers 2003
  • Yn cymryd rhan weithredol ar y fferm deuluol

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

Ers mynychu Ysgol Uwchradd Aberhonddu a chwblhau blwyddyn o astudiaethau busnes yng Ngholeg Powys, llwyddodd Delyth sicrhau gyrfa gydol oes lwyddiannus gyda banc y stryd fawr mewn ardal wledig.
Mae ei phrofiadau bancio yn cynnwys derbyn arian, cadw cyfrifon, gweinyddiaeth amaethyddol ac, ers 2003, ei swydd uwch reoli bresennol.

 

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Does y fath beth â fferm gyffredin neu ffermwr cyffredin.”

“Gweithiwch hyd orau eich gallu.”

“Lluniwch gynllun strategol tymor byr, canolig a thymor hir.”