Pam fyddai Ioan yn fentor effeithiol

  • Mae gan Ioan wybodaeth fanwl am gynlluniau grant y gall ffermwyr a thyddynwyr fanteisio arnynt, gan gynnwys y cynllun Grantiau Bach newydd (Amgylchedd), gyda’r ffenest ymgeisio yn agor 23 Mai, 2022.
  • Mae Ioan yn unigolyn hawdd mynd ato, cyfeillgar, cydwybodol sy’n gweithio’n galed ac mae’n angerddol am ffermio a’r amgylchedd. Mae’n disgrifio ei hun fel person pobl ac mae’n ffynnu ar weithio gydag eraill. Bydd bywyd proffesiynol a phrofiad ymarferol Ioan yn eich helpu i ddarganfod y datrysiadau cywir ar gyfer eich fferm. Cymraeg yw iaith gyntaf Ioan.
  • Trwy’i fagwraeth mewn cymuned wledig mae gan Ioan ddealltwriaeth ddofn o’r gymuned amaethyddol, ac mae gweithio yn y sector amgylcheddol am y 13 mlynedd diwethaf wedi rhoi gwybodaeth iddo am y pwysau sy’n effeithio ar yr amgylchedd amaethyddol yng Nghymru. Rhoddodd gyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion buarth fferm gan gynnwys storfeydd slyri. Bu’n gweithio gyda ffermwyr hefyd i wella eu rheolaeth ar briddoedd a maetholion, yn helpu ffermwyr i greu arbediadau ariannol sylweddol trwy reoli tail a gwrtaith yn well. Yn ystod yr amser hwn mae Ioan wedi datblygu sgiliau trosglwyddo gwybodaeth da iawn ac mae’n angerddol am ddefnyddio’r sgiliau hynny i helpu eraill i ddatblygu mentrau fferm cynaliadwy, proffidiol
  • Gwnaed gwaith amgylcheddol sylweddol ar y fferm dan gynllun Glastir Uwch. Mae’r gwaith yn cynnwys cilomedrau lawer o adfer gwrychoedd a ffensio dwbl, glanhau ffosydd, plannu coed, ffensio coridorau glannau nentydd ac adfer adeiladau traddodiadol. Mae’r gwaith cyfalaf wedi gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb y fferm trwy alluogi gwell defnydd o laswelltir, oherwydd y ffensys newydd a gwndwn gwell trwy dyfu cnydau gwraidd ac ail hadu
  • Mae gan Ioan ddealltwriaeth sylweddol o gynlluniau amaeth-amgylchedd ac mae wedi gwneud defnydd o Glastir Uwch a Grantiau Bach Glastir. Gall Ioan eich arwain trwy’r ddau, a’ch cynorthwyo i gael y gorau allan o unrhyw gynlluniau ac osgoi unrhyw beryglon. Gall drafod grantiau plannu coetir ac adfer coetir hefyd. Gyda phwyslais cynyddol ar ansawdd a deddfwriaethau dŵr, gall Ioan eich mentora trwy’r gwahanol reolau a’r deddfwriaethau diweddaraf.
  • Mae gwaith presennol Ioan, fel Arweinydd Tîm i Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cynnwys rheoli tîm o bump o Uwch Reolwyr Gwarchodfa sy’n gofalu am y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ar draws 5000 hectar yn Ne Orllewin Cymru
  • Gweithiodd Ioan yn glos gyda CFfI, NFU Cymru, UAC a Cyswllt Ffermio i roi hyfforddiant i ffermwyr ifanc mewn dyddiau arddangos a theithiau fferm, yn ogystal â chyflwyno cyflwyniadau i grwpiau o ffermwyr ifanc ar faterion amgylcheddol
  • Mae sgiliau rhyngbersonol Ioan yn ei alluogi i weithio’n dda gyda phobl a llunio perthynas yn gyflym. Bu’n mentora staff ers dros saith mlynedd ac mae’n mwynhau gwylio pobl yn tyfu a datblygu
  • Ioan yw’r prif ddeiliad ar y busnes fferm teuluol ers Ebrill 2014, sy’n rhoi dealltwriaeth iddo o realiti rheoli busnes fferm o ddydd i ddydd. Mae hefyd wedi helpu datblygu helfa ar y fferm ac mae ganddo brofiad o ddewis cnydau gorchudd addas, gan ddefnyddio’r cnydau gorchudd ar gyfer yr helfa yn ogystal â phori defaid. Mae Ioan wedi gweithio’n agos gyda thyddynwyr yn y gorffennol a’u helpu i ddechrau gwaith cadwraeth.
  • Wrth weithredu fel mentor dan y cynllun YESS mae Ioan wedi mwynhau gweithio gyda theuluoedd amaethyddol i’w helpu i ddatblygu eu busnesau 
  • Gall Ioan gynnig cefnogaeth ar y rheoliadau llygredd amaethyddol newydd.

Busnes fferm presennol

  • Mae Brynsegur yn fferm 230 erw sy’n cynnwys 70 erw o goetir llydanddail a 30 erw o dir ymhellach o’r daliad sydd yn SoDdGA dynodedig
  • Gosodir y fferm i’w phori gan wartheg yn yr haf a defaid tac yn y gaeaf
  • Tyfir chwe erw o gnydau gwraidd yn flynyddol, sy’n cael eu defnyddio fel cuddfan i’r helfa a redir ar y fferm, ac yna gwerthir y cnwd ar ei draed i ffermwr defaid i besgi ŵyn stôr
  • Defnyddir cynlluniau Glastir Sylfaenol ac Uwch i wella isadeiledd y fferm a’r amgylchedd

Cymwysterau/ cyraeddiadau/ profiad

  • Diploma Cenedlaethol mewn Rheoli Cefn Gwlad a NVQ Lefel 2 mewn Cipera 1997-1999
  • BSc Anrh. Rheolaeth Cefn Gwlad, Prifysgol Aberystwyth 1999-2002
  • Cynghorydd Cadwraeth Fferm i’r Grŵp Cynghori Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG Cymru) 2002-2005
  • Cydlynydd dalgylch, Cyfoeth Naturiol Cymru 2005-2015
  • Arweinydd Tîm Cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru 2015 – ymlaen
  • Mentor Cynllun Cefnogi Newydd-ddyfodiaid 2016
  • Prifysgol Harper Adams BASIS FACTS - MBPR (Fert) 

 

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar unrhyw help ac arian sydd ar gael.”

“Gwybod ble yr ydych am eich gweld eich hun ymhen pum mlynedd a chadw meddwl agored o ran unrhyw bosibiliadau.”

“Gyda newidiadau o ran sut bydd ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am ofalu am yr amgylchedd dan y cynllun talu newydd, mae’n amser da i ddechrau meddwl am y cyfleoedd amgylcheddol are ich fferm a sut i wneud y mwyaf ohonynt.”